22 October 2012
Dydd Mawrth 23 Hydref
Dylai asiantau wneud mwy i daclo aflonyddu ar sail anabledd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar ben-blwydd marwolaethau Pilkington yn bump oed.
Mae angen i awdurdodau gymryd camau pellach i sicrhau bod aflonyddu ar bobl anabl yn cael ystyriaeth ddifrifach i’w atal rhag dwysáu ac arwain at sefyllfa fel yr un y cafodd Fiona Pilkington a’i merch anabl Francecca eu hunain bum mlynedd yn ôl, meddai’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw.
Yn 2011, ymgymerodd y Comisiwn ag ymchwiliad a oedd yn torri tir newydd i aflonyddu ar sail anabledd, a chanfu fod awdurdodau cyhoeddus a gweithredwyr trafnidiaeth yn methu’n systematig i atal aflonyddu ar sail anabledd.
Mae adroddiad dilynol a gyhoeddwyd heddiw’n amlinellu’r ymatebion ers hynny gan lywodraeth, awdurdodau a gweithredwyr trafnidiaeth. Dengys y bod llawer yn cymryd camau arwyddocaol, yn gwneud cynnydd, yn unigol ac ar y cyd, tuag at wireddu gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r camau hyn yn cynnwys:
Ond dengys tystiolaeth y Comisiwn fod y camau a gymerwyd i atal a thaclo aflonyddu yn anghyson gyda rhai awdurdodau yn gwneud dim neu fawr ddim o gwbl.
Mae Rhwydwaith Troseddau Casineb ar sail Anabledd yn dal yn dangos yn ddyddiol, enghreifftiau o helyntion ymosodol yn erbyn pobl anabl. Cynyddodd yr helyntion o droseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2011/12 o 34.6% ar y flwyddyn flaenorol sy’n awgrymu bod fwy o droseddau casineb yn digwydd yn erbyn pobl anabl neu fod mwy o bobl yn barotach i sôn amdano. Eto, dengys ffigyrau eraill fod llai na 3.5% o droseddau casineb ar sail anabledd yn cael eu crybwyll neu eu hadnabod felly.
Yn ei adroddiad ‘Out in the Open: a manifesto for change’ a gyhoeddwyd heddiw, mae’r Comisiwn yn gwneud argymhellion mewn 7 maes strategol sydd yn rhaid mynd i’r afael â hwy os cwtogir aflonyddu ar sail anabledd:
Meddai Mike Smith, Comisiynydd arweiniol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i’r Ymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd:
“Rydym yn croesawu’r ymroddiad a’r arweinyddiaeth sydd yn cael ei ddangos gan lywodraeth ac eraill mewn perthynas â’n hargymhellion, ond mae cymaint o hyd y gallwn a dylem ei wneud ar y cyd fel cymdeithas. Bydd ymateb y cyhoedd i Gemau Paralympaidd Llundain 2012 yn gam tuag at greu ymagweddau mwy cadarnhaol tuag at bobl anabl. Ond mae anghysondeb yn dal yn bod rhwng hyn a’r realiti o ddydd i ddydd i lawer o bobl anabl sy’n cwyno am gamdriniaeth ac yn aml yn dioddef gan “loteri cod post” yn y modd y trinnir eu honiadau.
"Efallai bod y broblem o aflonyddu ar sail anabledd “allan yng ngolau dydd” ond yn sicr nid yw eto wedi’i ddatrys. Mae rhaid i ni i gyd, yn arbennig mewn cyfnod o lymder, weithio i orchfygu’r malltod hwn ar ein cymdeithas.’’
Diwedd
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.
Nodiadau i olygyddion
Gellir canfod yr adroddiad ‘Out in the Open: a Manifesto for Change’ gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Medi 2012 yma:
www.equalityhumanrights.com/disabilityharassmentfi
Dolen i adroddiad gyda throseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2011/12 fesul rhanbarth yr heddlu.
Gellir canfod O’r Golwg yng Ngolwg Pawb, Ymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd, Medi 2011, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma:
Gellir canfod ymateb ffurfiol llywodraeth y Deyrnas Unedig i argymhellion O’r Golwg yng Ngolwg Pawb yma:
http://odi.dwp.gov.uk/odi-projects/hidden-in-plain-sight.php
Gellir canfod Rhwydwaith Troseddau Casineb ar sail Anabledd yma:
http://www.disabilityhatecrime.org.uk/
Ar 23 Hydref 2007 bu farw Fiona Pilkington a’i merch anabl, Francecca Hardwick, ar ôl blynyddoedd o gamdriniaeth er gwaethaf galwadau di-rif at yr awdurdodau am gymorth. Dangosodd y cwest fod camau ymyrryd ac ataliol cynnar yn hanfodol, a bod rhaid i awdurdodau weithio mewn partneriaeth i daclo’r broblem hon yn effeithiol.
Mae Mike Smith, y Comisiynydd arweiniol i’r Ymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd, ar gael ar gyfer cyfweliadau darlledu ac i’r wasg. Cysylltwch â’r swyddfa wasg i drefnu hynny.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.