30 October 2012
Dydd Mawrth 30 Hydref
Penododd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Agnes Fletcher, ffigwr blaenllaw yn y mudiad anabledd, i rôl adolygydd annibynnol ei Bwyllgor Anabledd.
Bydd Agnes, sy’n arbenigwr uchel ei pharch ar ddeddfwriaeth gydraddoldeb, polisi ac arfer; cyn cyfarwyddwr y Comisiwn Hawliau Anabledd a chynghorydd i lywodraeth, yn ymgymryd ag adolygiad statudol o’r Pwyllgor yn ôl gofynion Deddf Cydraddoldeb 2006.
Gwnaeth y Ddeddf Cydraddoldeb ddarpariaeth ar gyfer yr adolygiad ar ôl i’r Pwyllgor fod ar waith am bum mlynedd, i bennu pa mor hir y dylai barhau fel corff statudol. Bydd yr adolygiad yn cynnwys ymgynghoriad â phobl anabl ar draws Cymru, Yr Alban a Lloegr.
Mae gan Bwyllgor Anabledd y Comisiwn bwerau i wneud penderfyniadau ar waith y Comisiwn sy’n ymwneud â’r materion hynny o ran anabledd yn unig, ac mae’r Comisiwn yn ceisio am gyngor y Pwyllgor ar y materion oll sy’n ymwneud ag anabledd mewn ffordd arwyddocaol.
Bydd Agnes yn dechrau ar ei gwaith ym mis Tachwedd ac yn adrodd yn ôl wrth fwrdd y Comisiwn erbyn diwedd mis Mawrth 2013. Wedi ystyried ei hargymhellion, bydd y Comisiwn wedyn yn adrodd wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr adran sydd yn ei noddi. Caiff gwelliant ei wneud i Ddeddf Cydraddoldeb 2006 yn unol â hynny.
Meddai Agnes Fletcher:
“Mae gweithrediad effeithiol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn hanfodol o ran cynnydd cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Mae’n her ac yn bleser i mi gael rôl mor bwysig o gynghori’r Comisiwn ar ei strwythur llywodraethu yn y dyfodol.”
Meddai’r Farwnes Margaret Prosser, Cadeirydd Dros dro’r Comisiwn:
“Rwy’n falch bod rhywun ag ymrwymiad a phrofiad Agnes ym myd anabledd wedi’i phenodi i’r rôl bwysig hon a gwn y bydd yn ymgymryd â’u dyletswyddau â’r trylwyredd angenrheidiol. Edrychaf ymlaen at gael ei hadroddiad.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.