Ymyriad y Comisiwn yn Adolygiad Barnwrol R v Cyngor Sir Ddyfnaint

08 October 2012

8 Hydref 2012

Heddiw, bydd y Comisiwn yn ymyrryd yn Adolygiad Barnwrol R (Cartrefi Gofal De Orllewin ac eraill) v Cyngor Sir Ddyfnaint lle byddwn yn amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau cyhoeddus i ddangos sylw dyledus i’r angen i gael gwared â gwahaniaethu  a hyrwyddo cyfle cyfartal.

Gofynnwyd am yr Adolygiad mewn ymateb i nifer o gartrefi gofal a gododd bryderon am y diffyg arian ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl a ddyrannwyd iddynt gan Gyngor Sir Ddyfnaint.

Meddai John Wadham, Cyfarwyddwr Grŵp Cyfreithiol yn y Comisiwn:

'Gobeithio, bydd yr achos hwn yn amlygu pa mor bwysig yw hi i awdurdodau lleol ystyried anghenion pob defnyddiwr gwasanaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  Os wna awdurdodau lleol nodi unrhyw effeithiau andwyol posibl ar ‘grwpiau gwarchodedig’ megis preswylwyr cartrefi gofal hŷn ac anabl, mae angen iddynt ddangos bod y rhain wedi’u hystyried cyn rhoi cynlluniau ar waith.'

Diwedd

Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.

Gall aelodau’r cyhoedd gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghorol a Chymorth Cydraddoldeb ar 0800 444 205 neu drwy ffôn testun ar 0800 444 206.

Nodiadau i Olygyddion

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog  cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.

Mae canllaw ar y Ddeddf Cydraddoldeb yn: