Close to home - Ymchwiliad i bobl hŷn a hawliau dynol ym maes gofal cartref
01 October 2012
1 Hydref 2012
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn croesawu’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oedran a ddaeth i rym heddiw yng Nghymru a Lloegr o ran gwasanaethau .
Mae tystiolaeth a gasglwyd gan y Comisiwn yn dangos sut mae cynifer o bobl oedrannus yn dioddef camdriniaeth a gwahaniaethu oherwydd eu hoedran. Dywedodd llawer o bobl oedrannus wrth y Comisiwn fod gweithwyr gofal yn eu trin yn wael ar sail stereoteipiau ynghylch eu hoedran, yn hytrach na hwy fel unigolion.
Mae hyn yn cynnwys diffyg cymorth i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned leol; cymorth a oedd ar gael i bobl ifancach. Mewn achos arall, honnodd hen ddyn 84 oed a oedd yn aros am lawdriniaeth frys ei fod wedi ei rhoi ar waelod rhestr aros chwe mis ac y dywedwyd wrtho mai person ifancach fyddai'n manteisio yn sgil pobl yn canslo dyddiadau llawdriniaeth a drefnwyd ar eu cyfer.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i unrhyw sefydliad sy’n cyflenwi gwasanaeth preifat neu gyhoeddus i wahaniaethu yn erbyn, aflonyddu neu erlid oedolyn ar sail eu hoed, gan gynnwys oedolion ifancach yn ogystal ag oedolion henach.
Bydd aelodau a gwesteion clybiau a chymdeithasau ac unrhyw un sydd yn rhwym i ‘swyddogaethau cyhoeddus’ megis casglu treth, hefyd, yn cael eu diogeli.
Nid yw’r gwaharddiad yn absoliwt. Caiff triniaeth wahaniaethol ar sail oed ei ganiatáu os yw’n cael ei gynnwys gan un o’r eithriadau a gyflwynid i’r Ddeddf Cydraddoldeb. Os nad yw eithriad yn gymwys, efallai gall darparwyr gwasanaeth ddangos cyfiawnhad gwrthrychol dros drin pobl yn wahanol oherwydd eu hoed.
Meddai John Wadham, Cwnsler Cyffredinol yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Mae’r gwaharddiad newydd ar wahaniaethu ar sail oedran yn newid arwyddocaol yn y ddeddf; un y mae’r Comisiwn bob amser wedi ei gefnogi.
"Gall y rhan fwyaf o driniaethau buddiol sy’n seiliedig ar oedran barhau ac ni fydd rhaid i fusnesau newid eu hymarferion. Fodd bynnag, dylai pawb wybod fod y gwaharddiad yn awr wedi dod i rym.
"Dros y misoedd nesaf, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi canllaw ac yn gweithio gyda busnesau, cyrff cyhoeddus ac unigolion i egluro’r rheoliadau newydd."
Diwedd
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau arferol 07767 272 818.
Mae’r prif eithriadau i’r gwaharddiad newydd ar wahaniaethu ar sail oed o ran gwasanaethau, swyddogaethau cyhoeddus a chymdeithasau’n cynnwys:
Nid oes eithriadau arbennig i iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y sectorau hyn, mae rhaid cyfiawnhau unrhyw driniaeth yn seiliedig ar oedran yn wrthrychol.
Bu gwahaniaethu ar sail oedran ym myd cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol yn anghyfreithlon ers mis Hydref 2006. Mae’r darpariaethau oedran hyn wedi’u cadarnhau yn awr yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Canfu ymchwiliad y Comisiwn i’r henoed a hawliau dynol o ran gofal cartref (‘Close to home’) dystiolaeth o wahaniaethu ar sail oedran mewn gwasanaethau gofal cartref. Un o argymhellion yr ymchwiliad oedd y dylai’r gwaharddiad ar wahaniaethu ar sail oedran o ran gwasanaethau gael ei rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Ar 14 Rhagfyr 1990, clustnododd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 1 Hydref yn Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o effaith poblogaeth sy’n heneiddio a’r angen i sicrhau y gall pobl heneiddio’n urddasol a pharhau i gyfranogi mewn cymdeithas fel dinasyddion a hawliau llawn ganddynt. Thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn eleni yw: "Hirhoedledd: Llunio’r Dyfodol". http://www.un.org/en/events/olderpersonsday/
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Mae’n annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol a chaiff ei gydnabod gan y Cenedloedd Unedig fel Sefydliad Hawliau Dynol Cenedlaethol statws A. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.