Darganfyddwch rhagor am ein hasesiad cydraddoldeb o Adolygiad Gwariant 2010 y llywodraeth
14 May 2012
14 Mai 2012
Mae’r Comisiwn heddiw yn cyhoeddi ei asesiad cydraddoldeb o Adolygiad Gwariant 2010 y llywodraeth.
Mae adroddiad y Comisiwn yn ystyried i ba raddau roedd y penderfyniadau a wnaed gan weinidogion a swyddogion y Trysorlys yn bodloni rhwymedigaethau cyfreithiol i ystyried yr effaith ar gydraddoldeb wrth gwblhau’r Adolygiad. Dyma’r tro cyntaf i asesiad o’r raddfa a’r math hwn gael ei gynnal.
Mae dadansoddiad y Comisiwn yn cwmpasu’r broses gwneud penderfyniadau manwl yn yr Adolygiad Gwariant o’r dechrau i’r diwedd. Mae wedi cael ei fwydo drwy fynediad digyffelyb at ddogfennau cyfrinachol o Drysorlys ei Mawrhydi ac adrannau arall y llywodraeth a sesiynau tystiolaeth lafar â gweinidogion, gan gynnwys y prif ysgrifennydd i’r Trysorlys, ac uwch weision sifil o’r Trysorlys, Adran Waith a Phensiynau a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Yn ôl y gyfraith, roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus fel Trysorlys ei Mawrhydi i arddangos ar adeg yr Adolygiad Gwariant eu bod wedi ystyried yn llawn, effeithiau posibl eu penderfyniadau ar fenywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl ac y gellid cyfiawnhau unrhyw benderfyniadau a oedd yn effeithio ar y grwpiau hyn.
Mae’r adroddiad yn canmol Gweinidogion a swyddogion am eu hymdrechion "o ddifrif" i ateb gofynion eu rhwymedigaethau. Canfu fod y Trysorlys, mewn chwe achos, wedi gweithredu’n unol â’r gofynion o dan y dyletswyddau cydraddoldeb:
Serch hynny, gyda thri achos, dywed y Comisiwn nad oedd wedi llwyddo i gadarnhau a oedd y penderfyniadau yn gwbl mewn cytgord â gofynion y ddyletswydd oherwydd diffyg eglurder ynglŷn ag a) pwy mewn gwirionedd oedd wrth wraidd y penderfyniadau ac b) p’un a oedd adrannau eraill y llywodraeth neu’r llywodraeth gyfan yn gyfrifol ai peidio am rai o’r penderfyniadau.
Yr achosion hyn yw:
Cred y Comisiwn y byddai cymryd camau ffurfiol pellach yn anghymesur yn y tri phenderfyniad penodol hyn. Fodd bynnag, mae’r llywodraeth wedi ymroi i weithio â’r Comisiwn a’i swyddogion i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan yr adroddiad.
Mae adroddiad y Comisiwn yn galw am:
Dywedodd Trevor Phillips, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Bu hyn yn ymarfer heb ei debyg o’r blaen gan y Comisiwn. Roedd didwylledd y Gweinidogion yn gymorth mawr, yn enwedig y Prif Ysgrifennydd a gyflwynodd tystiolaeth a’r Canghellor. Credwn y bydd ein hargymhellion yn gymorth sylweddol i sicrhau bod pob rhan o’r llywodraeth yn fwy abl i fodloni eu rhwymedigaethau cyfreithiol, ac yn bwysicach, i wneud penderfyniadau sydd yn decach ac a welir i fod yn decach.
Peidio â beirniadu’r gorffennol a newid y dyfodol yw’r pwynt allweddol i’r Comisiwn. Rwy’n falch dros ben bod y llywodraeth wedi mynegi parodrwydd i weithio â ni dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i sicrhau y bydd effaith polisiau ar gydraddoldeb yn gwbl eglur i bawb ac wedi’i gyfrif cyn gwneud penderfyniadau. Yn ein tyb ni, bydd hynny’n arwain at dargedu gwell o ran gwariant, defnydd mwy effeithiol o arian cyhoeddus, ac yn anad dim, tegwch i bawb."
Making fair financial decisions - Yr adroddiad cyfan PDF
Making fair financial decisions - Crynodeb gweithredol PDF
Diwedd
Am ragor o wybodaeth i’r cyfryngau, cysylltwch â swyddfa ‘r cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845604 8810, Lloegr 0845 604 6610 a’r Alban 0845 604 5510.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.