Annog herwhelwyr a chadeiryddion i wneud mwy i gynyddu nifer cyfarwyddwyr anweithredol benywaidd ar fyrddau FTSE

28 May 2012

28 Mai 2012

Yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw, mae penodi menywod i rolau cyfarwyddwyr anweithredol rhestredig FTSE 350 yn cael ei lesteirio gan brosesau dethol. Prosesau sydd, yn y bôn, yn ffafrio ymgeiswyr a chanddynt nodweddion sydd yn debyg i’r rhai sydd gan aelodau byrddau presennol lle mae dynion yn goruchafu.

Yr adroddiad hwn, a luniwyd gan Ysgol Reoli Cranfield ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yw’r astudiaeth fanwl gyntaf i’r broses penodi i fyrddau corfforaethol ac i rôl cwmnïau chwilio gweithredol. Mae’n dilyn Adolygiad Davies a gynhaliwyd yn ddiweddar ac a oedd yn annog y cwmnïau chwilio gweithredol i gymryd camau i gynyddu amrywiaeth ar fyrddau FTSE o ran rywedd.

Mae’r adroddiad yn datgelu bod llawer o gadeiryddion a chwmnïau chwilio yn cydnabod y dylid cynyddu amrywiaeth ar lefel byrddau o ran rywedd. Mae cwmnïau chwilio wedi cyflwyno cod ymddygiad gwirfoddol ac wedi lled lwyddo i gael mwy o fenywod ar y rhestri hir. Ond wrth lunio rhestri byr a phenodi, yr ymgeiswyr y credir iddynt fod â’r un gwerthoedd, normau ac ymddygiadau ag aelodau byrddau presennol, sy’n ddynion gan mwyaf, yw’r mwyaf llwyddiannus.

Mae cyfweliadau ag uwch ymgynghorwyr deg cwmni chwilio gweithredol blaenllaw yn  Llundain, a’r cwmnïau hynny i gyd wedi arwyddo’r cod chwilio gwirfoddol, yn dangos bod cwmnïau chwilio yn dechrau herio cadeiryddion a phwyllgorau enwi wrth iddynt ddiffinio briffiau. Mae hyn yn benodol yn cynnwys rhoi mwy o bwysigrwydd ar gymwyseddau sylfaenol nag ar eu haddasrwydd i gydweddu ag aelodau presennol byrddau.

Dengys yr ymchwiliad bod ymgeiswyr yn cael eu dethol ar sail eu haddasrwydd i gydweddu ac ar eu profiad blaenorol o fod ar fyrddau, yn hytrach nag ar eu cymwyseddau, a bod hynny wedi tyfu’n arfer hunan parhaus. Oherwydd diffyg cyfleoedd, mae hyn yn rhwystro menywod rhag ennill digon o brofiad o fod ar fyrddau ac mae’n cyfyngu ar allu cadeiryddion i ehangu ystod sgiliau a phrofiadau aelodau’u byrddau.

Yn ogystal â dynodi enghreifftiau o arfer dda o ran y cwmnïau chwilio gweithredol mae’r adroddiad yn dangos y byddai proses dethol fwy tryloyw, proffesiynol a thrylwyr yn caniatáu i gadeiryddion ac asiantaethau chwilio i benodi mwy o ymgeiswyr benywaidd ac ysgogi mwy o fenywod i ystyried ceisio am rolau fel cyfarwyddwyr anweithredol.

Dywedodd y Farwnes Prosser, dirprwy gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

 “Mae ymchwil yn dangos bod byrddau amrywiol yn fwy llwyddiannus. Mae cryn nifer o gwmnïau yn cydnabod hynny. Gwnaethom gomisiynu’r adroddiad hwn i ategu eu hymdrechion i wella cynrychiolaeth menywod ar lefel byrddau. Lawn cyn amled â pheidio mae dull goddrychol o benodi’n creu’r un fath o fyrddau â’r rhai sydd eisoes mewn bod yn hytrach na dod â menywod talentog i’r byrddau a allai gynnig budd gwirioneddol i berfformiad cwmnïau unigol a helpu adfer economi Prydain yn y pen draw.”

Dywedodd Dr Elena Doldor, Uwch Gymrawd Ymchwil o Ganolfan Ryngwladol Cranfield i Fenywod sy’n Arwain ac a oedd yn awdur arweiniol yr adroddiad:

“Dengys ein hymchwil fod cwmniau chwilio yn barotach i chwarae rhan i gynyddu amrywiaeth ar fyrddau a nodom nifer o arferion da yn y sector. Serch hynny, sylwom fod cwmniau chwilio’n dueddol o ganolbwyntio eu mentrau amrywiaeth ar gamau cyntaf y broses penodi. Yn ddiweddarach yn y broses mae angen i herwhelwyr a chadeiryddion, wrth lunio rhestri byr a chyfweld, ymdrechu’n fwy i sicrhau bod arferion dethol yn parhau’n gynhwysol. Dyma’r camau yn y broses lle mae’r ffocws fel petai’n symud yn anfwriadol o gymwyseddau gwirioneddol yr ymgeiswyr i’r syniad di-ddal o ‘gydweddu’. Er i ymwybyddiaeth  o’r angen i greu byrddau mwy amrywiol gynyddu, mae yna duedd o hyd i ddewis ymgeiswyr o gefndiroedd arbennig.”

Dywedodd Helena Morrissey CBE, Sylfaenydd Clwb 30% a Phrif Swyddog Gweithredol Newton Investment Management:

“Dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf roedd Clwb 30% yn falch o weld  y cynnydd sylweddol tuag at greu byrddau mwy cytbwys yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl yr adroddiad heddiw mae rhagor o hyd i’w wneud o gylch y broses recriwtio er mwyn ehangu’r dewis o ymgeiswyr i fyrddau yn bellach. O ganlyniad, disgwyliwn i’r pwyslais ar yr agwedd hon  roi hwb pellach tuag at newid."

Dangosodd yr adroddiad ddiffyg barn unfryd ymysg cwmniau chwilio o ran y rhinweddau a ddymunent i’r ymgeiswyr byrddau feddu arnynt yn ychwanegol i’w profiad. Mae’r diffyg eglurder hwn yn esgor ar feini prawf yn y broses penodi sy’n newid ac ar feirniadaeth oddrychol.

Tra oedd yr ymchwil yn dangos arfer dda ymhlith rhai cwmniau chwilio, dangosodd ddiffyg barn unfryd hefyd o ran y broses penodi. I daclo hyn, mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion sy’n cynnwys:

  • fel cyfryngwyr yn y farchnad lafur weithredol, mae angen i gwmnïau chwilio gweithredol dynodi diffiniadau clir o’r hyn a ddymunir ganddynt gan ymgeiswyr i fyrddau yn ogystal â’u profiad
  • mae angen i gwmniau chwilio gweithredol, cadeiryddion a phwyllgorau enwi adolygu’r broses cyfweld i’w wneud yn fwy tryloyw, trylwyr a phroffesiynol
  • mae angen i gwmniau chwilio fuddsoddi mwy o amser i feithrin perthynas â menywod sydd ar y gweill a allai ddod yn gyfarwyddwyr gweithredol neu anweithredol nes ymlaen yn eu gyrfaoedd.
  • mae angen i gwmniau chwilio gweithredol ymgymryd ag adolygiadau rheolaidd o ran effeithiolrwydd y cod ymddygiad gwirfoddol.

Lawr lwythwch gopi o adroddiad y Comisiwn Gender diversity on Boards: the Appointment process and the role of executive search firms.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Lloegr 0845 604 6610, Yr Alban 0845 604 5510 a Chymru 0845 604 8810.

Nodiadau i olygyddion

Ymgymerwyd ag ymchwil y Comisiwn drwy ddefnyddio ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2011. Dengys ffigyrau diweddaraf Ysgol Reoli Cranfield fod menywod o fewn y FTSE 100 yn awr yn cyfrif am 16% o’r holl gyfarwyddiaethau. Noda ei hadroddiad FTSE mwyaf diweddar o ran menywod y gellid gwireddu 26.7% (yr uchaf erioed) o gynrychiolaeth fenywaidd ar fyrddau cwmniau FTSE 100 erbyn 2015 petai’r momentwm presennol yn parhau.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog  cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.

Un o ysgolion rheoli prifysgol fwyaf blaenllaw Ewrop, mae Ysgol Reoli Cranfield yn enwog am ei chysylltiadau cadarn â diwydiant a busnes. Mae wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau rheoli ymarferol drwy ystod o weithgareddau gan gynnwys rhaglenni gradd ôl-radd, datblygu rheolwyr, ymchwil ac ymgynghori. Gwefan Ysgol Reoli Cranfield

Mae Canolfan Ryngwladol Cranfield i Fenywod sy’n Arweinwyr wedi ymrwymo i helpu sefydliadau i ddatblygu arweinwyr y genhedlaeth nesaf o gronfa dalent sydd mor eang â phosibl. Gwefan Canolfan Ryngwladol Cranfield i Fenywod sy’n Arweinwyr

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â: Marie McCormack, Cysylltiadau’r Cyfryngau, Ysgol Reoli Cranfield ar: T: +44 (0) 1234 754425 neu e-bost.

Am ragor o wybodaeth am Glwb 30%, ymwelwch â’u gwefan; neu cysylltwch â: MHP Communications
Laura Batty +44 20 3128 8520
Gay Collins +44 7798 626282
neu anfonwch e-bost atynt yn uniongyrchol.