Comisiwn yn cydnabod gwelliant Heddlu Dyffryn Tafwys

11 September 2012

11 Medi 2012

Heddiw, di-rymodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei gytundeb ffurfiol â Heddlu Dyffryn Tafwys ar ei ddefnydd o stopio a chwilio. Lluniwyd y cytundeb deunaw mis ar ôl i’r Comisiwn ganfod bod yr heddlu yn stopio a chwilio cymaint fwy o bobl ddu ac Asiaidd na phobl eraill.

Mae’r Comisiwn o’r farn y bod Heddlu Dyffryn Tafwys wedi bodloni ei feini prawf ar gyfer gwelliant. Mae’r heddlu wedi lleihau’r gwahaniaethau hiliol sylweddol a pharhaus o ran stopio a chwilio. Yn ychwanegol, mae ei gyfraddau canfod o ran stopio a chwilio wedi codi; ac nid oes effaith andwyol amlwg ar lefelau troseddu.

Bydd y Comisiwn yn dal yn monitro cynnydd Heddlu Dyffryn Tafwys. Bydd, hefyd, yn rhannu arferion da ei waith Stopio a Meddwl â heddluoedd ar draws Prydain.

Meddai John Wadham, Cwnsler Cyffredinol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Fe’n calonogwyd yn fawr gan ymdrechion Heddlu Dyffryn Tafwys. Mae canlyniadau’r heddlu yn dangos y gall yr heddlu ddefnyddio deallusrwydd i dargedu enghreifftiau o stopio a chwilio yn well, heb unrhyw effaith andwyol ar lefelau troseddu.

Gobeithio, bydd eu hesiampl yn arwain at blismona gwell, ac, yn ei dro, at fwy o hyder cyhoeddus yn y gwasanaeth.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845 604 8810, Yr Alban 0845 604 5510 a Lloegr 0845 604 6610.

Nodiadau i olygyddion

http://www.equalityhumanrights.com/key-projects/race-in-britain/stop-and-think/ Cynhelir y rhan fwyaf o enghreifftiau stopio a chwilio yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE).

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.