Mehefin

  • Y cwrs hygyrchedd digidol cyntaf wedi’i gyflwyno

    28 June 2012

    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn partneriaeth ag AbilityNet a BCS, y Sefydliad TG Siartredig wedi creu’r cwrs hyfforddi hygyrchedd digidol cyntaf. Bydd “Digital Accessibility: Web Essentials” yn helpu i sicrhau bod busnesau’n agored i bobl anabl. Mae’n cwmpasu pynciau sy’n amrywio o’r hyn y mae hygyrchedd i wefannau’n golygu i enghreifftiau ymarferol o sut i wneud gwefannau’n gynhwysol. 
     

  • Rhaid i’r heddlu newid ei bolisi ar gadw lluniau yn dilyn dyfarniad llys

    22 June 2012

    Mewn achos prawf lle ymyrrodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynddo, dyfarnodd yr Uchel Lys na all yr heddlu gadw lluniau o bobl sy heb gofnodion troseddol na’r rhai a gafwyd yn ddieuog. Cytunodd y barnwyr â chyflwyniad y Comisiwn mai torri’n anghyfiawn ar hawl unigolyn i fywyd preifat oedd i’r heddlu ddal gafael ar lun rhywun oni bai ei fod wedi ei gyhuddo neu ei gollfarnu o drosedd.
     

  • Comisiwn yn amlinellu’i gynlluniau i’w ddyfodol ac yn dechrau ymgynghori â staff

    21 June 2012

    Amlinellodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gynlluniau ar gyfer ei fodel gweithredu a strwythur yn y dyfodol. Mae wedi dechrau ymgynghori ar gynigion i leihau ei weithlu i 150 o swyddi.

    Nod y cynigion yw ateb yr heriau a ddaw yn sgil adnoddau llai, gan gynnwys penderfyniad y Llywodraeth na fydd y Comisiwn mwyach yn darparu swyddogaeth llinell gymorth. Hefyd, yr angen i gyflenwi cynllun strategol teirblwydd y Comisiwn a osodwyd gerbron y Senedd ym mis Ebrill eleni. Maent hefyd yn adlewyrchu’r cyd-destun cymdeithasol, ariannol, economaidd a newidiol y mae’r Comisiwn yn gweithio ynddo.
     

  • Ymchwil newydd yn pwysleisio’r angen am gynnydd cyflymach o ran stopio a chwilio

    12 June 2012

    Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ymuno â Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu i alw am welliannau cyflymach i ddefnydd yr heddlu o stopio a chwilio. Mae wedi cyhoeddi ymchwil newydd sy’n adeiladu ar waith y Comisiwn sy’n mynd ymlaen ar stopio a chwilio ac mae’n dangos y cynnydd sy angen i rai heddluoedd ei wneud.