Rhaid i’r heddlu newid ei bolisi ar gadw lluniau yn dilyn dyfarniad llys

R (oao RMC) v Comisiynydd Heddlu’r Metropolis

22 June 2012

22 Mehefin 2012

Mewn achos prawf lle ymyrrodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynddo, dyfarnodd yr Uchel Lys na all yr heddlu gadw lluniau o bobl sy heb gofnodion troseddol na’r rhai a gafwyd yn ddieuog.

Cytunodd y barnwyr â chyflwyniad y Comisiwn mai torri’n anghyfiawn ar hawl unigolyn i fywyd preifat oedd i’r heddlu ddal gafael ar lun rhywun oni bai ei fod wedi ei gyhuddo neu ei gollfarnu o drosedd.

Nid oedd y llys yn cytuno â dadl yr Heddlu Metropolitan bod cadw llun y sawl a gafwyd yn ddieuog yn angenrheidiol ar gyfer atal trosedd ac anhrefn.

Gorchmynnodd y Llys i’r Heddlu Metropolitan ddiwygio eu canllawiau cyn pen rhai misoedd. Mae’n debyg y bydd rhaid i’r heddlu ddifetha ei lluniau o unigolion sy’n ddieuog o unrhyw drosedd.

Mae’r dyfarniad yn cyd-fynd ag achosion prawf eraill y mae’r Comisiwn wedi bod yn rhan ohonynt lle penderfynodd y llysoedd yn ogystal na allai’r heddlu gadw DNA na data olion bysedd yn ddiwahân nag am byth.

Meddai John Wadham, Cwnsler Cyffredinol, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Heb ddiogelwch ein hawl dynol i fywyd preifat, gallai’r heddlu ddal gafael ar eich DNA, olion bysedd, a lluniau hyd yn oed pan ydych wedi gwneud dim o’i le. Nid oes unrhyw reswm da pam ddylai’r heddlu ddal gafael ar wybodaeth am bobl sy ddim wedi cyflawni unrhyw drosedd.

"Serch hynny, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw gwybodaeth am bobl sy wedi’u cyhuddo neu’u collfarnu o droseddau er mwyn gallu eu hadnabod. Ond mae’n hanfodol bod yr heddlu yn defnyddio’r pwerau hyn yn briodol, cymesur a theg.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn ar 020 3117 0255, y tu allan i oriau gwaith 07767 272 818. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol y Comisiwn: Cymru 0845 604 8810, Yr Alban 0845 604 5510 a Lloegr 0845 604 6610.

Nodiadau i olygyddion

Ysgrifennodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol at yr Uchel Lys i ymyrryd fel trydydd parti annibynnol – nid o blaid nag yn erbyn RMC neu’r Heddlu Metropolitan. Wrth ei gyflwyno, amlinellodd y Comisiwn sut y dylai hawliau dynol ddiogelu pobl a fu efallai yn nwylo’r heddlu ond heb eu cyhuddo o unrhyw drosedd. Ni wnaeth unrhyw ymyrraeth yn yr ail achos a oedd ger bron yr Uchel Lys ar yr un pryd  – FJ vs Comisiynydd Heddlu’r Metropolis – nag unrhyw sylw ar y ffeithiau gerbron y llys yn y naill achos na’r llall.

Menyw ganol oed o gymeriad da yw RMC a gafodd ei harestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi gwir niwed corfforol ar swyddog cymorth cymunedol yr heddlu a oedd yn ei hatal rhag seiclo ar y droetffordd. Cafodd ei chyfweld a chymerwyd olion ei bysedd a llun ohoni yn ogystal â samplau o’i DNA. Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â’i herlyn. Gofynnodd ei chyfreithwyr am i’w holion bysedd, samplau DNA a’r lluniau gael eu difetha ond buont yn aflwyddiannus. O ganlyniad, cyflwynodd hawliad adolygiad barnwrol i herio cadw pob data o’r fath. Cafodd ganiatâd yn unig o ran cadw’r lluniau gan i DNA ac olion bysedd gael eu hystyried mewn achos cyfreithiol arall, R (GC) v Comisiynydd Heddlu’r Metropolis.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol, ac yn annog  cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.