Creu Prydain Decach
Rydym yn cyflawni’r Asesiad hwn yn unol â’n grymoedd yn Adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006 a gweithdrefnau a sefydlwyd yn Atodlen 2 Deddf Cydraddoldeb 2006.
Mae gan y Comisiwn ddyletswyddau statudol i weithio tuag at ddileu gwahaniaethu, i hyrwyddo cyfle cyfartal ac i orfodi'r deddfiadau cydraddoldeb. Yn rhan o’r dyletswyddau hyn, mae ganddo’r grym i asesu p’un a yw awdurdodau cyhoeddus wedi cydymffurfio â’u hoblygiadau cyfreithiol dan y dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus presennol.
Bydd hyn yn Asesiad ffurfiol o i ba raddau mae Trysorlys EM wedi bodloni ei oblygiadau wrth ystyried effaith penderfyniadau sydd wedi eu cynnwys yn yr Arolwg Gwariant ar nodweddion gwarchodedig.
Ni ddylid cymryd cychwyn yr Asesiad hwn o gydymffurfiad Trysorlys EM â Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus fel awgrym nad yw wedi gwneud hynny.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyflwyno dyletswydd newydd i'r sector cyhoeddus fydd yn ymestyn y cwmpas i oed, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, a chrefydd neu gred, ond nid yw mewn grym eto ac a fydd felly ni fydd yn rhan o gwmpas yr asesiad hwn.
Dan y Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus sy'n delio â hil, rhyw (yn cynnwys pobl drawsrywiol) ac anabledd, mae gan Drysorlys EM, fel pob corff cyhoeddus, ddyletswydd gyfreithiol i dalu 'sylw dyledus' i'r angen i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth o p'un a oes unrhyw effaith negyddol anghymesur ar y nodweddion gwarchodedig hyn wrth wneud penderfyniadau, yn cynnwys penderfyniadau ynglŷn â'r Adolygiad o Wariant. Ble canfyddir fod penderfyniadau wedi cael effaith negyddol anghymesur ar y grwpiau hyn, rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried sut ddylid gweithredu i osgoi, lliniaru neu gyfiawnhau'r effaith honno.
Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol i orfodi deddfwriaeth cydraddoldeb. I’r perwyl hwn, ac ers cyhoeddi’r bwriad i gyflawni Adolygiad o Wariant ym Mehefin, mae’r Comisiwn wedi bod yn gweithio i sicrhau fod holl adrannau’r Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus yn ymwybodol o’r oblygiadau dan y Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus. Er enghraifft:
Ar 25 Tachwedd, fe lansiodd y Comisiwn ei Asesiad Adran 31 o Drysorlys EM, gweler y datganiad i'r wasg.
Cysylltwch â'n llinell gymorth os ydych angen yr wybodaeth yma mewn fformatau amgen.