Mae’r Comisiwn wedi gorffen ei asesiad i'r graddau y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, yn cyflawni dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus wrth ddatblygu ei pholisïau ac arferion a'u rhoi ar waith. Mae'r adroddiad isod yn cynnwys ein canfyddiadau ac argymhellion.
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn ddarostyngedig i’r dyletswyddau gan ei bod yn rhan o DWP sydd, fel awdurdod cyhoeddus ac yn adran o’r llywodraeth ganolog, yn gyfrifol yn gyffredinol ac yn gyfreithiol am hybu cydraddoldeb a chyflawni’r dyletswyddau.
Dyma un o asesiadau statudol cyntaf y Comisiwn o ran dyletswydd y sector cyhoeddus o dan adran 31 Deddf Cydraddoldeb 2006. Rhydd yr asesiadau gyfle i’r Comisiwn i asesu ac adrodd yn ffurfiol i’r graddau y mae awdurdod cyhoeddus yn cyflawni’i ddyletswyddau yn ogystal â’r modd y gwna hynny.
Nod y Comisiwn yw defnyddio’r grym newydd hwn i asesu perfformiad awdurdodau cyhoeddus o ran y dyletswyddau mewn modd arloesol ac adeiladol. Mae’r arf newydd hwn yn caniatáu inni nodi meysydd arfer dda o ran perfformiad y dyletswyddau yn ogystal â meysydd i’w gwella. Mae gan y Comisiwn ddiddordeb helaeth o ran deall rhan asiantaethau gweithredol adrannol o gyflawni’r dyletswyddau, o ystyried eu rhan sylweddol wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac fel cyflogwyr eu hunain.
Mae ein hadroddiad ar DWP a’r Ganolfan Byd Gwaith yn canolbwyntio ar gryfderau a gwendidau yn hytrach nag a yw’r dyletswyddau wedi’u torri. Mae’r Comisiwn o’r farn y bydd hyn yn cynorthwyo Canolfan Byd Gwaith i newid ei arferion er mwyn cydymffurfio’n well.
Lawr lwytho: Asesiad y sector cyhoeddus o ddyletswydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, drwy'r Ganolfan Byd Gwaith (Word)