Related pages
Creu Prydain Decach
Cyn cyhoeddi’r Cylch Gorchwyl ar gyfer ein Hymchwiliad, ymgynghorom ar y set hon o Gylch Gorchwyl drafft. Dadansoddwyd atebion yr ymgynghoriad ac mae crynodeb o’r atebion ar gael yn nawr (yn Saesneg). Mae’r Cylch Gorchwyl Terfynol ar gael yn nawr i’w gweld, tra cedwir y dudalen hon fel archif.
Er bod gan awdurdodau cyhoeddus gyfrifoldeb dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl i roi ystyriaeth briodol i ddileu aflonyddu ar sail anabledd, nid yw’r term wedi’i ddiffinio at ddibenion y Ddyletswydd. Rydym yn cynnig defnyddio’r diffiniad canlynol o aflonyddu ar sail anabledd fel rhan o’r Ymchwiliad hwn:
• Ymddygiad diangen, cam-fanteisiol neu gamdriniol ar sail anabledd sydd â’r diben neu’r effaith o naill ai:
Gall aflonyddu fod yn achosion parhaus o ymddygiad diangen neu’n ddigwyddiad untro.
Bydd yr Ymchwiliad yn cynnwys aflonyddu ar sail anabledd yng nghyd-destun pobl anabl eu hunain a’u teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Er hynny, ni fydd y Comisiwn yn cynnwys aflonyddu yn y gweithle na thrais domestig er mwyn sicrhau ffocws clir i’r Ymchwiliad.
At ddibenion yr Ymchwiliad, mae’r Comisiwn yn bwriadu defnyddio diffiniad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd o berson anabl, sef rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau bob dydd. Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn ymchwilio i achosion o aflonyddu yn erbyn pobl y canfyddir eu bod yn anabl.
Mae’r Ymchwiliad hwn yn cynnwys Cymru a Lloegr. Rydym wrthi’n trafod gyda Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban i weld a fydd yr Alban yn rhan ohono hefyd.
1. Ymchwilio i’r camau y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu cymryd, yn unigol ac ar y cyd, i ddileu aflonyddu ar sail anabledd.
2. Ymchwilio i’r camau y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu cymryd, yn unigol ac ar y cyd, i fynd i’r afael ag achosion aflonyddu ar sail anabledd, gan gynnwys agweddau negyddol a rhagfarn.
3. Ymchwilio i ba mor effeithiol yw’r camau sy’n cael eu cymryd gan awdurdodau cyhoeddus, yn unigol ac ar y cyd, i ddileu aflonyddu ar sail anabledd a mynd i’r afael â’i achosion.
4. Ymchwilio i sut mae awdurdodau lleol, yn unigol ac ar y cyd, wedi sicrhau eu bod yn cynnwys pobl anabl wrth ddileu aflonyddu ar sail anabledd a mynd i’r afael â’i achosion, gan gynnwys camau a gymerwyd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu rhoi gwybod am aflonyddu ar sail anabledd.
5. Nodi enghreifftiau o arferion da o ran dileu aflonyddu ar sail anabledd a mynd i’r afael â’i achosion, a dulliau effeithiol o rannu’r arferion da hyn.
6. Gwneud argymhellion o’r fath fel sy’n briodol.
7. Wrth gynnal yr ymchwiliad, bydd y Comisiwn, lle bo’n berthnasol, yn ystyried i ba raddau mae’r awdurdodau cyhoeddus dan sylw wedi:
a. cydymffurfio â’u dyletswyddau mewn perthynas â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl a nodir yn adran 49A ac adran 49D o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, gan gynnwys yn arbennig yr elfennau hynny o’r ddyletswydd sy’n ymwneud â dileu aflonyddu ar sail anabledd a’i achosion, a hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl a’r ddyletswydd i annog pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus
b. cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau sy’n codi o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998
c. ystyried a (lle bo’n berthnasol) cydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yn enwedig Erthygl 16 y Confensiwn
8. Bydd yr Ymchwiliad yn ystyried camau a gymerwyd yn uniongyrchol gan awdurdodau cyhoeddus; rhai a gymerwyd gan sefydliadau preifat a’r sector gwirfoddol; a materion sy’n ymwneud â chaffael sy’n berthnasol i gylch gorchwyl yr Ymchwiliad.
Gwnaethom ymgynghori â phobl anabl a rhanddeiliaid eraill am y cylch gorchwyl i’r Ymchwiliad. Diolch i bawb a gyfrannodd i’r broses ymgynghori. Cyhoeddom y Cylch Gorchwyl terfynol ym mis Mehefin 2010.
Related pages