Creu Prydain Decach
Cyn casglu tystiolaeth, mae angen i’r Comisiwn nodi union destun yr Ymchwiliad. Felly, rydym yn ymgynghori â phobl anabl a rhanddeiliaid eraill ynglŷn â’n cylch gorchwyl drafft. Gallwch fynegi barn ar y cylch gorchwyl drafft hwn mewn ymgynghoriad ar-lein, sydd ar gael yn: (Insert link). Bydd yr ymgynghoriad yn gorffen ddydd Gwener 26 Mawrth 2010.
Rydym yn cynnal pedwar digwyddiad ymgynghori yng Nghymru a Lloegr ar gyfer pobl anabl a allai ei chael hi’n anodd ymateb i ymgynghoriad ar-lein ac sy’n dymuno rhoi barn i’r Comisiwn yn bersonol.
Rydym wrthi’n trafod gyda Chomisiwn Hawliau Dynol yr Alban i weld a fydd yr Alban yn rhan o’r Ymchwiliad. Os felly, cynhelir digwyddiadau ymgynghori yn yr Alban maes o law.
Cyfuniad o weithdai a thrafodaethau mewn grwpiau bach fydd y digwyddiadau hyn.
DS: Ni fydd y digwyddiadau hyn yn casglu gwybodaeth ar gyfer yr ymchwiliad. Ni allwn wneud hynny tan fydd y cylch gorchwyl terfynol wedi’i gyhoeddi.
Darperir cinio, a gallwn ad-dalu costau teithio rhesymol – holwch am fanylion wrth archebu’ch lle.
Bydd cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain a phalanteipyddion ar gael ym mhob digwyddiad.
Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau’r gwahoddiad neu’r ffurflen archebu a’r cyfarwyddiadau mewn fformat arall.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly y cyntaf i’r felin piau hi. I archebu lle, llenwch y ffurflen amgaeedig gan nodi pa ddigwyddiad yr hoffech ei fynychu. Gadewch inni wybod hefyd os oes gennych chi unrhyw ofynion mynediad neu anghenion deiet, a chysylltwch â ni trwy:
Fe wnawn ni anfon cadarnhad o’ch archeb ynghyd â rhagor o fanylion a map i’r ganolfan.
Disability Harassment Inquiry
Stakeholder Relations
Equality and Human Rights Commission
3 More London Riverside
Tooley Street
SE1 2RG