Ymchwiliad ar y Sectorau Prosesu Cig a Dofednod

Cyflogi a recriwtio yn y diwydiant prosesu cig: ymchwiliad ffurfiol

Ym mis Hydref 2008, lansiodd y Comisiwn ymchwiliad ar recriwtio a chyflogi yn y sector prosesu cig a dofednod yng Nghymru a Lloegr.

Rhoddodd yr ymchwiliad gyfle i ni i archwilio sut y cyflogir pobl sy’n gweithio yn y diwydiant hwn a sut maen nhw’n cael eu trin unwaith y maen nhw yn y gwaith. Trwy holiaduron, cyfweliadau ac ymgynghori ag unigolion a sefydliadau roeddem yn gallu casglu tystiolaeth eang ac awdurdodol sy’n sail i adroddiad ein canfyddiadau.

Mae’r adroddiad yn datgelu tystiolaeth o gamdriniaeth a cham ddefnydd eang o weithwyr ymfudol ac asiantaeth yn y sector, ac mae’n gwneud argymhellion i’r cyrff allweddol - archfarchnadoedd, asiantaethau, cwmnïau prosesu, llywodraeth, rheoleiddion ac undebau - y rydym yn credu bydd yn ysgogi newid systemig mewn ymddygiad.

Yn ychwanegol i’r adroddiad, rydym wedi creu set atodol o ganfyddiadau manwl ar bob un o’r prif faterion anhawster i weithwyr asiantaeth yn y sector, yn ogystal ag argymhellion ar sut i fynd i’r afael â hwy.

back to top