Mae adroddiad yr ymchwiliad yn grynodeb o’n canfyddiadau a’r argymhellion a fydd yn arwain at newid yn arferion recriwtio a chyflogi pobl yn y sector prosesu cig a dofednod yn ein barn ni.
Ymchwiliad i recriwtio a chyflogi yn y y sector prosesu cig a dofednod: Adroddiad ar y canfyddiadau a’r argymhellion
Fersiwn PDF | Fersiwn Word | Fersiwn Cymraeg
Ar sail canfyddiadau’r ymchwiliad, mae’r Comisiwn wedi gwneud argymhellion i’r cyrff allweddol – archfarchnadoedd, asiantaethau, cwmnïau prosesu, llywodraeth, cyrff rheoleiddio ac undebau – a fydd yn annog newid systemig mewn ymddygiad yn ein barn ni. Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys:
Yn ogystal â’r adroddiad, rydym wedi creu cyfres o ganfyddiadau manwl am bob un o’r prif faterion sy’n peri problem i weithwyr y sector hwn ac argymhellion ar sut i fynd i’r afael â nhw.
Dywedodd nifer sylweddol o weithwyr eu bod yn cael eu cam-drin yn eiriol a chorfforol ac nad ydynt yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch. Roedd y ffordd mae gweithwyr beichiog yn cael eu trin yn bryder arbennig. Ychydig o weithwyr oedd yn gwybod beth oedd eu hawliau ac roedd llawer yn ofni cwyno rhag ofn iddynt golli eu swydd. Er mai gweithwyr mudol oedd yn cael eu heffeithio fwyaf, roedd gweithwyr asiantaeth o Brydain yn wynebu camdriniaeth debyg.
Canfu’r ymchwiliad achosion cyson o dorri’r gyfraith a safonau trwyddedu mewn ffatrïoedd prosesu cig – rhai ohonynt yn cyflenwi archfarchnadoedd mwyaf y DU – a’r asiantaethau sy’n cyflenwi gweithwyr iddynt. Roedd hefyd yn amlygu amodau a oedd yn mynd yn groes i safonau masnachu moesegol gofynnol a hawliau dynol sylfaenol.
Fodd bynnag, gwelodd yr ymchwiliad enghreifftiau o arferion da gyda chwmnïau’n trin gweithwyr parhaol a gweithwyr asiantaeth o bob cenedl gyda pharch.
O ganlyniad, roedd y cwmnïau hyn ar eu hennill, drwy allu denu a chadw gweithwyr brwdfrydig, ffyddlon a chynyddol fedrus. Ond roeddynt yn rhwystredig wrth weld cwmnïau eraill yn codi prisiau is na nhw trwy weithredu’n anfoesegol ac anghyfreithlon, ac roeddent yn croesawu mwy o orfodi gan gyrff rheoleiddio i greu maes chwarae cyfartal.