Rydym wedi creu cyfres o ddogfennau atodol sy’n amlinellu’n fanylach ein canfyddiadau am nifer o feysydd penodol sy’n peri pryder a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Mae pob dogfen yn cynnig argymhellion a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r problemau a sicrhau newid yn y sector. Gallwch lawrlwytho’r dogfennau isod.
Y gorfodi a’r cam-drin corfforol a geiriol y mae rhai gweithwyr asiantaeth yn ei brofi gan asiantaethau gwaith ac mewn ffatrïoedd prosesu cig a dofednod.
Sut caiff gweithwyr beichiog eu trin yn cynnwys diswyddo am fod yn feichiog a pheryglon iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Y problemau ychwanegol mae gweithwyr mudol yn eu hwynebu o ganlyniad i’w cenedligrwydd a phan nad oes ganddynt sgiliau Saesneg da iawn.
Y rhesymau pam fod llawer o weithwyr asiantaeth yn rhy ofnus i gwyno neu fynnu eu hawliau cyfreithiol.
Y problemau iechyd a diogelwch sy’n gwneud bywyd gwaith yn anodd, ac yn boenus ar brydiau, i weithwyr asiantaeth mewn rhai ffatrïoedd.