Sut aethom ati i gasglu tystiolaeth

Bu’r Ymchwiliad yn casglu sail dystiolaeth eang ac awdurdodol gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau ledled Cymru a Lloegr. Cawsom ddarlun llawn o’r gadwyn gyflenwi: o’r staff asiantaeth sy’n gweithio ar linellau cynhyrchu, yr asiantaethau gwaith sy’n eu cyflenwi, y cwmnïau prosesu lle cânt eu lleoli, i’r archfarchnadoedd sy’n prynu tua 80 y cant o gynhyrchion cig y sector hwn. Mae ein sail dystiolaeth yn cynnwys:

  • Tystiolaeth ysgrifenedig gan 150 o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn y sector hwn, tri chwarter ohonynt mewn ieithoedd heblaw Saesneg, eu hanner mewn Pwyleg.
  • Tystiolaeth ysgrifenedig gan archfarchnadoedd, undebau, cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant, rheoleiddwyr ac adrannau’r llywodraeth.
  • 140 o gyfweliadau wyneb-yn-wyneb gyda gweithwyr prosesu cig mewn 15 lleoliad gwahanol yng Nghymru a Lloegr, 120 ohonynt yn weithwyr mudol.
  • Arolygon o gwmnïau prosesu cig ac asiantaethau. Derbyniwyd 190 o ymatebion gan gwmnïau prosesu cig a dofednod a 131 o ymatebion gan asiantaethau gwaith sy’n cyfrannu gweithwyr i’r sector hwn.
  • Astudiaethau achos o saith sefydliad – cwmnïau prosesu ac asiantaethau gwaith – a oedd ag arferion da mewn perthynas â recriwtio, cyflogi, cydraddoldeb ac integreiddio.

I gael rhagor o fanylion am y cwestiynau a ofynnwyd i unigolion a chwmnïau, ac unrhyw agwedd arall ar yr Ymchwiliad, anfonwch e-bost at MeatInquiry@equalityhumanrights.com

back to top