Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi’u bwlio neu’u haflonyddu, a chan sefydliadau sy’n gweithio gyda/dros bobl anabl, gan gynnwys sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, awdurdodau cyhoeddus (fel cynghorau lleol, yr heddlu, tai, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg) a chwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus.
Y terfyn amser am roi tystiolaeth yw dydd Gwener 10 Medi 2010.
• Unigolion sydd wedi dioddef aflonyddu
• Sefydliadau a phartïon â buddiant
• Sut i ymateb
• Manylion perthnasol
Os ydych chi wedi dioddef achos o aflonyddu oherwydd eich anabledd, neu fod rhywun agos atoch wedi’i effeithio, cysylltwch â ni. Hoffem glywed gan bobl sy’n fyddar neu’n anabl, gan gynnwys rhai â chyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd hirdymor, yn ogystal â’u teuluoedd, ffrindiau neu gymdeithion. Rydym eisiau gwybod beth ddigwyddodd a beth wnaeth awdurdodau cyhoeddus a chwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus ei wneud - neu ddim ei wneud - i’ch helpu.
Bydd eich profiadau – cadarnhaol neu negyddol - yn helpu’r Comisiwn i ddangos beth mae’r heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, cwmnïau bysiau ac asiantaethau eraill yn gallu’i wneud i atal achosion o aflonyddu ar bobl anabl mewn mannau cyhoeddus a thu ôl i ddrysau caeedig. Os nad ydych chi’n sicr beth i’w ddweud wrthym, mae gennym holiadur (amgaeedig) i’ch helpu.
Er bod croeso i chi roi tystiolaeth yn ddienw, byddai’n ddefnyddiol inni gael eich enw a’ch manylion cyswllt fel y gallwn gysylltu â chi am ragor o wybodaeth os oes angen. Byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol.
Efallai y byddai’n well gan unigolion gyflwyno tystiolaeth trwy lenwi’n holiadur y gellir ei lawr lwytho neu trwy gysylltu â’r llinell gymorth ar y rhifau isod.
Os ydych chi angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.
• Lawr lwytho’r holiadur yn Gymraeg
Hoffem gael ymateb gan:
Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed am:
Nid oes rhaid i dystiolaeth fynd i’r afael â phob pwynt unigol. Er enghraifft, gall ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r rhesymau dros aflonyddu neu gamau corff cyhoeddus penodol.
Dylai tystiolaeth gan sefydliadau neu gyrff cyhoeddus:
Gellir lawr lwytho’r Holiadur Cais am Dystiolaeth mewn gwahanol fformatau:
Mae nifer o ffyrdd i roi tystiolaeth i’r Ymchwiliad:
Nodwch: Y terfyn amser am roi tystiolaeth yw dydd Gwener 10 Medi 2010.
Disability Harassment Inquiry
Equality and Human Rights Commission
FREEPOST RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House, Arndale Centre
Manchester, M4 3AQ
Cymru Ffôn: 08456 048 810
Ffôn testun: 08456 048 820
Lloegr Ffôn: 08456 046 610
Ffôn testun: 08456 046 620
Yr Alban Ffôn: 08456 045 510
Ffôn testun: 08456 045 520
Hoffem ddiolch i chi am roi tystiolaeth i’r Ymchwiliad ar Aflonyddu ar sail Anabledd. Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a dderbyniwn. Fodd bynnag, oherwydd nifer uchel yr ymatebion a ddisgwylir, ac i sicrhau cyfrinachedd, ni fyddwn yn cydnabod eich ymateb yn awtomatig heblaw i chi ofyn yn benodol amdano.
Am fanylion o’r cylch gorchwyl a chwmpas yr ymchwiliad hwn darllenwch yr Hysbysiad Statudol yn llawn.
I weld sut fyddwn yn diogelu’ch gwybodaeth darllenwch am Ymdrin â Data a chyfrinachedd.