Cylch Gorchwyl

Yn dilyn ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl drafft, cytunwyd ar y cylch gorchwyl a’r diffiniadau canlynol.

Darllenwch grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.(yn Saesneg)

Lawr lwytho’r Cylch Gorchwyl a Diffiniadau mewn ffurf Word.

Cynnwys

• Cylch Gorchwyl
• Cwmpas yr Ymchwiliad
• Diffiniadau
 

Cylch Gorchwyl

1. Ymchwilio i’r camau y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu cymryd, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, i atal a dileu aflonyddu ar sail anabledd.
 
2. Ymchwilio i’r camau y mae awdurdodau cyhoeddus yn eu cymryd, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, i fynd i’r afael a’r hyn sy’n achosi aflonyddu ar sail anabledd yn cynnwys rhagfarn ac agweddau negyddol.
 
3. Ymchwilio i’r camau y mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn eu cymryd, yn unigol ac ar y cyd ag eraill (yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus), i atal a dileu aflonyddu ar sail anabledd ar neu o amgylch trafnidiaeth gyhoeddus.
4. Ymchwilio i sut mae awdurdodau cyhoeddus a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, yn unigol ac ar y cyd ag eraill, wedi sicrhau eu bod yn cynnwys pobl anabl wrth atal a dileu aflonyddu ar sail anabledd a mynd i’r afael a’r hyn sy’n ei achosi, yn cynnwys camau a gymerwyd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu rhoi gwybod am aflonyddu ar sail anabledd yn effeithiol.
5. Ymchwilio i effeithiolrwydd y camau a gyfeirir atynt ym mharagraffau 1-4 uchod, wrth atal a dileu aflonyddu ar sail anabledd a’r hyn sy’n ei achosi.
 
6. Wrth benderfynu ar gamau 1-4 uchod a’u gweithredu, ymchwilio i sut y mae awdurdodau cyhoeddus a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus wedi ystyried profiadau ac anghenion amrywiol pobl anabl o ran y math o nam sydd ganddynt , eu hoedran, rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
7. Ymchwilio i’r rhesymau dros aflonyddu ar sail anabledd a nodi dulliau effeithiol o atal a dileu aflonyddu ar sail anabledd a lledaenu arferion da.
 
8. Gwneud argymhellion fel y bo’n briodol.
 
9. Wrth gynnal yr ymchwiliad, bydd y Comisiwn, lle bo’n berthnasol, yn ystyried i ba raddau y mae’r awdurdodau cyhoeddus dan sylw wedi gwneud y canlynol:
• cydymffurfio â’u dyletswyddau mewn perthynas â Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl a nodir yn adrannau 49A a 49D o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, gan gynnwys yn arbennig yr elfennau hynny o’r ddyletswydd sy’n ymwneud â dileu aflonyddu ar sail anabledd a’r hyn sy’n ei achosi, hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at bobl anabl a’r ddyletswydd i annog pobl anabl i gymryd rhan  mewn bywyd cyhoeddus;
• cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau sy’n codi dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998;
• eu bod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, yn enwedig Erthygl 16 y Confensiwn, ac i ba raddau y maent wedi cymryd camau i’w cyflawni.
10. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried camau a gymerwyd yn uniongyrchol gan yr awdurdodau cyhoeddus; camau sefydliadau’r sector preifat a’r sector gwirfoddol; a’r materion sy’n ymwneud â chaffael sy’n berthnasol i gylch gorchwyl yr Ymchwiliad. Er mwyn osgoi amheuaeth, bydd yr Ymchwiliad yn ystyried y camau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a Sefydliadau Rheolaeth Hyd Braich (ALMOs).

Cwmpas yr Ymchwiliad

 Cwmpas yr aflonyddu ar sail anabledd i’w ystyried gan yr Ymchwiliad

Bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio i aflonyddu ar sail anabledd gan unigolion neu grwpiau o bobl, yn cynnwys dieithriaid, cymdogion, cydnabod, ffrindiau, teulu, perthnasau a phartneriaid. Gall aflonyddu o’r fath ddigwydd mewn ardaloedd cyhoeddus fel strydoedd, parciau, ysgolion a chyfleusterau cyhoeddus a/neu breifat fel yn y cartref. Ni fydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio i aflonyddu yn y gweithle, sy’n cael ei gynnwys mewn fframwaith deddfwriaethol gwahanol.

Cwmpas Daearyddol:

Bydd yr Ymchwiliad yn cynnwys Cymru, Lloegr a’r Alban.

Diffiniadau

Person anabl

At ddibenion yr Ymchwiliad, bydd y Comisiwn yn defnyddio diffiniad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA) 1995 o berson anabl, fel y’i diwygiwyd gan DDA 2005:

• rhywun sydd â nam  corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, yn cynnwys pobl â chyflyrau  sy’n dychwelyd neu’n mynd a dod, fel iselder, HIV, canser a sglerosis ymledol.

Bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio i aflonyddu yn erbyn pobl sy’n bodloni’r diffiniad hwn ond efallai nad ydynt yn diffinio’u hunain fel pobl anabl, yn cynnwys pobl fyddar a phobl gyda chyflyrau iechyd meddwl.

Aflonyddu ar sail anabledd

Er bod gan awdurdodau cyhoeddus gyfrifoldeb dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl i roi sylw priodol i ddileu aflonyddu ar sail anabledd, nid yw’r term yn cael ei ddiffinio ar gyfer dibenion y Ddyletswydd. Bydd y Comisiwn yn defnyddio’r diffiniad canlynol o aflonyddu ar sail anabledd yn ei Ymchwiliad. 

• Mae aflonyddu ar sail anabledd yn ymddygiad digroeso, camfanteisiol neu gamdriniol yn erbyn pobl anabl sydd a’r diben neu’r effaith naill ai:
o amharu ar urddas, diogelwch neu annibyniaeth y sawl sy’n ei ddioddef, neu’n
o creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu ymosodol.
• Mae aflonyddu ar sail anabledd hefyd yn ymddygiad o’r fath tuag at deulu, ffrindiau a chymdeithion pobl anabl oherwydd eu cysylltiad â’r person anabl.

• Mae aflonyddu ar sail anabledd hefyd yn ymddygiad o’r fath tuag at berson a ystyrir i fod yn berson anabl.

• Mae aflonyddu ar sail anabledd yn cwmpasu bwlio a throsedd casineb yn erbyn pobl anabl.
• Gall aflonyddu ar sail anabledd gynnwys digwyddiadau mynych neu un-tro.


Awdurdod cyhoeddus

Awdurdod cyhoeddus ar gyfer dibenion adran 49B o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Trenau (uwchddaearol a thanddaearol), tramiau, bysiau a cherbydau gwasanaethau cyhoeddus eraill fel y’i diffinnir gan adran 40(5) o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995.

Gweithredwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus

Unrhyw gwmni neu sefydliad (yn cynnwys y rheiny yn y sector preifat) sy’n ymwneud â darparu trafnidiaeth gyhoeddus, yn cynnwys, er mwyn osgoi amheuaeth, y rheiny sy’n berchen, yn gweithredu neu’n cynnal a chadw’r seilwaith drafnidiaeth fel gorsafoedd rheilffyrdd a bysiau.

Enghreifftiau o aflonyddu ar sail anabledd, yn cynnwys bwlio a throseddau casineb

Mae’r canlynol yn enghreifftiau o aflonyddu ar sail anabledd, bwlio a throseddau casineb. Nid yw hon yn rhestr drylwyr ac efallai bod enghreifftiau eraill ar gael.

 • sylwadau dirmygus, diraddiol neu fychanol
• galw enwau neu wawdio
• iaith ymosodol neu nawddoglyd
• sarhau
• bygwth a dychryn
• tarfu ar ofod personol
• cyffwrdd diangen
• sylwadau digroeso am ymddangosiad neu anabledd
• cwestiynu digroeso am anabledd
• jôcs neu herian cas
• sylwadau difrïol llafar neu ysgrifenedig yn ymwneud ag anabledd
• negeseuon e-bost ymosodol
• seiberfwlio, gan ddefnyddio’r Rhyngrwyd, technolegau rhyngweithiol neu ddigidol neu ffonau symudol i fygwth, i fwlio neu i godi ofn
• graffiti cas
• camfanteisio’n ariannol ar berson anabl gan gynnwys cymryd ei arian budd-daliadau
• gosod cymhorthion ac addasiadau allan o gyrraedd yn fwriadol
• difrodi eiddo person anabl, yn cynnwys cymhorthion ac addasiadau
• cam-drin rhywiol, ymosodiadau a thrais rhywiol
• ymosodiad corfforol, yn amrywio o ymosodiadau lefel isel i lofruddiaeth

Gweler hefyd:

 • Hysbysiad Statudol i’r Ymchwiliad hwn
• Trin Data a Chyfrinachedd


 

back to top