Achos deg: Brent Martin

Cafodd Brent Martin ei guro i farwolaeth min nos ar 23 Awst 2007 gan dri unigolyn ifanc yr ystyriai yn ffrindiau iddo cyn hynny. Roedd yn 23. Roedd anawsterau dysgu gan Brent a mater iechyd meddwl. Er pan oedd yn 16 oed, roedd wedi ei gadw dan orchymyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl nes iddo gael ei ryddhau ym mis Mai 2007. Bu farw tri mis yn ddiweddarach.

Beth a ddigwyddodd

Ar noson yr ymosodiad, bu Brent yn destun i gyfres o ymosodiadau ciaidd wrth iddo gael ei erlid ar draws dau ystad yn Sunderland. Roedd ei ymosodwyr wedi betio ar bwy ohonynt fyddai’n achosi’r anafiadau mwyaf arno. Yn y diwedd, cafodd ei adael mewn pwll o waed wrth ymyl car a oedd wedi’i barcio yno. Bu farw ar 25 Awst 2007. Dangosodd archwiliad post-mortem ei fod wedi marw oherwydd anaf sylweddol i’w ben a’i fod wedi dioddef o leiaf 18 ergyd gwahanol i’w ben a’i wddf.

Plediodd William Hughes, 21, a Marcus Miller, 16, yn euog i lofruddio a dedfrydwyd hwy i garchar am o leiaf 22 blynedd i’r gyntaf a 15 i’r llall. Gwadodd Stephen Bonallie, 17, ei fod wedi llofruddio ond barnodd y rheithgor ef yn euog a’i garcharu am o leiaf 18 blynedd. Gostyngwyd dedfryd pob un o’r tri ar apel – Hughes i 19 blynedd, Miller i 13 a Bonallie i 15.

 

Yr ymateb

Cafodd Brent ei gadw dan orchymyn o dan adran 3 y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 o 13 Hydref 2000 tan 24 Mai 2007. Ymddengys bod y trefniadau i’w ryddhau wedi cael eu torri’n fyr, gan iddo ddigwydd yn gyflym, unwaith i’r penderfyniad gael ei wneud, na ddylai gael ei gadw mwyach.

Dywedodd Tim Docking, o Ymddiriedolaeth Northumberland a Tyne a Wear: fod cryn dipyn o gynllunio wedi digwydd i baratoi Brent ar gyfer ei ryddhau a’i ddychwelyd i’r gymuned, ond oherwydd i’w orchymyn cadw gael ei ddiddymu’n gyflym iawn... cafodd cymal olaf ei gynllun rhyddau ei dorri’n fyr.’

Cytunwyd y byddai’n aros gyda’i chwaer a threfnwyd cydlynydd gofal iddo. Fodd bynnag, symudodd yn fuan i ardal o Sunderland, a oedd yn fwy difreintiedig, i fyw gyda’i fam.

Pan adawodd Brent yr ysbyty, roedd rhwng £2,000 a £3,000 o arian buddiant ganddo a oedd wedi ei gynilo ac a oedd yn gwbl gyfrifol amdano o ran ei wario. O ganlyniad iddo orfod byw mewn sefydliad pan oedd yn oedolyn ifanc, roedd Brent yn awyddus iawn i gael ffrindiau a defnyddio ei arian i gymdeithasu â chriw o ddynion ifanc. Ar ôl ei asesu, cafodd ei roi ar lefel is o risg o ran y perygl iddo niweidio ac esgeuluso ei hunan a’i fod yn agored i gam-fanteisio a thrais. [1] Ond mae’n ymddangos bod ei sgiliau byw yn annigonol iddo allu adnabod y rhai a oedd am ei niweidio a’i fod yn agored i gael ei boeni.[2] Ymddengys bod y dynion, a fyddai yn y pendraw yn ei lofruddio, wedi troi yn ei erbyn ar ôl iddo wario ei holl arian.

Roedd amryw o arwyddion bod Brent yn agored i niwed. Ar 22 Awst 2007, pan oedd ei achos yn cael ei adolygu, canfuwyd ei fod yn gyndyn i gymryd y feddyginiaeth a oedd wedi ei threfnu iddo mewn presgripsiwn a’i fod yn parhau i gymryd cyffuriau anghyfreithlon ac yn yfed yn ormodol. Cafodd ‘pecyn cadarn’, ar ei gyfer, ei gynnig ac oni fyddai’n ufuddhau, cai ei gadw dan orchymyn eto. Cafodd ei lofruddio'r diwrnod wedyn.


1 Llythyr gan Seiciatrydd Ymgynghorol Brent Martin i’w Feddyg Teulu, wedi’i ddyddio 28 Awst 2007: Bwndel A, Adran 7.

2 Nid oes manylion yn y dogfennau ynglŷn â’i gynllun rhyddhau, heblaw am nodyn ysgrifenedig byr. Digwyddodd hyn cyn i orchmynion triniaeth gymunedol (CTO) gael eu cyflwyno. O dan Orchymyn o’r fath, a byddai o bosib wedi bod yn gymwys i Brent Martin, gellir gosod amodau wrth ryddhau claf - gan gynnwys lle mae i fyw a bod rhaid iddo ufuddhau ynglŷn â’i feddyginiaeth a mynychu adolygiadau meddygol rheolaidd yn ogystal â chael ei sgrinio am sylweddau anghyfreithlon a’i fonitro’n gyffredinol o ran ei iechyd meddwl. Mae’r awdurdod cadw dan orchymyn, yn rhinwedd y clinigwr sy’n gyfrifol am yr achos, yn cadw’r pŵer i ail-gadw’r claf yn yr ysbyty os torrir yr amodau neu os yw ei anhwylder meddwl yn gwaethygu. Nid yw’n glir o’r ddogfennaeth sut mae’r asiantaethau amrywiol wedi dygymod â’r CTO yn eu hymarferion - yn ôl diffiniad, bydd pawb sydd ar CTO yn ‘oedolyn bregus’.
 

Erlyniad

Ni chafodd yr achos ei erlyn fel trosedd casineb ar sail anabledd, er i un o’r llofruddwyr ddweud wrth ei ffrind ‘Dwi ddim yn mynd i’r carchar oherwydd mypet’ – gan gyfeirio at namau Brent. Er na wnaed y sylw hwn ar adeg y drosedd, mae’n awgrymu agwedd sylfaenol gelyniaethus yn erbyn anabledd. Mae canllaw Gwasanaeth Erlyn y Goron [3] yn dynodi bod cynyddu dedfrydau yn gymwys i droseddau a gyflawnir yn y naill amgylchiad neu’r llall a ganlyn:

  • Ar adeg cyflawni’r drosedd neu’n syth cyn neu ar ôl ei chyflawni, dangosodd y troseddwr elyniaeth tuag at ddioddefwr y drosedd a oedd yn seiliedig ar anabledd neu anabledd posibl o ran y dioddefwr. Neu,
  • Cyflawnid y drosedd (yn rhannol neu’n gyfan gwbl) o ganlyniad i elyniaeth tuag at unigolion ar sail anabledd neu anabledd penodol.

Roedd swyddog yr heddlu a oedd yn archwilio i’r llofruddiaeth wedi dweud wrth y cyfryngau ar y pryd nad oedd ‘unrhyw reswm am yr ymosodiad’. [4]
 


3 Gwasanaeth Erlyn y Goron, 2007, Polisi ar gyfer Erlyn Achosion o Drosedd Casineb ar sail Anabledd, tud 8. Ar gael o: wefan Erlyn y Goron

4 Gwefan The Times
 

Y broses adolygu

Methodd Bwrdd Partneriaeth Diogelu Oedolion, Sunderland â chomisiynu adolygiad achos difrifol ar ôl marwolaeth Brent. Roedd hyn oherwydd i’r achos beidio â bodloni’r meini prawf ar y pryd. Yn ôl y bwrdd, nid oedd tystiolaeth i awgrymu bod cam-drin neu esgeulustod wedi ei dderbyn neu ei ddrwgdybio yn ffactor yn ei farwolaeth. Fodd bynnag, penderfynodd y bwrdd fod rhaid diwygio’r protocol presennol ynglŷn ag adolygiadau achos difrifol.

Wrth edrych yn ôl, cydnabu Neil Revely, cyfarwyddwr gweithredol gwasanaethau iechyd, tai ac oedolion Cyngor Sirol Sunderland, nad oedd y penderfyniad i beidio â chynnal adolygiad achos difrifol yn un gywir… efallai mai dweud ein bod yn mynd i ymgymryd ag adolygiad achos difrifol oedd y peth mwyaf synhwyrol i’w wneud’.

Mae’r protocol newydd yn ymgorffori nifer o wersi a ddysgwyd o ganlyniad i farwolaeth Brent ac mae’n ehangu’r meini prawf o ran pryd mae angen adolygiad achos difrifol.
 

 

back to top