Comisiynodd Bwrdd Diogelu Oedolion Cernyw adolygiad achos difrifol annibynnol [1] o’r digwyddiadau a arweiniodd i farwolaeth Steven Hoskin. Hefyd aeth i’r afael â chysylltiadau’r asiantaethau â Steven a’r troseddwyr fel ei gilydd. Mae'r asiantaethau yng Nghernyw wedi dangos cryn dipyn o ymrwymiad i ddysgu o’u camgymeriadau ac maen nhw wedi cymryd amser ac ymdrech i wneud gwelliannau.
Canfu adolygiad, flwyddyn ar ôl i’r adolygiad achos difrifol, fod yna ‘cryn dipyn o gynnydd wedi bod yng Nghernyw sy’n mynd ymhell y tu hwnt i addasiad minimalaidd’. [2] Rhoddwyd camau o’r adolygiad achos difrifol ar waith ac roedd y gwelliannau’n cynnwys:
- Rhannu gwybodaeth yn well
- Dull mwy rhagweithiol o ddiogelu gan asiantaethau
- Systemau gwell ar gyfer tynnu sylw at bryderon a sbarduno atgyfeirio
- Prosesau asesu risg a hyfforddiant gwell
- Arweinyddiaeth effeithiol
- Cydweithio parotach rhwng asiantaethau.
Mae’r heddlu wedi sefydlu ‘proses cwtogi niwed cymdogaeth’. Mae systemau ar waith i nodi cyfeiriadau pobl sy’n agored i niwed a’r rhesymau ynglŷn â’r angen i gadw mewn cysylltiad â hwy, ac mae hyn yn cael ei fonitro.
Cymeron ni dystiolaeth gan Margaret Flynn, cadeirydd annibynnol adolygiad achos difrifol Steven Hoskin a hefyd, ar adeg arall, gan yr asiantaethau allweddol yng Nghernyw fel ei gilydd. Roedd yn glir fod yr ymrwymiad i roi dull rhagweithiol o ddiogelu ar waith yn dal yn gadarn a bod yr asiantaethau i gyd wedi ymdrechu’n arwyddocaol i barhau i wella eu hymateb i aflonyddu ar sail anabledd, gan gynnwys:
- Gwaith pellach i feithrin a chywreinio protocolau sbarduno
- Pwyslais gwell ar hyfforddi’r holl staff, sydd â chyswllt efallai ag aelodau’r cyhoedd, i adnabod ac atgyfeirio materion diogelu
- Matrics risg i gynorthwyo asesu
- Ymgysylltu gwell ynghylch materion troseddol yn ogystal â rhai is-droseddol
- Perthynas gadarn â Phobl yn Gyntaf, Cernyw (sefydliad anabledd dysgu)
- Cyfuno hyfforddi diogelu, hawliau dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Mwy o ffocws ar yr hawl i ddiogelwch ac annibyniaeth, ac nid diogelu’n unig
- Ymgysylltu eglur â chymhlethdodau cydbwyso diogelu ac annibyniaeth
- Cofrestr lleihau niwed cymdogaeth ar gyfer yr heddlu sydd yn gweithio gydag asiantaethau eraill.
Mae llawer o’r dysgu yng Nghernyw yn gymwys i ardaloedd eraill ledled Prydain, ond nid yw o reidrwydd yn cael ei ddefnyddio. Dywedodd Flynn wrthym nad oes mecanweithiau ar hyn o bryd ar gyfer rhannu gwersi yn effeithiol. Meddai: ‘Gyda’m llaw ar fy nghalon, ni allaf ddweud fod y gwersi wedi cael eu crynhoi ar gyfer ardaloedd eraill. Os rhywbeth, rwy’n meddwl mai “diolch byth na ddigwyddodd yma” yw’r ymateb nodweddiadol.’
1 Flynn, 2007, i Bwyllgor Diogelu Oedolion Cernyw, Llofruddiaeth Steven Hoskin: Adolygiad Achos Difrifol. Ar gael o wefan Cyngor Cernyw
2 Flynn, 2009, i Fwrdd Diogelu Oedolion Cernyw, Y llwyddiannau a gyflwynid a’r rhwystrau a wynebwyd wrth gyflenwi cynlluniau gweithredu Adolygiad Achos Difrifol Steven Hoskin, tud16. Ar gael o wefan Cyngor Cernyw