Creu Prydain Decach
Mae’r Comisiwn yn dyfarnu grantiau i sefydliadau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, cysylltiadau da a hawliau dynol.
Ceir fwy o wybodaeth yn adran Grantiau ac Ariannu’r brif safle. (Yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
Mae’r terfynau amser ar gyfer ceisiadau i Flaenoriaeth Un, Blaenoriaeth Dau a Blaenoriaeth Tri ar gau yn awr. Mae’r ymgeiswyr i’r Rhaglen Ariannu Strategol (Blaenoriaeth Un a Blaenoriaeth Dau) wedi derbyn gwybodaeth am ganlyniad eu ceisiadau cymal cyntaf erbyn hyn ac mae’r Comisiwn yn ystyried ceisiadau Blaenoriaeth Tri.
Comisiwn yn cyhoeddi rhaglen ariannu £10 miliwn i sector gymunedol a gwirfoddol (Yn Saesneg yn unig)
Heddiw cyhoeddodd y Comisiwn Raglen Ariannu Strategol £10.2 miliwn newydd, yn darparu cyllid yn seiliedig ar brosiectau tair blynedd o i fyny at £450,000 i sefydliadau sector gymunedol a gwirfoddol.
Mae’r Comisiwn wedi ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus i bennu dyfodol ei raglen ariannu sefydlog. Mae’r ymgynghoriad yn awr wedi dod i ben. Disgwylir i alwad am geisiadau ar gyfer rhaglen ariannu 2009/10 i fynd allan ym mis Mai 2009. Y nod yw symud i fodel ariannu hyblyg sy wedi’i gysylltu’n agosach i flaenoriaethau strategol y Comisiwn sydd ar fin ddod allan. Mae’r rhaglen ariannu yn ffordd rymus o weithio â sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i gyflawni newid ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Darllenwch ein datganiad i'r wasg llawn llawn ar yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y rhaglen ariannu sefydlog.