Gyda thoriadau mawr ar y gweill mewn gwariant cyhoeddus, bydd rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus wneud penderfyniadau ariannol anodd.
Mae gan eich awdurdod ddyletswyddau cyfreithiol i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb ar sail hil, rhyw ac anabledd, a chysylltiadau da â’r gymuned. Er nad yw’r dyletswyddau hyn yn eich atal rhag gwneud toriadau, maen nhw’n awgrymu sut y gallwch ddatblygu cynigion sy’n ystyried holl anghenion aelodau’ch cymuned.
Mae’r Comisiwn wedi datblygu’r deunyddiau yn yr adran hon i helpu’r rheini sy’n cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i wneud penderfyniadau sy’n deg i bawb.
Ceir mwy o wybodaeth gan gynnwys codau a chanllaw ym mhrif adran y Dyletswyddau Sector Cyhoeddus