Torri’r distawrwydd am drais yn erbyn menywod

Mae trais yn erbyn menywod yn fater difrifol iawn. Mae’n difetha bywydau menywod a phlant.  Yn 2008/09 roedd cam-drin domestig (gan gynnwys gan gymheiriaid, cyn cymheiriaid ac aelodau teulu) yn gyfrifol am 68% o’r lladdiadau ar fenywod a 15% o’r lladdiadau ar ddynion.

Cam pwysig ymlaen yw ‘torri’r distawrwydd am drais’ yn erbyn menywod ac rydym yn croesawu’r cyfle i gydweithio ag amrywiaeth eang o bartneriaid. Rydym yn galw ar awdurdodau cyhoeddus, sefydliadau’r sector gwirfoddol, undebau llafur a myfyrwyr i ymuno â ni i ymdrin â’r agenda bwysig hon.

Welshcoverpicbsv

back to top