Creu Prydain Decach
Darllenwch am ddigwyddiadau'r Comisiwn y llynedd a chyn hynny.
Mae’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau Rhanbarthol y Gyfnewidfa Cydraddoldeb yn adeiladu ar y gweithdai dyletswyddau penodol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr. Gobeithio, o ganlyniad i’r diwrnod, y bydd aelodau’n teimlo’n hyderus wrth gyflawni’r dyletswyddau penodol a’u defnyddio i gael canlyniadau positif.
Bydd y set nesaf o ddigwyddiadau Rhanbarthol Cyfnewidfa Cydraddoldeb yn adeiladu ar y gweithdai dyletswyddau penodol a gynhaliwyd ym mis Medi. Cael aelodau i gyflawni’r dyletswyddau penodol yn hyderus yw nod y diwrnod a’u defnyddio i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
O’r golwg yng ngolwg pawb - Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd
Mae “O’r golwg yng ngolau dydd” yn amlinellu casgliadau’n hymchwil ar aflonyddu ar sail anabledd: Beth yw effaith aflonyddu ar sail anabledd ar fywyd bob dydd? Beth sy’n rhaid ei newid i bobl fyw’n hyderus? Sut mae datblygu partneriaethau sy’n ymateb yn effeithiol yn wyneb aflonyddu, sy’n rhoi cymorth i bobl anabl ac sy’n atal y cam-drin rhag digwydd yn y lle cyntaf?
Ar 5 Ebrill eleni, daeth y ddyletswydd gydraddoldeb sector cyhoeddus newydd i rym gan gwmpasu’r awdurdodau cyhoeddus oll a’r rheiny sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus. Ar 6 Ebrill, daeth y dyletswyddau penodol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli, i rym hefyd. Annog aelodau yw nod y dydd, i fwrw ymlaen â’r dyletswyddau drwy rannu eu gwybodaeth a’u profiadau a’i gilydd.
Bydd y digwyddiadau’n digwydd rhwng 10am a 3pm yn y mannau cyfarfod a’r dyddiadau canlynol ar draws Cymru:
Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb
Dydd Mercher 8 Mehefin 2011
Llandrindod
Thema cynhadledd flynyddol Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb eleni yw ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid'.
Mae’r prif siaradwyr yn cynnwys Bill Kerry cydsefydlydd The Equality Trust (y sefydliad a oedd wrth wraidd cynhyrchu ‘The Spirit Level’) a Wayne Gwilym o Rockwool.
Cynhadledd Ffeithiau am Gymru
Dydd Mawrth 29 Mawrth - Caerdydd
Dydd Iau 31 Mawrth - Conwy
Yn ein dwy gynhadledd, cafodd dros 150 o westeion y cyfle i fwrw golwg ar gasgliadau dau o'n hadroddiadau carreg filltir Pa mor deg yw Cymru? ac Economic Inequality in Wales.
16/02/11
Eich busnes chi yw cam-drin domestig - cynhadledd hanner diwrnod
Cynhaliwyd cynhadledd hanner diwrnod ar y cyd gan y Comisiwn a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Abertawe, o'r enw Eich busnes chi yw cam-drin domestig.
Mwy nag ystadegyn: Gweithdy i newyddiaduron a gwneuthurwyr rhaglenni
Dydd Llun 17 Ionawr 2011
Canol Caerdydd
Wedi'i hwyluso gan Juliet Jacques, colofnydd yn y Guardian a'r newyddiadurwr Romani Jake Bowers a chyda Andy Collinson (ITV Cymru) wrth y llyw. Bu'r gweithdy yn gyfle i newyddiaduron a gwneuthurwyr rhaglenni i glywed o lygad y ffynnon gan bobl sydd yn fwyaf tebygol o ddioddef gwahaniaethu yng Nghymru, ac i fyfyrio wedyn ar eu profiadau.
Digwyddiadau rhanbarthol y Gyfnewidfa Cydraddoldeb - Ionawr 2011
Dydd Mawrth 18 Ionawr - Caerfyrddin,
Dydd Iau 20 Ionawr - Bangor
Dydd Mercher 26 Ionawr - Caerdydd
Yn ein digwyddiadau ym mis Ionawr, gwnaethom fwrw golwg ar asesiadau effaith ar gydraddoldeb ac effaith posibl toriadau ar grwpiau a ddiogelir. Gwnaethom roi sylw ar bryderon penodol a oedd gan sefydliadau.
'Mwy nag ystadegyn' digwyddiad lansio yng Ngogledd a De Cymru
Mae 'Mwy nag ystadegyn - Gweithio gyda'n gilydd i herio rhagfarn' yn adroddiad sydd ar fin ymddangos, yn dilyn ymchwil ar brofiadau bywyd Teithwyr Sipsi, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, pobl trawsryweddol a phobl chyflyrau iechyd meddwl yn byw yng Nghymru.
Digwyddiadau Rhanbarthol Rhwydwaith Cyfnewidfa Cydraddoldeb y Comisiwn 2010
Maer Ddeddf Cydraddoldeb ar fin dod i rym, fel y gwyddoch. Daw rhannau allweddol or ddeddfwriaeth carreg filltir hon i rym ym mis Hydref. O ganlyniad ir adborth a gawsom gan lawer ohonoch dros y misoedd diwethaf, byddwn yn cynnwys trafodaeth or Ddeddf Cydraddoldeb yn ein cyfres nesaf o ddigwyddiadau cyfnewidfa cydraddoldeb rhanbarthol.
Cymru Anghyfartal: Tystiolaeth a Gweithredu Iechyd
Dydd Iau 25 Mawrth 2010
Plas Pentwyn, Wrecsam
Pam fod cydraddoldeb o bwys Maer digwyddiad hwn yn ystyried y dystiolaeth ar draws y meysydd cydraddoldeb drwy ymchwil ac arolygiadau.
Ddigwyddiadau Cyfnewidfa Cydraddoldeb Rhanbarthol 2010
Bydd y set nesaf o ddigwyddiadau Cyfnewidfa Cydraddoldeb Rhanbarthol yn rhoi cyfle i chi drafod ffyrdd newydd a gwell o reoli dau fater gweithle allweddol staff chyflyrau iechyd meddwl a hefyd staff yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig.
Cymru Anghyfartal- tystiolaeth a gweithredu: addysg
25 Chwefror - The Depot Studio, Abertawe
Gan adeiladu ar ein hadroddiad ymchwil materion cydraddoldeb yng Nghymru bydd y digwyddiad hwn yn ystyried y dystiolaeth ar anghydraddoldeb ym maes cyflogaeth. Trwy gyfuniad o gyflwyniadau a sesiynau arbenigol byddwn yn gofyn
8 Rhagfyr Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Drwy gynnal cynhadledd ar y cyd fe archwilion ni'r canlynol:
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl - Beth maen ei olygu i mi?
Cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU ar 8 Mehefin 2009. Dyma un o gytundebau rhyngwladol cyntaf yr unfed ganrif ar hugain, syn ailddatgan hawliau dynol pobl anabl a nodir camau cadarnhaol y disgwylir ir Llywodraeth eu cymryd.
Agenda Newydd ir Sector Cyhoeddus? - Dyletswyddau penodol newydd i Gymru a rhoi hwb i Hawliau Dynol
Gwnaeth y rownd nesaf hon o ddigwyddiadau rhanbarthol y Gyfnewidfa Gydraddoldeb roi cyfle i bobl i gymryd rhan yn Ymarfer Gwrando Llywodraeth y Cynulliad. Drwy ddatblygu ar drafodaethau blaenorol, cawson nhw'r cyfle i ddweud wrthym ba ddyletswyddau sector cyhoeddus fyddair mwyaf effeithiol wrth gyflawni cydraddoldeb.
Darlith Flynyddol Gyntaf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cyfle Cyfartal a Hawliau Dynol: Degawd Cyntaf Datganoli yng Nghymru
Dydd Mercher 11 Tachwedd 2009 Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Traddododd