Creu Prydain Decach
Gwnaeth y Comisiwn yng Nghymru nodi Dydd Rhyngwladol Pobl Anabl drwy lywyddu cynadleddau yn Abertawe (Rhagfyr 2) a Llandudno (Rhagfyr 4) i godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd. Y Confensiwn, a gadarnhawyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 8 Mehefin 2009, yw cytundeb hawliau dynol rhyngwladol cyntaf yr unfed ganrif ar hugain. Gwnaeth y digwyddiadau hyn ganiatáu pobl i archwilio sut y gellir defnyddio’r Confensiwn i wneud hawliau dynol yn realiti pob dydd. Aeth oddeutu 150 o bobl anabl a grwpiau i’r cynadleddau.
Amlygir materion anabledd yn fawr yng Nghymru gan ystadegau sy’n dangos:
Hefyd yn ystod Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl (Rhagfyr 3) cyhoeddodd y Comisiwn y byddai’n cynnal Ymchwiliad Ffurfiol ar aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd. Bydd yr Ymchwiliad yn casglu ac yn archwilio tystiolaeth gan bobl anabl sy wedi’u heffeithio gan aflonyddu sy’n gysylltiedig ag anabledd a chan awdurdodau cyhoeddus ynghylch y camau maen nhw’n defnyddio i fynd i’r afael â’r mater. Mae tystiolaeth a gasglwyd yn barod gan y Comisiwn yn dangos bod trais neu elyniaeth a dargedir tuag at bobl anabl yn digwydd ledled Prydain. Mae pobl ag anabledd dysgu neu ag afiechyd meddwl yn arbennig yn dioddef lefelau uchel o erledigaeth.
Meddai Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru:
“Bu llawer o achosion yn ddiweddar ble mae bwlio, gelyniaeth ac ymddygiad anghymdeithasol a dargedwyd wedi dwysáu i drais mwy difrifol, neu farwolaeth pobl anabl.
“Mae’r ymchwiliad diweddar i farwolaeth echryslon Fiona Pilkington a’i merch Francecca yn dangos yr angen am ymyrraeth gynnar a gweithredu ataliol.
“Bydd ein Hymchwiliad yn edrych ar brofiadau pob dydd pobl anabl. Mae byw yn y Gymru sydd ohoni yn golygu llawer o gysylltu â gwasanaethau cyhoeddus felly rydym am ddarlun gwell o beth mae cyrff cyhoeddus yn gwneud i fynd i’r afael â’r aflonyddu mae pobl anabl yn wynebu.”
Mwy am yr Ymchwiliad Prydain eang (yn Saesneg)
Darllenwch gyhoeddiad y Comisiwn: Making Rights a Reality: Implementing the UN Convention on the rights of Persons with Disabilities