Dr Alan Willson - Lessons from the 1000 Lives campaign
Victoria Winckler - How fair is Wales?
Martin Henderson - Project Bernie
Creu Prydain Decach
Dydd Mawrth 29 Mawrth - Caerdydd
Dydd Iau 31 Mawrth - Conwy
Yn ein dwy gynhadledd, cafodd dros 150 o westeion y cyfle i fwrw golwg ar gasgliadau dau on hadroddiadau carreg filltir Pa mor deg yw Cymru? ac Economic Inequality in Wales.
Roedd Karen Dusgate wrth y llyw yng Nghaerdydd a Clifton Robinson yng Nghonwy, dau ddiwrnod yn ddiweddarach, ill dau yn aelodau o bwyllgor y Comisiwn.
Cafodd cynulleidfaoedd y cynadleddau ei ffurfio gan gymysgedd o wneuthurwyr polisi, ystadegwyr ac ymarferwyr cydraddoldeb o Lywodraeth Cynulliad Cymru, y GIG, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tn ac Achub ar sectorau addysg a gwirfoddol hefyd, yn ogystal chynrychiolwyr o seiadau doethion ac academia.
Adroddiad syn torri cwys newydd yw Pa mor deg yw Cymru? syn dilyn yn sgil adroddiad fwy, Prydain eang y Comisiwn Triennial Review How fair is Britain?
Am y tro cyntaf ac yn yr un adroddiad, mae Pa mor deg yw Cymru?yn nodi problemau rheolaidd yr ydym oll yn gyfarwydd hwy, megis y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac effaith tlodi ar gyflawniadau addysgol.
Ond mae heriau eraill syn dod ir amlwg megis y diffyg adrodd o ran troseddau casineb ar bylchau cyflog a chyflogaeth, ymledol syn dod i ran bobl anabl.
Ebe Kate Bennet, Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru:
"Dros y genhedlaeth ddiwethaf mae camau anferthol wediu cymryd i fynd ir afael gwahaniaethu a newid agweddau ledled Cymru, eto mae ein huchelgeisiaun dal yn fwy nan llwyddiannau.
"Am y tro cyntaf yn y ddwy gynhadledd, archwiliwyd tystiolaeth ar anghydraddoldeb economaidd trwy lygaid nodweddion pobl, megis hil, anabledd a rhywedd.
"Mae Pa mor deg yw Cymru? yn adroddiad awdurdodol, credadwy, ymarferol a pherthnasol, yn angenrheidiol wrth gynorthwyo pawb ohonom i asesu pun a yw polisiau yn cynyddu neun lleihau tegwch."
Dyma ran or adborth a gawsom gan westeion yn y cynadleddau:
Os hoffech fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar fin dod neu hoffech ymuno n Rhwydwaith Cyfnewidfa Cydraddoldeb yna anfonwch e-bost atom yma.