Darllenwch y adroddiad cynhadledd 2012
Sbarduno newid: Cyflawni effaith
Roedd y gynhadledd eleni ddydd Mercher 13 Mehefin 2012 yn Llandrindod. Daeth dros 75 o gynadleddwyr at ei gilydd o’r sector cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i drafod y thema Sbarduno newid: Cyflawni effaith.
Clywodd y cynadleddwyr anerchiadau gan y siaradwyr ysbrydoledig a ganlyn:
Yn ogystal, gwyliodd y cynadleddwyr Martin Henderson yn cael ei gyfweld ar ffilm ac a oedd yn defnyddio dull yn seiliedig ar dystiolaeth - a Bernie y ddafad gartŵn - i fynd i’r afael â’r hen broblem o ddechrau tanau glaswellt yn Nhonypandy. Pennaeth lleihau risg yw Martin yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Roedd y gynhadledd hon yn rhad ac am ddim i Aelodau’r Gyfnewidfa Gydraddoldeb. Os nad ydych eisoes yn aelod, gallwch ymaelodi am ddim drwy gysylltu â Mandy Bain ar 01248360581 neu mandy.bain@equalityhumanrights.com
Yn ddiweddar amlygwyd Rhwydwaith y Gyfnewidfa Gydraddoldeb fel enghraifft o arfer effeithiol yng nghyhoeddiad Equinet ‘Good Practice Guide on Promoting Diversity in the Workplace’. Rhwydwaith Cyrff Cydraddoldeb Ewropeaidd yw Equinet a 37 o sefydliadau o 30 o wledydd Ewrop yn aelod.
Hoffwn ddiolch i’n haelodau am eu diwydrwydd i sicrhau bod Rhwydwaith y Gyfnewidfa Gydraddoldeb yn parhau’n llwyddiant ac rydym yn falch bod Equinet wedi’i gydnabod a’i hyrwyddo ledled Ewrop.