Darlith hawliau dynol flynyddol

Dydd Mawrth 2 Hydref 2012
Y Deml Heddwch, Caerdydd

P’un yw’r heriau hawliau dynol allweddol yng Nghymru?

Cynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ei drydedd ddarlith hawliau dynol flynyddol ar 2 Hydref.

Atynnodd y ddarlith gynulleidfa eang a oedd yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol ac unigolion o awdurdodau cyhoeddus, asiantau cyfiawnder troseddol a sefydliadau’r trydydd sector yn ogystal ag academyddion, ac ymunodd y cyfan mewn dadl fywiog ynghylch yr heriau hawliau dynol allweddol yng Nghymru.

Roedd rhai o’r materion allweddol a godwyd yn cynnwys:

  • Er mwyn gwneud hawliau dynol yn ‘real’ mae angen i ni ganfod enghreifftiau bychan ond arwyddocaol o brofiadau unigol. Yma, crybwyllwyd storïau digidol y CCHD yn enghreifftiau da o gyflwyno agwedd ddynol y profiadau.
  • Mae angen i ni ganfod iaith i ddisgrifio hawliau dynol y gall pobl ymwneud â hi a chanfod ffordd i gyfathrebu hynny’n glir ac yn effeithiol.
  • Codwyd pryderon nad oedd hawliau dynol wedi’u hymgorffori ym maes hyfforddi meddygol nag yn y proffesiwn meddygol yn fwy cyffredinol.
  • Roedd trafodaeth ynglŷn ag aflonyddu ar sail anabledd a’i gynnwys yng nghynlluniau cydraddoldeb strategol awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Roedd cydnabyddiaeth o swyddogaeth graffu allweddol y trydydd sector i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni.
  • Roedd sut i newid syniad y cyhoedd o hawliau dynol yn gwestiwn sylfaenol. Er enghraifft, portreadu’r cyfryngau o bobl anabl mewn perthynas â diwygiadau lles.
  • Cydnabuwyd fod gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ran allweddol mewn perthynas â hawliau dynol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.

Ar ddiwedd y drafodaeth, gofynnwyd i’r gynulleidfa addo i wneud o leiaf un peth i hyrwyddo hawliau dynol o fewn eu sefydliadau.

Crybwyllwyd wrth y gynulleidfa bwysigrwydd dathlu llwyddiant yn ogystal â dysgu oddi ar fentrau sydd yn led aflwyddiannus wrth daclo’r heriau allweddol sydd yn ein hwynebu yng Nghymru.

back to top