Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb
Canllaw ar y Ddyletswydd Cydraddoldeb i Sector Cyhoeddus Cymru
Creu Prydain Decach
Bydd y digwyddiadau’n digwydd rhwng 10am a 3pm yn y mannau cyfarfod a’r dyddiadau canlynol ar draws Cymru:
Ar 5 Ebrill eleni, daeth y ddyletswydd gydraddoldeb sector cyhoeddus newydd i rym gan gwmpasu’r awdurdodau cyhoeddus oll a’r rheiny sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus. Ar 6 Ebrill, daeth y dyletswyddau penodol ar gyfer awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli, i rym hefyd.
Nod y ddyletswydd gydraddoldeb sector cyhoeddus yw sicrhau bod y sefydliadau oll sy’n destun iddi yn ystyried sut y gallant gyfranogi’n gadarnhaol i gymdeithas decach drwy gael gwared â gwahaniaethu, a hyrwyddo cyfle cyfartal a pherthynas dda yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Lluniwyd dyletswyddau penodol Cymru i wella effeithiolrwydd y ddyletswydd gyffredinol.
O hyn tan ddiwedd y flwyddyn, byddwn yn arwain gweithdai yn ymwneud â’r dyletswyddau penodol. Gwyddom fod rhai o aelodau’r rhwydwaith yn perthyn i sefydliadau sydd heb eu datganoli a rhagwelwn y bydd y dyletswyddau penodol iddynt hwy’n wahanol. Er hynny, bydd y camau a ddynodwyd yn y dyletswyddau Cymreig yn darparu sylfaen defnyddiol i fwrw’r cwch i’r dŵr gan y bydd nifer o bwyntiau cymwysadwy yn gyffredin i bawb.
Ar gyfer ein cyfarfod ym mis Medi, bydd ein hagenda yn cynnwys gosod nodau cydraddoldeb, ymgysylltu a chasglu gwybodaeth berthnasol. Mae’r rhain i gyd yn eitemau sylfaenol i’w cynnwys yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Annog aelodau yw nod y dydd, i fwrw ymlaen â’r dyletswyddau drwy rannu eu gwybodaeth a’u profiadau a’i gilydd. Gall aelodau rannu eu cynnydd hyd yn hyn a phwyso a mesur unrhyw her neu gyfle a ddaeth i’w hynt. Mae cyfarwyddyd wedi ei gyhoeddi gan y Comisiwn i gynorthwyo awdurdodau cyhoeddus a bydd staff y Comisiwn ar gael i helpu ar y diwrnod. Byddwn yn sicrhau fod themâu ac adborth allweddol yn cael ei rhannu â’r rhwydwaith ehangach fel bod pawb yn elwa.
Os hoffech ragor o fanylion neu i gofrestru ar gyfer un o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch ag emma.eccles@equalityhumanrights.com