Lansiad 'an Anatomy of Economic Inequality in Wales'

Dydd Iau 12 Mai 2011
Prifysgol Caerdydd

Mae'n bleser gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol estyn croeso ichi i lansiad An Anatomy of Economic Inequality in Wales, adroddiad sy'n torri cwys newydd. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i glywed a thrafod casgliadau allweddol o'r adroddiad. Yr Athro Teresa Rees fydd wrth y llyw a bydd cyflwyniadau gan Kate Bennett ac awduron yr adroddiad.

Mae'r adroddiad cofiadwy hwn yn darparu carreg filltir o ran ein dealltwriaeth o'r berthynas rhwng canlyniadau economaidd pobl - megis addysg, cyflogaeth ac enillion - a'u nodweddion a'u hamgylchiadau. Bydd yn chwarae rhan bwysig o ran polisiau yng Nghymru sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac hefyd, wrth gynorthwyo o ran targedu adnoddau i fynd ir afael a'r meysydd rheolaidd o anghydraddoldeb sy'n dod ir amlwg.

Menter ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe yw WISERD. Nod strategol WISERD yw sefydlu ei hunan yn sefydliad ymchwil cynaliadwy wedi'i adeiladu ar gysylltiadau gweithredol staff y gwyddorau cymdeithasol ledled y sector Addysg Uwch yng Nghymru ac ymroddiad set ddyrys o gynulleidfaoedd/ddefnyddwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

RSVP Mandy Bain ar 01248 360581

back to top