O’r golwg yng ngolwg pawb - Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd

  • Dydd Iau 6 Hydref 2011, 10am - 3.30pm, Abertawe
  • Dydd Iau 13 Hydref 2011, 10am - 3.30pm, Wrecsam

"Mae’n digwydd mor aml, fel na ystyriwn ef yn cam-drin mwyach, ond dyna beth ydyw"

“Efallai, bod pobl yn meddwl ei fod yn rhywbeth diniwed, dim ond tipyn o gellwair, ond mae’n arswydus.”

Mae “O’r golwg yng ngolwg pawb” yn amlinellu casgliadau’n hymchwil ar aflonyddu ar sail anabledd: Beth yw effaith aflonyddu ar sail anabledd ar fywyd bob dydd? Beth sy’n rhaid ei newid i bobl fyw’n hyderus? Sut mae datblygu partneriaethau sy’n ymateb yn effeithiol yn wyneb aflonyddu, sy’n rhoi cymorth i bobl anabl ac sy’n atal y cam-drin rhag digwydd yn y lle cyntaf?

"Nid oes geiriau gennyf i egluro pa mor arswydus y bu"

“Rydym wedi cael petrol wedi’i arllwys o gylch ein cerbyd, bygythiadau i losgi’n cartref, i ysgythru’n cerbyd … pedwar ymosodiad gan frics, olew a chreosot a thri chwd o baent dros ein heiddo.”

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad rhad ac am ddim i drafod casgliadau adroddiad Cymru, i fwrw golwg ar ein hargymhellion ac i roi sylw ar y ffordd ymlaen.

I gofrestru, e-bostiwch mandy.bain@equalityhumanrights.com gan nodi’ch man cyfarfod dewisedig. Neu ffoniwch 01248 360581, minicom 029 20447713.

Rhowch wybod i ni am unrhyw anghenion penodol sydd gennych o ran mynediad, cyfathrebu neu ddiet.

back to top