100 mlynedd o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Diffyg grym a dylanwad gan fenywod yng Nghymru o hyd

Wrth i gan mlynedd o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gael ei ddathlu ledled y byd, mae adroddiad newydd yn dangos  bod dangynrychiolaeth difrifol o fenywod o hyd yn safleoedd o rym a dylanwad yng Nghymru.

Mae adroddiad Pwy sy’n rhedeg Cymru? 2011  y Comisiwn yn bwrw golwg ar ddeg agwedd o fywyd yng Nghymru, gan gynnwys gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, iechyd a’r sector preifat er mwyn asesu’r cydbwysedd rhwng y rhywiau wrth fyrddau gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Canfu arolwg o’r 50 o’r cwmnïau gorau yng Nghymru ond dwy brif weithredwr
  • Dim ond un o’n 22 o Arweinyddion Cyngor sydd yn fenyw
  • Dim ond 26% o brifathrawon ysgolion uwchradd sydd yn fenywod er bod 75% o holl athrawon yn fenywod
  • Dim ond 23% o brif weithredwyr llywodraeth leol sydd yn fenywod, er bod 68% o weithwyr awdurdod lleol yn fenywod

Meddai Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod dangynrychiolaeth difrifol o fenywod o hyd yn bodoli wrth uwch fyrddau yng Nghymru.

“Mae ein sefydliadau’n cael eu cosbi - mae tystiolaeth yn dangos bod timau rheoli mwy amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell.

“Os daw’r rheiny sydd yn gwneud penderfyniadau o haenen gul o gymdeithas, bydd anghenion y mwyafrif yn cael ei esgeuluso. Mae ein hadroddiad yn amlygu’r angen i arweinyddion gwleidyddol a busnes ganfod y ffordd orau i fanteisio ar y gronfa dalent lawn yng Nghymru.

Nid yw bwriadau da yn ddigon - mae’r mater hwn yn rhy bwysig yw gadael i siawns. Cyfrifoldeb arweinyddion yw cael mwy o fenywod wrth uwch fyrddau yng Nghymru.”

Mae gan y Cynulliad gydbwysedd iachus rhwng y rhywiau, gyda 48% yn fenywod. Ond mae’n anochel y bydd y canran hwn yn gostwng yn arwyddocaol yn yr etholiad ym mis Mai.

Mae’r adroddiad yn canfod rhai meysydd o gynnydd. Cheryl Gillan yw Ysgrifennydd Gwladol benywaidd cyntaf Cymru. Kirsty Williams yw’r Arweinydd Plaid benywaidd cyntaf yn y Cynulliad. Julie Lydon o Brifysgol Morgannwg yw Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Cymru. April McMahon bydd ail Is-Ganghellor benywaidd Cymru pan fydd yn dechrau ar ei swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nodiadau

Coladwyd yr holl ystadegau yn y cyfnod – Ionawr 2011 i Chwefror 2011.

back to top