Creu Prydain Decach
Mae'n bleser gan y Comisiwn i gyhoeddi y bydd Darlith Hawliau Dynol Flynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2011 yn cael ei thraddodi gan y Fonesig Anne Owers.
Yn gynt yn Brif Arolygydd Carchardai ei Mawrhydi, mae'r Fonesig Owers yn Gadeirydd Clinks sydd yn cefnogi sefydliadau'r sector gwirfoddol sydd yn gweithio gyda thramgwyddwyr a'u teuluoedd.
Heno yng Nghaerdydd (Mai 11) bydd yn siarad am ei bywyd a'i gwaith, ac am bwysigrwydd hawliau dynol yn y byd sydd ohoni heddiw, yn arbennig o ran adsefydlu tramgwyddwyr.
Mae ystadegau am boblogaeth y carchardai yn dangos bod:
Meddai Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Rydym wrth ein bodd bod y Fonesig Anne Owers yn traddodi ein darlith flynyddol heno.
Gwasanaethau cyhoeddus yw carchardai a dylent ddarparu ar gyfer ystod eang o garcharorion gan gynnwys menywod, lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl ifanc.
Y gosb yw cael eich carcharu. Dylem anelu at leihau ail-droseddu ac mae hyn yn golygu asesu ac ymdrechu i fodloni anghenion y carcharorion. Ac i rai o'r rheini sydd â'r anghenion mwyaf, mynd i'r carchar fydd eu hanes.
Mewn llefydd sydd y tu hwnt i lygaid y cyhoedd, mae'n bwysig cynnal egwyddorion hawliau dynol megis urddas a pharch. Nid rhywbeth i'w ennill yw hawliau dynol ond hawliau sydd ar gyfer pawb gan gynnwys y sawl sydd yn y carchar".
Diwedd
Cysylltwch â Saska Shepherd ar 02920 447787, symudol 07875765953 am wybodaeth bellach.
Rhagor o wybodaeth am Clinks ar Fonesig Anne Owers.
[2] Cewch yr ystadegau yn adroddiad llawn ar- lein y Comisiwn ÂÂÂÂ How Fair is Britain? Pennod 7: Tudalennau 170-171.