Deddf Cydraddoldeb 2010 (saesneg yn unig)
Creu Prydain Decach
Mae Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol i Gymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wedi croesawu cyflwyniad y Ddeddf Cydraddoldeb gan ddweud y daw â “newidiadau bychain a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl”.
Y Ddeddf newydd, y daw rhan fwyaf ohoni i rym heddiw (1 Hydref 2010) yw’r datblygiad mwyaf arwyddocaol ym maes cyfraith cydraddoldeb am 40 mlynedd. Daw â 116 o ddarnau o ddeddfwriaeth cydraddoldeb at ei gilydd, gan roi cyfreithiau grymusach, symlach i ni a chysoni i fyny’r diogelwch cyfreithiol a gynigir ar draws y naw nodwedd warchodedig - oed, anabledd, rhyw, newid rhyw, partneriaeth sifil a phriodas, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol.
Mae enghreifftiau o beth mae’r Ddeddf yn darparu, yn cynnwys:
Hefyd, mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn haws i fusnesau i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi amrywiaeth o ganllawiau i sicrhau bod unigolion a sefydliadau’n elwa er eu gorau o’r Ddeddf newydd. Mae hyn yn cynnwys pecyn dechrau ar-lein a gaiff ei lansio heddiw i gyd ddigwydd â’r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Diben y canllaw yw helpu sefydliadau’r sector gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat i ddeall eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf newydd.
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol i Gymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
“Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gyfraith i bawb. Mae’n rhoi cyfreithiau grymusach, symlach i ni a fydd yn helpu Prydain i ddod yn gymdeithas decach, gan wella gwasanaethau cyhoeddus a helpu busnesau i gyflawni’n dda.
Mae’r Ddeddf yn rhoi diogelwch ychwanegol i bawb, gan gynnwys gofalwyr, menywod sy’n bwydo ar y fron, staff bar, grwpiau ffydd, anffyddwyr a phobl trawsryweddol.
“Wrth weithio gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio’r Ddeddf Cydraddoldeb fel astell ddeifio i greu cymdeithas lle mae pawb yn cyfrif a lle bo gan bawb yr hawl i driniaeth deg a’r cyfle i gyflawni’u potensial.”
Nodiadau i Olygyddion
Am ragor o wybodaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ewch i: www.equalityhumanrights.com/ea2010
Deddf Cydraddoldeb 2010 (saesneg yn unig)