Eich busnes chi yw cam-drin domestig

16/02/11

Heddiw, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal cynhadledd hanner diwrnod o’r enw Eich busnes chi yw cam-drin domestig.

Nid rhywbeth sy’n digwydd yn y cartref yn unig yw cam-drin domestig - mae 75% o fenywod sy’n dioddef cam-drin domestig yn cael eu poeni yn y gweithle. Mae un o bob pedair menyw yn dioddef cam - drin domestig ar ryw adeg yn ei bywyd ac o ran allgynnyrch economaidd a gollwyd o’i herwydd, mae’n costio £2.7biliwn i fusnesau ledled Cymru a Lloegr bob blwyddyn.

Heddiw, bydd cynrychiolwyr o rai o gyflogwyr mwyaf Cymru o’r sectorau preifat a chyhoeddus, arbenigwyr Adnoddau Dynol ac undebau llafur yn clywed sut y gallant, drwy gymryd nifer o gamau ymarferol bychain, leihau salwch ac absenoldeb, arbed arian ac achub bywydau.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Stuart McKenna  o’r ‘Co-operative group’ – cyflogwr o’r sector preifat sydd ar flaen y gad yn gweithredu polisi cam-drin domestig.

Dywed Ann Beynon, Comisiynydd Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac un arall o’r siaradwyr yn y gynhadledd: “Mae cam-drin domestig yn effeithio ar gynhyrchiant a pherfformiad, felly mae cefnogi staff sy’n dioddef cam-drin domestig neu sydd wedi ei ddioddef yn rhwym o fod yn synnwyr busnes perffaith. 

“Mae gweithredu a rhoi nifer o gamau bychain ar waith yn fuddsoddiad da i gadw staff medrus a phrofiadol, gan y byddant wedyn, yn teimlo’n ddiogel ac yn ymwybodol bod cymorth ar gael iddynt, ac o ganlyniad, byddant yn fwy ymrwymedig i’w cyflogwr.”

“Mae’r Comisiwn yn darparu amrywiaeth o becynnau cymorth, canllawiau ac awgrymiadau i helpu cyflogwyr i weithredu ynghylch cam-drin domestig.”

“Mater o ddiogelwch ac iechyd a hawliau dynol yw cam-drin domestig. Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd o ofal,  waeth beth fo maint y gweithlu.”
 
“O gael polisi cam-drin domestig effeithiol yn y gweithle, gall y sectorau preifat a chyhoeddus sicrhau a dangos, eu bod yn ystyried lles eu staff yn ddifrifol iawn a’u bod nhw hefyd, yn gyflogwyr cyfrifol.”

Dywedodd Carl Sargeant, Gweinidog Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, "Gall gam-drin domestig effeithio ar unrhyw un, o’r sawl ‘rydych yn rheolwr arnynt i’r sawl sydd yn eich rheoli chithau. Gall ddynion a merched ei ddioddef fel ei gilydd ac ni fydd arwyddion y cam-drin efallai, yn amlwg bob amser. Dyna pam mai’n bwysig y bydd staff ar bob lefel yn gallu darllen yr arwyddion ac yn gwybod yr hyn y dylent ei wneud pan fyddant yn amau fod rhywun yn dioddef camdriniaeth.

"Gall y cymorth hwn gwir droi fywydau’r dioddefwyr er lles a gallai fod yn gam cyntaf tuag at eu gwneud yn ddiogel.

"Mae mynd i’r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Y llynedd gwnaethom gyllido nifer o ganolfannau cymorth ledled Cymru, yn benodol i helpu dioddefwyr ddelio â chanlyniadau camdriniaeth a’u cynorthwyo i ailadeiladu’u bywydau.

"Ym mis Rhagfyr, addewais £2.5 miliwn yn ychwanegol i gefnogi sefydliadau cam-drin domestig, yn ychwanegol at y £4.3 miliwn  a roddwyd eisoes y llynedd. Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu dangos ymhellach, ein hymrwymiad i’r agenda pwysig hwn drwy ddiogelu cyllideb cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod o £4.4 miliwn ar gyfer 2011/12."

Cynghorir unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig i ffonio Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru, ar 0808 80 10 800 am gyngor cyfrinachol 24 awr y dydd sy’n rhad ac am ddim.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Yn ogystal â bod yn Gomisiynydd Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae Ann Beynon yn Gyfarwyddwr BT Cymru.
Mae ei chefndir gyrfaol yn cynnwys nifer o uwch rannau Datblygu Busnes ac mae hi, ar hyn o bryd yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori ar Fusnes yn y gymuned, yng Nghymru.
Gwobrwywyd Ann ag OBE yn 2008 a hi oedd Llysgennad Tywysog Cymru yn y Gymuned i Gymru o 2005-2006.

back to top