Mae'r Comisiwn yn cynhyrchu datganiadau i'r wasg yn rheolaidd sy'n berthnasol i bynciau llosg y dydd, ymgyrchoedd diweddar neu ddigwyddiadau pwysig arall rydym wedi ymwneud â nhw.
10/04/13
Lansir cyfarwyddyd newydd heddiw i helpu cyflogwyr i reoli a roi cymorth i gyflogeion a effeithir gan gam-drin domestig, y bydd un o bob pedair menyw yn dioddef ar ryw adeg yn eu bywyd.
15/01/13
Canllaw ar feithrin Cymru decach
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, heddiw, wedi cyhoeddi Canllaw Technegol i gynorthwyo awdurdodau cyhoeddus wrth iddynt ddefnyddio Dyletswydd Gydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i Gymru fel teclyn i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y canllaw newydd, hefyd, yn cynorthwyo llysoedd barn a thribiwnlysoedd wrth iddynt ddyfarnu ar faterion o gyfraith gydraddoldeb.
06/11/12
Comisiynydd Cymru’r Comisiwn yn galw am ffocws cryfach ar gydraddoldeb a hawliau dynol
Dywedodd Ann Beynon, Comisiynydd Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, heddiw (dydd Mawrth 6 Tachwedd) ei bod yn bwysicach nag erioed i gymryd agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref ymlaen yng Nghymru.
08/10/12
Asesiad Llywodraeth Cymru o Effaith y Gyllideb Ddrafft ar Gydraddoldeb wedi’i gyflwyno i’r Comisiwn
Heddiw, cyflwynodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, Asesiad Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o Effaith Cyllideb Ddrafft 2013-14 ar Gydraddoldeb.
02/10/12
Beth yw’r heriau hawliau dynol allweddol yng Nghymru?
Heddiw mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn cynnal ei Ddarlith Hawliau Dynol Flynyddol. Bydd y Farwnes Nuala O'Loan, sydd yn arbenigwr hawliau dynol rhyngwladol blaenllaw, yn amlinellu’r heriau hawliau dynol sydd, yn ei thyb hi, yn wynebu Cymru. Trefnwyd y Ddarlith, yng Nghaerdydd, i gyd-daro â phen-blwydd y Comisiwn yn bump oed a thrydydd pen-blwydd Ymchwiliad Pwysig y Comisiwn i hawliau dynol ym Mhrydain.
12/03/12
Comisiwn a Llywodraeth Cymru’n llunio canllaw i Awdurdodau Lleol ynglŷn â gwasanaethau un rhyw
Mae Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllaw byr i Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Bydd yn eu cynorthwyo wrth iddynt ateb dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac yn helpu egluro’r sefyllfa ynglŷn â gwasanaethau un rhyw.
28/09/11
Sefydliadau gogledd Cymru’n uno i fynd i’r afael â cham-drin domestig
Dydd Iau 29 Medi, bydd mwy na 30 o sefydliadau ar draws gogledd Cymru’n dod ynghyd mewn digwyddiad i annog gweithredu ar fynd i’r afael â cham-drin domestig.
12/05/11
Mae adroddiad carreg filltir a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn bwrw golwg ar y ffeithiau ynghylch anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru mewn ffordd heriol a newydd.
11/05/11
Darlith Hawliau Dynol Flynyddol 2011
Mae'n bleser gan y Comisiwn i gyhoeddi y bydd Darlith Hawliau Dynol Flynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2011 yn cael ei thraddodi gan y Fonesig Anne Owers.
Yn gynt yn Brif Arolygydd Carchardai ei Mawrhydi, mae'r Fonesig Owers yn Gadeirydd 'Clinks' sy'n cefnogi sefydliadau'r sector gwirfoddol sydd yn gweithio gyda thramgwyddwyr a'u teuluoedd.
29/03/11
Y Cynulliad yn rhoi golau gwyrdd ir Dyletswyddau Cydraddoldeb Newydd
Dydd Mawrth 29 Mawrth, derbyniodd y Cynulliad y dyletswyddau penodol newydd i Gymru yn unfrydol. Daw'r rhain i rym ar Ebrill 6. Cynlluniwyd y dyletswyddau penodol i helpu cyrff cyhoeddus i roi'r ddyletswydd gyffredinol Prydain eang ar waith yn effeithiol. Daw'r ddyletswydd gyffredinol newydd i rym ar Ebrill 5 ac mae'n gofyn i gyrff cyhoeddus rhoi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, symud cyfle cyfartal ymlaen a meithrin perthynas dda rhwng pobl.
08/03/11
100 mlynedd o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod - Diffyg grym a dylanwad gan fenywod yng Nghymru o hyd
Wrth i gan mlynedd o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gael ei ddathlu ledled y byd, mae adroddiad newydd yn dangos bod dangynrychiolaeth difrifol o fenywod o hyd yn safleoedd o rym a dylanwad yng Nghymru.
Mae adroddiad Pwy syn rhedeg Cymru? 2011 y Comisiwn yn bwrw golwg ar ddeg agwedd o fywyd yng Nghymru, gan gynnwys gwleidyddiaeth, llywodraeth leol, iechyd ar sector preifat er mwyn asesur cydbwysedd rhwng y rhywiau wrth fyrddau gwneud penderfyniadau yng Nghymru.
16/02/11
Eich busnes ch yw cam-drin domestig
Heddiw, maer Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghyd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal cynhadledd hanner diwrnod or enw Eich busnes chi yw cam-drin domestig. Nid rhywbeth syn digwydd yn y cartref yn unig yw cam-drin domestig - mae 75% o fenywod syn dioddef cam-drin domestig yn cael eu poeni yn y gweithle. Mae un o bob pedair menyw yn dioddef cam - drin domestig ar ryw adeg yn ei bywyd ac o ran allgynnyrch economaidd a gollwyd oi herwydd, maen costio £2.7biliwn i fusnesau ledled Cymru a Lloegr bob blwyddyn.
11/10/10
Maer adroddiad carreg filltir 'Pa mor deg yw Prydain?' yn cynnig cyfle syn torri cwys newydd i edrych ar 'Ba mor deg yw Cymru?'
Daw adroddiad carreg filltir a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw r holl wybodaeth sydd ar gael i ateb y cwestiwn , Pa mor deg yw Prydain? at ei gilydd am y tro cyntaf. Hefyd maer data sydd yn yr adroddiad yn cynnig cyfle syn torri cwys newydd i edrych ar 'Ba mor deg yw Cymru?'
01/10/10
Deddf Cydraddoldeb — newidiadau bychain a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr
Mae Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol i Gymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, wedi croesawu cyflwyniad y Ddeddf Cydraddoldeb gan ddweud y daw ‘newidiadau bychain a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl’.
28/09/10
Yr hyn sydd wedi bod yn digwydd gydar Ymchwiliad Ffurfiol i Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru.
Maer Comisiwn yn ymgymryd ag ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd ac ir graddau mae awdurdodau cyhoeddus yn llwyddo i fynd ir afael ag ef ar hyn o bryd. Rydym yn archwilio sut mae pobl anabl, eu teulu, ffrindiau a gofalwyr sy wedi dioddef aflonyddu, yn derbyn cymorth, neu beidio, gan awdurdodau cyhoeddus.
03/09/10
Y terfyn amser cyn bo hir ar roi tystiolaeth in Hymchwiliad Ffurfiol i Aflonyddu ar sail Anabledd
Rydym wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer darparu tystiolaeth i ddydd Gwener yr 17eg o Fedi 2010
Maer amser yn dod i ben i roi tystiolaeth in Hymchwiliad Ffurfiol yn archwilior aflonyddu, trais a chamdriniaeth y mae pobl anabl yn dioddef yn eu bywydau beunyddiol. Cesglir y don gyntaf o dystiolaeth hyd dan ddydd Gwener 17 Medi 2010. Gellir ei roi yn uniongyrchol ir Comisiwn drwyn wefan, llinell gymorth neu e-bost.
14/06/10
Trais, camdriniaeth, bwlio: hanes pobl anabl yng Nghymru sydd eto heb ei ddweud
Comisiwn yn galw am dystiolaeth ar aflonyddu ar sail anabledd
Heddiw maer Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn galw ar bobl anabl i ddweud wrthym ni am y trais ar gamdriniaeth ar sail anabledd y maen nhwn dioddef yn eu bywydau pob dydd.
08/04/10
Comisiwn yn croesawu deddfwriaeth cydraddoldeb carreg filltir
Maen dda gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol weld derbyniad y Mesur Cydraddoldeb, a gafodd Cydsyniad Brenhinol heddiw. Maen cynnwys cyfres o fesurau i fynd ir afael ag anghydraddoldeb ac maer Comisiwn yn ystyried y byddan nhwn helpu Prydain i ddod yn gymdeithas decach.
26/01/10
Comisiynydd newydd yn galw ar arweinwyr gwleidyddol i ethol dros gydraddoldeb
Mae Comisiynydd newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Gymru Ann Beynon wedi ysgrifennu at yr holl arweinwyr pleidiau yng Nghymru iw hatgoffa nhw ou cyfrifoldeb i roi blaenoriaeth i degwch a chwarae teg o flaen llwyddiant gwleidyddol byrdymor.
19/01/10
Comisiwn yn amlinellu cynigion adrodd newydd ar gyflog ar sail rhyw
Bydd cyflogwyr syn dewis i ddadansoddiu bylchau cyflog ar sail rhyw ac adrodd arnynt yn gyhoeddus yn derbyn breintryddid cyfyngedig rhag archwiliad, cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw.
03/12/09
Comisiwn i gynnal Ymchwiliad ar aflonyddwch pobl anabl
Heddiw cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei bod yn cynnal Ymchwil Ffurfiol ar aflonyddwch ar sail anabledd yng Nghymru a Lloegr.
19/11/09
Penodi comisiynwyr newydd ir Comisiwn
Heddiw cyhoeddodd Harriet Harman, Gweinidog dros Fenywod a Chydraddoldeb Gomisiynwyr newydd ir Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
11/11/09
Cydraddoldeb a Datganoli: Y Deng Mlynedd Gyntaf a Symud Ymlaen
Dim ond dyddiau cyn adroddiad Confensiwn Cymru Gyfan, mae astudiaeth newydd wedi dangos bod cynnydd sylweddol wedii wneud o dan ddatganoli tuag at gydraddoldeb, a bod cydraddoldeb wedi cryfhau datganoli. Cafodd Equal Opportunities and Human Rights: The First Decade of Devolution gan Dr Paul Chaney o Brifysgol Caerdydd ei gomisiynu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.
22/06/09
Comisiwn yn galw am agenda newydd yn y dirywiad
Heddiw dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod rhaid symud materion cydraddoldeb i fynyr agenda cyhoeddus yn ystod y dirywiad economaidd cyfredol.
15/06/09
Hawliau dynol yr allwedd i urddas a pharch i'r sawl heb lais
Mae Ymchwiliad pwysig gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi canfod bod y rhan fwyaf o bobl (81%) yn credu y gall hawliau dynol chwarae rhan ganolog wrth greu cymdeithas decach i bawb, gan gynnwys y sawl heb lais, ac eu bod yn arwain at welliannau pan fo egwyddorion hawliau dynol yn cael eu gosod yng nghraidd gwasanaethau cyhoeddus.
06/03/09
Adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amlygu'r diffyg o fenywod mewn safle
Adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amlygur diffyg o fenywod mewn safleoedd o ber a dylanwad ym mywyd Cymru. Mae adroddiad Pwy syn Rhedeg Cymru? y Comisiwn yn rhoi darlun o fywyd yng Nghymru, gan gynnwys gwleidyddiaeth, iechyd, ar sector preifat er mwyn asesur cydbwysedd rhyw ar fyrddau gwneud penderfyniadau yng Nghymru.
12/02/09
Bobl ifanc yn herio rhagfarn yn cael eu hamlygu
Yn y BAFTAs ar Golden Globes, Kate Winslet oedd yr enw ar wefusau pawb, ond yng Nghymru'r penwythnos hwn, pump o bobl ifanc a fydd yn cael eu hamlygu ar sgriniaun sinemu.
30/01/09
Adroddiad newydd yn canfod bylchau difrifol yng ngwasanaethau i fenywod sydd wedi dioddef trais
Mae adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) ar Glymblaid Dileu Trais yn Erbyn Menywod (EVAW) wedi amlygu bylchau difrifol yn y gwasanaethau sydd ar gael i fenywod yng Nghymru sy wedi dioddef o drais.
15/10/08
Comisiwn yn herio pobl yng Nghymru - Pwy ydych chi'n ei weld?
Maer Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn herio pobl heddiw (Dydd Mercher 15 Hydref) i ail feddwl cyn labeli pobl yn negyddol o achos eu golwg, cefndir neu ffordd o fyw yn unig.
12/03/08
Mae Teithwyr yn rhoi eu hachos ger bron y Cynulliad
Daeth Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Gymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw i gyflwyno eu hachos dros fargen newydd rhwng cymuned sefydlog y wlad a'r gymuned deithiol.
11/03/08
Uwchgynhadledd Hawliau Dynol Gyntaf Erioed yng Nghymru
Y Gwir ar Gau a Gweddnewid Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw bydd dros 150 o bobl yn mynychu Uwchgynhadledd Hawliau Dynol arloesol yng Nghymru i drafod yr heriau allweddol wrth roi lle canolog i hawliau dynol yng ngwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.