Creu Prydain Decach
Daw adroddiad carreg filltir a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol heddiw â’r holl wybodaeth sydd ar gael i ateb y cwestiwn , ‘Pa mor deg yw Prydain?’ at ei gilydd am y tro cyntaf. Hefyd mae’r data sydd yn yr adroddiad yn cynnig cyfle sy’n torri cwys newydd i edrych ar 'Ba mor deg yw Cymru?'
Daw’r adroddiad i’r canlyniad ein bod ni ers 1945 wedi cymryd camau mawr i fynd i’r afael â gwahaniaethu a newid agweddau ledled Prydain. Dengys arolygon barn fod Prydain yn wlad ag uchelgais i fod yn gymdeithas decach.
Eto, er y cynnydd arwyddocaol hwn, mae ein huchelgeisiau yn dal i fod yn fwy na’n cyraeddiadau. Mae problemau parhaus yn aros ac mae heriau newydd gennym yn yr unfed ganrif ar hugain . Mae bylchau yn agor rhwng y rheini sydd â’r cyfle i lwyddo a’r rheini nad oes ganddynt y cyfle i wneud.
Mae’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau a gyflwynir i’r Senedd bob tair blynedd, ‘Pa mor deg yw Prydain?’ yn darparu tystiolaeth annibynnol i fesur y cynnydd tuag at gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Ac mae’n nodi pum maes allweddol o fywyd lle mae pobl yn dod ymlaen yn wahanol yn ôl eu cefndir. Y rhain yw: lles, dysgu, gwaith, diogelwch ac ymreolaeth.
Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol bydd y dystiolaeth a amlinellir yn yr adroddiad yn hanfodol wrth gynorthwyo’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i bwyso a mesur pa un ai a fyddai’u polisïau’n cynyddu neu’n lleihau tegwch.
Am y tro cyntaf unrhyw le yn y byd, yn hytrach na chanolbwyntio ar anghydraddoldebau economaidd yn unig, bydd yr Adolygiad yn dadansoddi’r holl ddata sydd ar gael yn cwmpasu’r meysydd sy’n angenrheidiol i bobl er mwyn byw bywyd bodlon, cynhyrchiol a hapus.
Mae’n nodi heriau sy’n codi, fel effaith tlodi ar gyraeddiadau addysgol; y reportio cynyddol o drosedd casineb sy ddim yn cael ei adlewyrchu yn y raddfa o euogfarnau; a’r nifer cynyddol o bobl sy dros 50 oed yn brwydro i gydbwyso gofynion gwaith a gofalu am blant a pherthnasau hŷn. Ochr yn ochr â’r rhain, mae’n asesu’r cynnydd sy wedi’i gyflawni wrth fynd i’r afael â phroblemau parhaus fel y bwlch cyflog ar sail rhyw a gwahaniad ym myd cyflogaeth.
Hefyd, mae’r Adolygiad yn amlygu bylchau arwyddocaol yn y wybodaeth a’r data am grwpiau arbennig- er enghraifft, pobl trawsryweddol. Oherwydd y bylchau data hyn, mae’n anodd dweud pa un ai a yw ein hamcanion o gydraddoldeb a thegwch yn achosi newid ymarferol er gwell i fywydau pobl.
Dywedodd Ann Beynon, Comisiynydd i Gymru:
“Am y tro cyntaf, o ddefnyddio’r adroddiad hwn, gallwn ateb y cwestiwn: ‘Pa mor deg yw Prydain?’ o safbwynt gwir gytbwys yn hytrach na chanolbwyntio ar ddangosyddion unigol fel anghydraddoldeb economaidd.
“Yr her sydd yn ein hwynebu yng Nghymru, ac ar draws Prydain, yw’r diffyg cyfleoedd sy gan gynifer o bobl o hyd i fedru cyflawni’u potensial a chyfrannu’n llawn yn y gymdeithas. Mae gan newid demograffig, tueddiadau cymdeithasol a thechnoleg y potensial i wneud pethau’n well neu’n waeth yn dibynnu ar ein gallu i’w rheoli’n iawn.
“Ar adeg pan fo’r wlad yn archwilio sut mae’n gwario’i hadnoddau, mae’r Adolygiad hwn yn darparu tystiolaeth annibynnol ar gyfer y sawl sy’n gwneud penderfyniadau i dargedu gweithredu ar y cyd yn y meysydd sy’n cyfrif, yn hytrach na’r rheini sydd â’r cefnogwyr mwyaf uchel eu cloch. Gobeithio, bydd ein hadroddiad yn sicrhau bod pawb yn gwybod yn eglur sut i wneud Cymru’n decach i bawb. Bydd yn gymorth i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar wariant cyhoeddus a’r rheini sy’n cynllunio gwasanaethau hanfodol fel iechyd a gofal cymdeithasol.”
Mae’r Adolygiad yn nodi pum maes hanfodol o fywyd sydd angen gweithredu arnynt i gau’r bylchau niweidiol. Y rhain – ynghyd â data eglurhaol yw:
Nod: i ddileu effaith cefndir cymdeithasol, hil a daearyddiaeth ar iechyd a disgwyliad oes
Nod: i sicrhau bod gan bob unigolyn y cyfle i ddysgu a chyflawni i’w lawn botensial
Nod: i roi cyfle i bob person gymryd rhan wrth gryfhau’r economi
Nod: i gael gwared ag aflonyddu a thrais ar sail hunaniaeth
Nod: i roi fwy o ymreolaeth bersonol a phŵer sifil i bobl
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd yn ôl y Ddeddf Gydraddoldeb 2006, a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb ar oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog cydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Rhydd hefyd gyngor a chyfarwyddyd i fusnesau, y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, ac i unigolion.