Sefydliadau gogledd Cymru’n uno i fynd i’r afael â cham-drin domestig

Dydd Iau 29 Medi, bydd mwy na 30 o sefydliadau ar draws gogledd Cymru’n dod ynghyd mewn digwyddiad i annog gweithredu ar fynd i’r afael â cham-drin domestig.

Mae’r gynhadledd ‘Eich busnes chi yw cam-drin domestig’, a drefnwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru, yn annog sefydliadau i ddeall effaith cam-drin domestig yn y gweithle ac i roi polisïau cam-drin domestig, effeithiol ar waith.

Nid yw cam-drin domestig yn gyfyngedig i’r cartref  gan aflonyddir 75% o fenywod sy’n dioddef cam-drin domestig, yn y gweithle. Mae cam-drin domestig yn achosi colled o £2.7 biliwn i fusnesau’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn mewn allgynnyrch economaidd a gollwyd. Mae un o bob pedair menyw yn dioddef gan gam-drin domestig ar ryw adeg yn ei bywyd.

Dydd Iau, bydd cynadleddwyr rhai o gyflogwyr sector preifat a chyhoeddus mwyaf Cymru, arbenigwyr Adnoddau Dynol, sefydliadau’r trydydd sector ac undebau llafur yn clywed sut, o gymryd nifer o gamau ymarferol bychain ar ran cam-drin domestig, y gallan nhw leihau salwch ac absenoldeb ac arbed arian a bywydau. Cynhelir y digwyddiad ym Mhlas Pentwyn,  Canolfan Menter a Dysgu Gydol Oes Coedpoeth, a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ymysg y siaradwyr mae Stuart McKenna o’r Co-operative Group – un o’r sefydliadau sector preifat sy’n arwain y ffordd drwy weithredu polisi cam-drin domestig, effeithiol yn y gweithle.

Meddai Ann Beynon, Comisiynydd Cymru, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, un arall o’r siaradwyr yn y gynhadledd:

“Mae cam-drin domestig yn effeithio ar gynhyrchiant a pherfformiad ac felly, mae rhoi cefnogaeth i staff yn rhwym o fod yn synnwyr busnes da.

“Rydym yn darparu amrywiaeth o becynnau cymorth, cyfarwyddyd ac awgrymiadau i helpu cyflogwyr i weithredu ar gam-drin domestig.

“Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd o ofal,  waeth beth fo maint y gweithlu. Mae gweithredu a rhoi nifer o gamau bychain ar waith yn fuddsoddiad da i gadw staff profiadol a medrus, gan y byddan nhw o’r herwydd yn teimlo’n ddiogel a bod cymorth iddyn nhw yn y gweithle. O ganlyniad, bydd eu hymrwymiad i’r cyflogwr yn fwy.”

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau;

"Mae cam-drin domestig yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig yn aml a gall effeithio ar unrhyw weithle ac ar unrhyw gyflogai, o’r sawl ‘rydych yn ei reoli i’r sawl sy’n eich rheoli chithau.

“Gall ddynion a merched ei ddioddef fel ei gilydd ac ni fydd arwyddion y cam-drin efallai, yn amlwg bob amser. Dyna pam mai’n bwysig y bydd staff ar bob lefel yn gallu darllen yr arwyddion ac yn gwybod yr hyn y dylent ei wneud pan fyddant yn amau fod rhywun yn dioddef camdriniaeth.

"Gall gymorth yn y gweithle wneud byd o wahaniaeth a helpu i feithrin hyder er mwyn symud ymlaen. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ariannu nifer o ganolfannau cymorth ledled Cymru, yn benodol i helpu dioddefwyr  i ymdopi â chanlyniadau camdriniaeth a’u cefnogi wrth iddyn nhw ailadeiladu eu bywydau.

"Yn gynharach yn y mis wnes i lansio ymgyrch ‘Byw Heb Ofn’ Llywodraeth Cymru, y diweddaraf mewn cyfres o weithgareddau o bwys i godi ymwybyddiaeth a herio agweddau tuag at gam-drin domestig yng Nghymru.

"Gobeithio, bydd y gynhadledd yn helpu i estyn y neges nad yw cam-drin domestig yn dderbyniol. Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o weithio gyda phob cyflogwr i ddarparu help a chymorth i alluogi’u holl staff i fyw heb ofn."

Cynghorir unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig i ffonio Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Cymru, ar 0808 80 10 800 am gyngor cyfrinachol 24 awr y dydd sy’n rhad ac am ddim.

Nodiadau i olygyddion:

Yn ogystal â rôl Comisiynydd Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae Ann Beynon ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr BT Cymru a hi yw ei gynrychiolydd datblygu a strategol i Gymru. Mae ei chefndir gyrfa yn cynnwys nifer o uwch rolau Datblygu Busnes ac mae hi ar hyn o bryd yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru i Fusnes yn y gymuned. Gwobrwyid Ann ag OBE yn 2008 ac roedd yn Llysgennad Tywysog Cymru yn y Gymuned i Gymru o 2005-2006.

back to top