Uwchgynhadledd Hawliau Dynol Gyntaf Erioed yng Nghymru

11/03/2008

Y Gwir a’r Gau a Gweddnewid Gwasanaethau Cyhoeddus

Heddiw bydd dros 150 o bobl yn mynychu Uwchgynhadledd Hawliau Dynol arloesol yng Nghymru i drafod yr heriau allweddol wrth roi lle canolog i hawliau dynol yng ngwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.  Bydd yr Uwchgynhadledd yn canolbwyntio ar newid gwasanaethau rheng flaen er mwyn eu seilio ar egwyddorion hawliau dynol fel urddas, parch, cydraddoldeb a thegwch.  Bydd gweddnewid gwasanaethau fel hyn yn sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion gwirioneddol unigolion yn well.

Bydd arbenigwyr hawliau dynol o bob cwr o Brydain yn arwain y drafodaeth a bydd unigolion o Gymru sydd â hanesion grymus i’w hadrodd am eu profiad o agweddau anoddaf y materion hynod ddadleuol hyn yn ymuno â nhw.  Maent yn cynnwys Rheolwr Carchar, Teithiwr Sipsi ifanc, a dyn y gwrthodwyd swydd iddo oherwydd ei fod yn hoyw.
Cynhelir yr Uwchgynhadledd wrth i ni ddathlu 10 mlynedd ers pasio’r Ddeddf Hawliau Dynol a 60 mlynedd ers cyhoeddi Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig.

Ond er i hawliau dynol fod yn rhan o gyfraith Prydain ers bron i ddegawd, dangosodd arolwg barn Gfk NOP bod y term “hawliau dynol” yn ennyn ymateb cymysg gan y cyhoedd ym Mhrydain.

  • Nid yw 40% wedi clywed yr ymadrodd ‘hawliau dynol’ neu nid ydynt yn gallu enwi unrhyw hawliau a ddiogelir
  • Ond mae 47% o blaid deddfau ‘hawliau dynol’ ym Mhrydain
  • Mae 56% yn credu bod “pobl yn siarad am eu hawliau dynol pan fyddant yn ceisio cael rhywbeth nad oes ganddyn nhw hawl iddo”.
  • Mae 68% yn credu bod y llywodraeth “yn poeni fwy am hawliau dynol grwpiau lleiafrifol na hawliau’r bobl gyffredin”.
  • Mae 81% yn credu “bod yna broblemau yn ymwneud â hawliau dynol ym Mhrydain”.
  • Dim ond 23% sy’n credu bod y “cyfryngau’n adrodd ar straeon hawliau dynol yn deg”.

Bydd Neil Wooding, Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn dweud wrth yr Uwchgynhadledd bod y Comisiwn am gynnal ymchwiliad annibynnol i hawliau dynol ym Mhrydain.  Bydd yr ymchwiliad yn ystyried a yw’r Ddeddf Hawliau Dynol yn sicrhau manteision gwirioneddol yn y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Neil Wooding, Comisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Nid oes neb wedi bod yn eiriolwr grymus o blaid y Ddeddf Hawliau Dynol ers iddi ddod i rym.  Does dim syndod bod gormod o bobl bellach yn ei hystyried fel siarter i droseddwyr ac eraill sy’n ceisio camddefnyddio’r system.
Mae gan y Comisiwn swyddogaeth bwysig o ran gwahaniaethu rhwng y gwir a’r gau a mynd ati i gynnal asesiad llawn, agored ac, yn bwysicaf oll, annibynnol o hawliau dynol ym Mhrydain.

Ond nid gweithredu fel eiriolwr yn unig wnawn ni, gan herio’r farn nad yw hawliau dynol o fudd i amrywiaeth eang o bobl.  Byddwn hefyd yn gyfaill beirniadol ac yn datgelu unrhyw rwystrau sydd – mewn gwirionedd – yn golygu nad oes amrywiaeth mor eang o bobl ag a ddylai yn elwa ar hawliau dynol, er enghraifft y bobl hynny sydd mewn cartrefi gofal preifat.

Ymholiadau’r cyfryngau i Sue Dye ar 029 2044 7778 neu 0781 668 1175.

Nodiadau i olygyddion:

  1. Cynhelir yr Uwchgynhadledd Hawliau Dynol ddydd Mawrth 11 Mawrth 2008 yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd rhwng 10.00am a 3.00pm.  Caiff ei noddi ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Sefydliad Hawliau Dynol Prydain.
  2. Mae’r siaradwyr yn cynnwys:
    Sarah Cooke, Aelod y DU o Asiantaeth Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd
    Dr Neil Wooding, Cyfarwyddydd Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru a Chomisiynydd Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
    Yr Athro Phillip Fennell, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd
    Katie Ghose, Cyfarwyddydd Sefydliad Hawliau Dynol Prydain
    Frances Butler, Ymgynghorydd Arbenigol i’r Cydbwyllgor Seneddol ar Hawliau Dynol
  3. Mae astudiaethau achos hawliau dynol unigol o Gymru ar gael i’w cyfweld.
  4. Am wybodaeth bellach am Ymchwiliad Hawliau Dynol y Comisiwn ewch i:

http://www.equalityhumanrights.com/en/changeanddevelopments/humanrightsinquiry/Pages/HumanrightsInquiry.aspx

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a ysgwyddodd gyfrifoldebau'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl, a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsrywiol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.

back to top