Creu Prydain Decach
Dydd Mawrth 29 Mawrth, derbyniodd y Cynulliad y dyletswyddau penodol newydd i Gymru yn unfrydol. Daw'r rhain i rym ar Ebrill 6. Cynlluniwyd y dyletswyddau penodol i helpu cyrff cyhoeddus i roi'r ddyletswydd gyffredinol Prydain eang ar waith yn effeithiol. Daw'r ddyletswydd gyffredinol newydd i rym ar Ebrill 5 ac mae'n gofyn i gyrff cyhoeddus rhoi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, symud cyfle cyfartal ymlaen a meithrin perthynas dda rhwng pobl.
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Rydym yn croesawu'n gynnes y newyddion bod y dyletswyddau cydraddoldeb newydd grymus hyn wedi derbyn sêl bendith y Cynulliad. Byddan nhw'n helpu awdurdodau cyhoeddus i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau mwyaf yng Nghymru.
"Bydd y dyletswyddau hyn yn cynorthwyo awdurdodau cyhoeddus i ganolbwyntio'u hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf. Bydd hyn yn eu helpu i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sydd yn ateb anghenion pawb. Byddan nhw'n gymorth i wneud Cymru'n le tecach.
"Bydd y dyletswyddau hyn yn gymwys yng Nghymru'n unig. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru'n paratoi canllaw eglur i sicrhau bod unigolion yn gwybod am eu hawliau a sefydliadau'n gwybod am eu cyfrifoldebau o dan y dyletswyddau newydd."
Mae'r Comisiwn yn croesawu bod y dyletswyddau yn:
Gallwch fwrw golwg ar y dyletswyddau newydd ar wefan y Cynulliad, o dan eitemau busnes 8 a 9 dydd Mawrth 29.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os am wybodaeth bellach, cysylltwch ni os gwelwch yn dda.
Un o rannau canolog Deddf Cydraddoldeb 2010 oedd cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb newydd Prydain eang y Sector Cyhoeddus.
Bydd y Ddyletswydd Cydraddoldeb newydd yn disodli’r dyletswyddau cyfredol ar hil, cydraddoldeb rhywedd ac anabledd, a fydd hefyd yn cwmpasu oed, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, beichiogrwydd a mamolaeth, ac ailbennu rhywedd.
Mae’r Comisiwn wedi datblygu canllaw ar y dyletswyddau penodol i Gymru a disgwylir y bydd y rhain ar gael ym mis Mai.
Mae 8 set o ganllaw ar y ddyletswydd cydraddoldeb yng Nghymru, yn cwmpasu: