Yr hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda’r Ymchwiliad Ffurfiol i Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru.

Mae’r Comisiwn yn ymgymryd ag ymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd ac i’r graddau mae awdurdodau cyhoeddus yn llwyddo i fynd i’r afael ag ef ar hyn o bryd.

Rydym yn archwilio sut mae pobl anabl, eu teulu, ffrindiau a gofalwyr sy wedi dioddef aflonyddu, yn derbyn cymorth, neu beidio, gan awdurdodau cyhoeddus.

Mae wedi bod yn amser prysur iawn yng Nghymru a bu rhaid ymestyn y cyfnod o gasglu tystiolaeth oherwydd y nifer mawr o bobl a oedd eisiau cymryd rhan a dweud wrthym am eu profiadau. Daeth yr amser terfyn am roi tystiolaeth i ben ar 17 Medi, 2010.

Casglom dystiolaeth i’r ymchwiliad mewn nifer o ffyrdd. Cynhaliom gyfweliadau, yn ogystal â thrafodaethau bord gron yn gynnar ym mis Medi yng Nghaerdydd a Wrecsam. Yn ein trafodaethau, canolbwyntiom ar:

  • profiadau pobl anabl
  • arfer effeithiol wrth atal a dileu aflonyddu ar sail anabledd
  • mynd i’r afael ag achosion aflonyddu ar sail anabledd gan gynnwys rhagfarn ac agweddau negyddol
  • sut i alluogi pobl anabl i riportio am aflonyddu ar sail anabledd yn effeithiol

Yn ystod yr hydref byddwn yn cynnal grwpiau ffocws yn ogystal â sesiynau panel gwrando. Bydd y rhain ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus/darparwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â chwmnïau trafnidiaeth. Eu diben yw rhannu gwybodaeth am yr hyn maen nhw’n ei wneud i ateb eu rhwymedigaethau o dan y Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd: deddfwriaeth Hawliau Dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Hefyd, cynhaliodd y Comisiwn ddiwrnod arbennig yn yr Eisteddfod i rannu gwybodaeth am yr ymchwiliad ffurfiol ac i annog pobl anabl i gymryd rhan a rhoi tystiolaeth.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr Ymchwiliad Ffurfiol i Aflonyddu ar sail Anabledd neu i ddarllen yr adroddiadau atodol,  ar wefan y Comisiwn yn www.equalityhumanrights.com/disabilityharassmentfi

back to top