Anrhegion

Er y rhaniad tecach o gyfoeth ac argaeledd gwasanaethau cymdeithasol, mae gwerthoedd moesol heddiw’n peryglu’n fwyfwy nag erioed, hawl pobl i fyw’n heddychlon heb iddynt gael eu haflonyddu, ac mae angen deddfwriaeth i’w diogelu. Mae ‘na rhai sydd o’r farn ein bod wedi mynd yn rhy bell pan fyddwn yn siarad am ddiogelu pobl dew rhag jôcs ‘fatty’, ond pwy a ddywedai ein bod yn mynd yn rhy bell wrth ddiogelu’r anabl?

Huw Lawrence

Pan ddechreuodd y bloeddio brysiodd Capten Evan Pugh-Jones i fyny i’r llofft.

A hithau ar ei phen ei hun, sylwodd yr asiant tai fod y dillad oedd ar wasgar ymhlith y teganau yn perthyn i oedolyn. Yna daliwyd ei sylw hi gan lun, blwch post coch cegagored yn disgwyl llythyr glas oedd yn nofio yn yr awyr o dan goeden ac arni ddail igam-ogam melyn - coeden laburnum. Roedd hi'n nabod y lle.

Cymerodd hi dâp mesur o'i chwdyn.

“’Na chi, cariwch chi ymlaen,” daeth llais y Capten o'r grisiau, ac yna fe ddiflannodd unwaith eto. 

Ar bob silff ac arwyneb gwastad yn y tÅ· roedd addurniadau egsotig. Lan llofft syllodd y ferch wrth weld blychau yn gorlifo â gemwaith a thlysau. Clywodd chwerthiniad bach y tu ôl iddi.

“Chi'n edrych fel ’se chi o dan swyn. Dyw Melville byth yn rhoi dim heibio ar ei ôl.”

Agorodd y Capten gwpwrdd dillad a’i galw draw i weld. Yr oedd yn llawn o ffrogiau a phob math o wisgoedd hyfryd. O silff uwchlaw cymerodd y Capten sgarff sidan â phatrymau Tsieineaidd, dawnswyr tywyll ar gefndir gwyrdd golau, a’i rhoi iddi.

“Oe’n i ar y môr,” eglurodd.

“Roe’n i’n dyfalu,” atebodd hi.

Wrth iddi ei thaflu dros ei hysgwyddau agorodd y sgarff fel aderyn gosgeiddig yn codi ar ei adain. 

“Cadwch hi.”

“Gallen i byth.”

“Plîs.”

“Na, dim o gwbl.” Yr oedd hi'n bendant.

“O leiaf gwisgwch hi i fi gael gweld, tra bo chi yma.”

“Ydych chi'n gorfod ymdopi heb help?” gofynnodd hi.

“Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol o ryw gymorth, a bydd cnither i'r wraig yn galw bob dydd Sul.”

Gorffennodd yr asiant mewn gardd wyllt gan nodi ‘coed ffrwythlon ac aeddfed’.

Wrth fynd nôl i mewn i'r tÅ· daeth hi wyneb yn wyneb â dyn tua hanner cant oed, mor debyg i'r gŵr arall wrth ei ymyl fel y syllodd yr asiant â rhywbeth yn agos at fraw.

“Melville, fy mab,” cyflwynodd y Capten.

“Julie ydw i.”

Cydiodd Melville yn y  llaw a estynnodd Julie gyda phwrpas penderfynol.

Gofynnodd hi pwy oedd wedi gwneud y llun yn yr ystafell arall.

“Fi,” atebodd Melville.

“Ai'r blwch post wrth gât y fynwent yw e?”

“Ie,” meddai Melville, â’i wedd yn llawenhau.

“Oe'n i'n byw gyferbyn â fanna fel merch fach.”

 gwên lydan cydiodd Melville yn ei llaw a'i hysgwyd eto.

"Ai chi oedd wir yn gwneud y sŵn yna gynnau?" gofynnodd Julie’n chwilfrydig.

Gostyngodd Melville ei ben.

“Mae Melville yn gwneud hwnna'n rhy aml,” meddai'r Capten, “a rhaid iddo fe beidio.”

Yr oedd pryder enbydus y tu ôl i'r geiriau.

Cafodd Melville wên fach gan Julie, a rhedodd gefn ei law yn erbyn y foch yr oedd newydd ei heillio gydag edrychiad meddylgar a slei. 

Wrth edrych ar yr amser dywedodd Julie â thristwch fod ganddi apwyntiad arall.

Wrth i'r Capten ei thywys at y drws daeth Melville ati a chynnig y llun iddi.

“O, na, yn wir.”

“Na, rhaid i chi dderbyn,” meddai'r Capten, “neu frifo ei deimladau.”

Felly fe gymerodd hi'r llun a rhoi cusan i Melville.

“Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser i gwrdd â chi'ch dau.” 

“O, cerwch o ’ma,” meddai'r Capten. “Ond a wnewch chi addo galw eto?”

Atebodd y gwnâi hi.

“Ond rhaid ichi addo,” mynnodd y Capten.

Felly fe roddodd hi ei haddewid.

Gadawodd hi heb sylwi ei bod hi’n dal i wisgo’r sgarff.

Trodd wyneb y Capten i fod yn wyneb dyn gwahanol. Gan ddweud wrth Melville glirio'r teganau fe ddringodd y grisiau unwaith eto a’i draed yn drwm. Yr oedd rhestr o bethau i'w gwneud. Yr oedd fel petai mai rhywun arall fu’n siarad mor ysgafn gyda Julie.
 
******

Yr oedd rhai a fu unwaith o dan ofal y wladwriaeth nawr yn ddigartref.  Gwyddai’r Capten hyn oherwydd bod gan Melville yr arferiad annifyr o wneud ffrindiau â nhw – a hwythau’n dystiolaeth fyw o adroddiadau yn y wasg am fethiannau'r system newydd o gynnig ‘Gofal yn y Gymuned’. Yr oedd yr wybodaeth boenus hon wedi gyrru'r Capten i wneud penderfyniad uchelgeisiol. Yr oedd ganddo gynllun i brynu tÅ· llai o faint, buddsoddi'r arian fyddai dros ben, a byw wedyn yn eu preswylfa newydd heb gysylltiad pellach â'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Byddai’n creu ymddiriedolaeth i reoli etifeddiaeth Melville, a nawr yr oedd y Capten yn chwilio am ffrindiau i alw heibio i roi cymorth a gofal pan fyddai ef yn ei fedd. 

Y broblem oedd hyfforddi Melville i edrych ar ei ôl ei hun. Yr oeddynt wedi cael sawl llwyddiant ac yr oedd siopwyr ac eraill yn canmol datblygiad Melville. Erbyn hyn yr oedd hyd yn oed yn gallu gweithredu cyllideb wythnosol, gan gyfri arian i mewn ac allan o gwpanau o wahanol liw. Ond doedd Melville ddim yn gallu dioddef gorfod gwneud pethau, a pho fwyaf y byddai'r Capten yn pwyso arno, mwyaf y byddai Melville yn bloeddio. Erbyn hyn yr oedd yn bloeddio hyd yn oed wrth orfod codi yn y bore. Yr oedd y bloeddio’n cynhyrfu'r Capten yn fwy na dim, oherwydd yr oedd yn denu sylw ac felly’n peryglu’r cynllun.

Yr oedd y cynllun wedi’i drefnu gan ddefnyddio cardiau a ffeiliau. Roedd ffeil o'r enw ‘Rhoddion’, gyda chategori o'r enw ‘Dillad’, yn cynnwys rhestr â ‘Sgarffiau’ arni, lle roedd un eitem yn cyfeirio nôl at garden â’r pennawd ‘Julie’ a’r geiriau ‘Cyfaill yn Ymweld’. Os byddai hi'n chwarae ei rhan byddai rhagor o anrhegion yn cael eu nodi ger enw Julie, gan gynnwys rhai a fyddai’n rhan o'r ewyllys yr oedd y Capten yn gweithio arni ac yn ei newid yn ddi-ben-draw. 

Fel y digwyddodd hi, doedd hyn ddim i fod, oherwydd alwodd Julie ddim eto.
 
******

Yn y fynwent byddai'r Capten yn dweud: “Pan farwaf, byddaf yn gorwedd fan hyn ger dy fam. Bydd yn rhaid i ti ddod ar dy ben dy hun wedyn, bob wythnos.”

Byddai Megan, cnither ei wraig, yn cau ei gwefusau’n dynn ac ysgwyd ei phen. Byddai'r Capten yn egluro eto iddi am y canfed gwaith sut y byddai'r fath ymddygiad yn rhoi hygrededd i Melville fel oedolyn cyflawn, ac yn holi ei hun ai Megan oedd y person cywir i reoli'r ymddiriedolaeth ac etifeddiaeth Melville mewn gwirionedd.

Ond, yn syml, doedd yna neb arall.

Byddai Megan yn cyrraedd tua deg bob bore dydd Sul ac yn helpu Melville i baratoi'r llysiau erbyn cinio tra byddai'r Capten yn cael rhywfaint o amser iddo ef ei hun yn ei ystafell i weithio ar ei gynllun. Ar ôl cinio byddai hi'n gorffwys gyda phaned o dan ddyn euraidd oedd yn hedfan ar gefn beic ag adenydd, llun a gymerodd le’r un a roddwyd i Julie. A hithau’n ddynes dawel o berfedd y wlad, un nad oedd wedi cael dim mwy nag yr oedd hi’n ei ddisgwyl, doedd Megan ddim yn siŵr erbyn hyn am ba hyd y byddai’n gallu dal ati i ddod, a’i gwynegon mor wael.

Un diwrnod oer iawn, a’r Capten yn dost yn ei wely, gwariodd Melville a Megan lai na munud wrth y bedd, â’u hanadl yn codi fel ysbrydion. Ond ni fyddai Megan yn cyrraedd nôl i'r tÅ· cynnes mor gyflym ag yr oedd hi'n ei ddisgwyl. Wrth gyrraedd yr orsaf fysiau fe dynnodd Melville hi tuag at fwâu pont y rheilffordd.

Yr oedd pump ohonynt o gwmpas tân. Heb unrhyw seremoni rhoddodd Melville ei arian i gyd ym meddiant dyn â gwallt golau mewn cot fawr â golwg pydru arni. Cafodd Megan edrychiad diolchgar gan ddyn tenau, ei wyneb fel adfeilion hen abaty, digon i ddangos yr hyn yr oedd geiriau’n annigonol i’w ddweud. Dywedodd un mewn capan fel dom: “Bendith Duw arno.” Dywedodd un arall: “Ac arno ni i gyd,” a rhoddodd hwn gerflun o iâr fach yr haf i Melville.

Gan grynu ag oerfel dywedodd Megan: “Rhaid i ni fynd.”

“Der, der i roi'r iâr fach yr haf yn fy mocs trysor,” mynnodd Melville, ac yna ei thynnu tua’i ’stafell. Agorodd flwch gwnïo Fictorianaidd oedd yn llawn o wahanol chwibanoglau, cyllyll poced, darnau o hen arian, coes cwningen, siswrn bach oedd yn plygu a chau, Testament Newydd maint poced . . . Cododd Megan hen lun o deulu ifanc. “Fanna,” meddai Melville, gan roi ei fys ar ddyn dymunol ei wedd a phlentyn ar ei ddwy fraich, yn sefyll ger merch ddeniadol oedd yn magu babi. “Ond doedd e ddim yn edrych yn debyg iawn i hwnna. Ar ôl iddo fe roi’r llun i fi welais i ddim ohono fe eto.” Edrychodd ar Megan. “Wedodd y lleill wrtho i ei fod e wedi marw. Felly allen i ddim ei weld e.”

“Dyna fel y mae hi gyda marwolaeth,” meddai Megan. “Ie, dyna hyd a lled y peth, Mel.”

A rhoddodd hi gwtsh iddo. Doedd hi ddim yn nabod neb arall oedd yn cael anrhegion oddi wrth gardotwyr.
 
****** 

Yn ôl yn ei bwthyn roedd poen ei gwynegon mor wael fel ei bod hi’n gwichian wrth blygu i roi matsien i'r tân.

“Mi a’ i unwaith eto,” llefarodd, er mwyn clywed ei llais ei hun.

“A dyna’r tro olaf tan yr haf.”

Y Sul wedyn rhoddodd y tywydd nerth i’w hewyllys. Gan wthio ei ffordd yn erbyn glaw a gwynt mawr fe gyrhaeddodd hi’r caffi yn yr orsaf fysiau, lle roedd y perchennog yn ddigon caredig i alw tacsi iddi.

Wrth gyrraedd yn oer ac yn wlyb edrychodd am ei phwrs.

“Modryb Melville y’ chi, yfe?” gofynnodd y gyrrwr ifanc.

“Ie,” atebodd. "Rwy wedi bod yn galw bob dydd Sul.”

“Rwy’n gwbod,” meddai, gan fynd allan o’r car ac agor ei drws iddi hi. “Dywedwch wrth Melville ichi gael tro am ddim gyda Dennis.”

Eisteddodd Megan â chwpan o siocled poeth mewn ystafell â gwres canolog lle lleddid y tawelwch brawychus gan dri chloc o wahanol wledydd, a dyn aur mewn awyr las yn beicio drostynt. Yr oedd y Capten a Melville yn syllu arni hi mewn arswyd. Yr oedd hi wedi newydd ddweud na fedrai hi alw yn gyson mwyach tan yr haf. 

Yn diwedd gofynnodd y Capten, gan atal: “Fyddech chi ddim yn fodlon ystyried dod i fan hyn a byw gyda ni, Megan, fyddech chi? Gallech chi gael sawl stafell. Mae’r lle’n llawer rhy fawr i ni.”

Atebodd Megan ddim.

Edrychodd y Capten a Melville ar ei gilydd mewn gobaith.

“Dyw’r hen fwthyn llaith’na ddim yn lle addas iti bellach, Megan. Der fan hyn lle mae’n gynnes a helpu i edrych ar ein hôl ni.”

“Ac fe edrychwn ni ar dy ôl di,” atododd Melville.

Doedd hi ddim fel petai Megan erioed wedi meddwl am y fath drefniant. Gallai hi fod wedi cyrraedd y pwynt yma ar unrhyw adeg o’i dewis. Ond doedd hi ddim yn siŵr y gallai fyw o dan yr un to â Chapten Evan Pugh-Jones.

“Does yr un ohonon ni fel roedden ni cynt,” meddai'r Capten, fel petasai’n darllen ei meddwl hi.

“Ond am Melville,” cywirodd Megan. 

Byddai’n rhaid i o leiaf un o'r clociau yna gael mynd. Roedd eisiau rhoi trefn ar y lle i gyd.

“Dyle ti ddim trial newid e, Evan,” cymhennodd, gan ysgwyd ei phen. “Ma Melville yn anrheg i ti. Rwy’n cadw ’mlaen i weud wrtho ti ond dwyt ti jest ddim yn sylweddoli.”

“Bydde ti'n ddylanwad da, Megan,” meddai'r Capten, yn gyfrwys.

Ysgydwodd hi ei phen eto. “Dwi ddim yn gwbod,” meddai.

“Tria hi am fis.”

“Neu caiff y tÅ· ’ma ei werthu,” meddai Melville yn druenus.

“Ie, beth am y cynllun mawr, Evan?”

“Wna i newid e.”

“Galli di ddim mynd â Melville bant o'r tÅ· yma.”

Cafwyd saib hir. Yn y diwedd atebodd y Capten: “Os ddei di i fyw ’ma, wnewn ni aros.” Teimlodd ollyngdod sydyn wrth ddweud hyn, ac yna fe gyfaddefodd: “Baich oddi arna i.”

Chafodd Megan ddim trafferth yn dychmygu sut y byddai pethau. Byddai ef yn gwario mwy o amser yn ei ystafell gyda rhyw gynllun arall, rhyw bwrpas newydd, a'i ewyllys uffernol. Dyna’r lle gorau iddo fe, ei ystafell. Doedd hi ei hun ddim eisiau dim mwy nag osgoi y gwaethaf a gwneud y gorau o bethau. Yr oedd bywyd yn ddigon caled heb greu pwrpasau. Doedd rheini ddim ond yn eich rhwystro rhag mwynhau’r hyn y dylech chi deimlo’n ddiolchgar amdano. Fel cael Melville o gwmpas. Os byw ac iach gallai hi a Melville roi cychwyn ar yr ardd gyda'r gwanwyn. 

Rhoddodd Melville chwerthiniad bach llawn disgwyliad.

Ond ddywedodd Megan ddim o hyd.

“Plîs dywedwch ie,” meddai Melville yn sydyn. “Plîs, Megan, plîs.”

Ac o dan wedd falch beiciwr yr awyr las, fe wnaeth hi. 

 

Cliciwch yma am wybodaeth bellach am yr awduron. 
 

back to top