Creu Prydain Decach
Awdur ‘In and Out of the Goldfish Bowl’, ‘Fresh Apples’ a ‘Dial M for Merthyr’ yw Rachel Trezise. Mae hi wedi ennill Gwobr yr ‘Orange Futures’ a Gwobr Dylan Thomas. Caiff ei nofel newydd , ‘Sixteen Shades of Crazy’, ei chyhoeddi gan Harper Collins yn gynnar yn 2010.
Darllenwch Y Lesbiad Gwrywaidd
Mae Catrin Dafydd yn awdur ar ei liwt ei hunan. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Pili Pala, rhestr hir llyfr y flwyddyn a cyhoeddodd ei nofel Saesneg gyntaf, Random Deaths and Custard, yn 2007 sydd bellach wedi ei henwebu ar gyfer gwobr 'Books to talk about 2009' led-led Prydain. Mae hi bellach yn sgriptio i Pobol y Cwm.
Astudiodd John ysgrifennu creadigol yng Nghaer. Roedd ei gasgliad o storïon byrion - ‘Welsh Boys Too’, a gyhoeddwyd gan Parthian yn 2000 - yn enillydd ‘Honour Book’ yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall Cymdeithas Lyfrgell America 2002. Rhoddwyd ‘Fishboys of Vernazza’a gyhoeddwyd gan Parthian yn 2003, ar restr fer Llyfr Cymreig y Flwyddyn. Cyhoeddodd ‘Gay Men’s Press’ ei nofel gyntaf, ‘With Angels and Furies’, yn 2005. Cyhoeddwyd ei ail nofel, ‘Crawling Through Thorns’ gan Parthian yn Hydref 2008.
Mae wedi gweithio yn y byd addysg ac ym myd iechyd cyhoeddus yn hwy na deg ar hugain o flynyddoedd ac mae’n byw gyda’i gymar sifil mewn ffermdy 300 oed ym Mynyddoedd Rhinog yng Ngogledd Cymru.
Darllenwch Ffrog Briodas Medi
Mae Eifion Jenkins yn ysgrifennwr ar ei liwt ei hun a newyddiadurwr yn byw yng Ngorllewin Cymru.
Eleni cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ‘If You Fall I Will Catch You’, gwaith dyfodolaidd o gwmpas sylweddol. Mae gwaith arall sydd wedi’i gyhoeddi a’i berfformio yn cynnwys drama llwyfan, ‘Nightshift Blues’, storïau byrion a barddoniaeth. Yn ogystal â sgetshis ar gyfer sioeau teledu, darlledwyd drama o’i eiddo hefyd, ‘Real Sisters Don’t Eat Meat’, a stori fer ‘The Death of Brian’, ar Radio BBC. Ef hefyd yw awdur a golygydd ‘Through the Decades’, hanes cymdeithasol o Dde Cymru yn yr 20fed ganrif. Mae’n briod ac mae ganddo dau o blant, un yn saith a’r llall yn naw.
Darllenwch Byth yn Ddiwrnod Da i Farw
Cefais fy ngeni ym Merthyr Tydfil 1986, ac es i i ysgol Eilradd ac Uwchradd Cyfarthfa, lle gyflawnais i’r gamp lenyddol a rhodd y balchder fwyaf i mi cyn belled - ennill Eisteddfod yr ysgol am fy ngherdd : “Down in the Valleys”.
Es i Brifysgol Abertawe i astudio llenyddiaeth Saesneg 2005-2008. Dw i wedi graddio ers hynny ac wedi fy nerbyn ar gynllun meistr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe. Mae fy ngwaith wedi’i gyhoeddi yn ‘Bullet-proof Comics’, a ‘The Swansea Life’.
Ganwyd Nia Williams yng Nghaerdydd ym 1961 i aelwyd Gymraeg ei hiaith. Ar ôl mynychu Ysgol Gyfun Rhydfelen astudiodd Hanes ym Mhrifysgol Caerwysg ac Astudiaethau Ewropeaidd ym Mhrifysgol Reading. Bu’n gweithio ym myd newyddiaduriaeth brint a darlledu a’r byd cyhoeddi, cyn dychwelyd i’w phrif ddiddordebau o ffuglen a cherddoriaeth. Cyhoeddwyd dwy nofel Nia ‘The Pier Glass’ (2001) a ‘Persons Living or Dead’ (2005) gan Honno, a chyhoeddwyd ei storïau byrion mewn nifer o ddetholiadau a’u darlledu ar BBC Radio 4 a Radio Cymru. Mae hi’n awr yn byw yn Rhydychen gyda’i chymar Tony Evans, ac mae’n gweithio fel ysgrifen wraig a chyfeilydd piano ac athrawes.
Ro’n i bob amser wedi meddwl bod hawliau dynol mewn gwirionedd yn ymwneud â phobl arall mewn gwledydd arall rhywsut ychydig yn haniaethol ond ar ôl darllen Datganiad Cyffredinol Hawliau Dynol, a ysgrifennwyd yn gyntaf ym 1948, sylweddolais i ei fod i gyd yn ymwneud â’n bywydau ni yn awr, ac am deuluoedd, pobl a sut yr ydym ni’n byw gyda’n gilydd mewn cymdeithas.
Darllenwch Roedden Ni’n Ennill
Ganwyd Huw Lawrence yn Llanelli yn y dyddiau pan siaradwyd Cymraeg yn eang yn y dref. Fe’i hyfforddwyd fel athro yn Abertawe a barhaodd ei addysg ym mhrifysgol Manceinion a Cornell. Symudodd o’i swydd ddysgu ym Manceinion i amrywiaeth o swyddi fel labrwr yn ardal Ffestiniog, lle fu ei blant yn derbyn eu haddysg gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Canodd yng nghôr Brythoniaid lle'r oedd ei wraig, Libby yn bianydd. Mae ei storïau wedi ennill gwobrwyon yng nghystadleuthau ‘Bridgeport’, ‘Cinnemon Press’ a chystadleuaeth Rhys Davies, a mewn ychwanegiad, mae e wedi cael ei gyhoeddiadau mewn amryw o gylchgronau. Mae ganddo nifer o storïau i ddod a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Alcemi.