Creu Prydain Decach
Os gwnewch chi byth gyfarfod â chi’ch hun, bydd pethau drwg yn digwydd.
Dyna beth oedd Mam yn ei ddweud. Mae Betty’n cofio cerdded drwy'r dref - pan oedd tua phump neu chwech oed – yn dal yn llaw ei mam yng nghanol rhuthr coesau oedolion a bagiau siopa ar ddydd Sadwrn gan ddisgwyl gweld ei hwyneb ei hun yn ymddangos yn y dorf unrhyw funud. Dyma oedd ei hunllef - gweld Betty arall. 'Mae un yn hen ddigon', roedd ei mam yn arfer dweud.
Efallai fod y gwres wedi effeithio arni. Dyw hi ddim yn ddiwrnod arbennig o boeth, ond mae Betty bob amser yn adweithio i’r gwres. Bob tro'n chwysu chwartiau erbyn iddi gyrraedd Londis i siopa. Ei phwysau yw'r broblem - mae hi'n gwybod hynny. Mae am wneud rhywbeth am y peth cyn hir. Am fod ei Mam wedi mynd, 'does ganddi ddim esgus. Roedd hi'n arfer dweud wrthi hi ei hun mai un o ddanteithion ei Mam oedd bisgedi siocled. Ond mae hi'n dal i’w prynu, er nad yw'n gallu eu fforddio mewn gwirionedd.
Mae Betty’n cyrraedd y stad ac yn gorfod aros i gael ei gwynt ati. Mae'n gollwng y bag wrth ei thraed ac yn eistedd ar ochr y palmant. Mae can gwag o gwrw’n clecian tu ôl iddi. Mae caniau, bocsys sigaréts, bocsys bwyd a phapur losin wedi tagu’r blodau ers tro. Does ganddi ddim dewis: 'does yna unlle arall i eistedd.
Mae'n mentro taflu cip ar y bloc o fflatiau. Uwchben y fynedfa mae ôl traul y glaw ar y llythrennau BRYNHYFRYD a hanner uchaf y 'B' a'r 'D' ar goll. Yn raddol, mae'n codi ei llygaid i gornel y llawr uchaf. Mae golau'r haul yn adlewyrchu oddi ar y ffenestr a'i dallu. Efallai mai dyna oedd wedi’r cyfan: yr haul yn ei llygaid. Ond gallai dyngu ei bod wedi gweld wyneb. Roedd edrych i fyny ar y fflat wedi bod yn arfer ganddi. Arferai edrych bob tro, wrth aros i'r goleuadau traffig newid - dim ond i wneud yn siŵr bod ei mam yno, wrth y ffenestr lle'r oedd wedi ei gadael.
'Paid â symud' byddai'n arfer dweud wrthi, cyn cloi drws y fflat ar ei hôl. 'Paid â symud i rywle lle na alla i dy weld di'.
Roedd ei Mam wedi llwyddo i ddianc un tro. Dyw Betty ddim yn gwybod sut, ond llwyddodd i gyrraedd y grisiau a mynd i lawr tair rhes o risiau i chwilio am awyr iach. Yn ffodus, roedd y lifft wedi torri unwaith eto a daeth Betty ar draws ei mam ar y grisiau yn syllu'n ddryslyd ar y graffiti llachar ar y wal. Ar ôl hynny, byddai Betty'n clymu ei Mam wrth y gadair gyda belt pan oedd hi'n gadael yr ystafell. Doedd hi ddim yn hoffi gwneud hynny. Ond doedd dim dewis arall.
Beth bynnag, does yna neb i edrych amdano nawr. Mae'n rhaid bod Betty wedi edrych ar y fflat anghywir. Dim ond lol ofergoelus yw’r cyfan. 'Bydd pethau drwg yn digwydd'. Beth mae hynny'n ei olygu? Bryn Hyfryd yn dymchwel? Yn ffrwydro a chwalu dros y stad? Wel, meddai Betty, fyddai hynny ddim yn golled fawr.
Ffrwydrodd y bag siopa wrth ei thraed. Roedd pêl-droed wedi taro’i bag siopa fel bwled, a nawr yn bowndio'n ddiniwed yn erbyn y palmant. Gydag ymdrech, plygodd Betty i godi’r llaeth a’r bisgedi - a oedd yn ysgwyd yn fwy rhydd yn eu paced erbyn hyn. Peth da fod llaeth yn dod mewn potel blastig y dyddiau hyn, meddyliodd.
Dilynwyd y bêl gan floedd o berfeddion y stad. Mae hi'n clywed y gair 'tew' ac yn gwybod ei fod wedi'i anelu ati hi. Mae hi'n rhewi ac yn edrych i lawr. Sŵn rhedeg: rhy ysgafn i berthyn i'r llais. Mae bachgen bach yn plymio am y bêl ac mae'n adnabod ei wallt coch: y bachgen sy'n byw ar y llawr oddi tani.
'Sori' mae'n mwmian, gan afael yn y bêl. Yna, wrth redeg i ffwrdd, mae'n gwaeddi gair anweddus arni dros ei ysgwydd, er mwyn achub ei hun.
Mae curiad calon Betty'n arafu. Maen nhw wedi mynd; does ganddyn nhw ddim diddordeb ynddi hi. Trwy ei hoes, mae Betty wedi gwybod yn reddfol, sut i aros yn llonydd a distaw nes bod y perygl yn mynd heibio. Dyna'r unig wers ddefnyddiol a ddysgodd Betty yn yr ysgol: y grefft o aros yn llonydd, a distaw ac edrych i ffwrdd. Roedd hi'n eneth fawr erioed, bob tro'n stryffaglu yn y cefn. Yr unig bwnc a hoffai oedd cerddoriaeth. Weithiau byddai'r athro'n chwarae record iddynt, a bydden nhw i gyd yn eistedd a gwrando. Roedd Betty’n cofio cynhesrwydd haul y prynhawn ar ei desg, ac addewid y gerddoriaeth, fel petai yna fywyd allan yno yn llawn cyfrinachau i'w rhannu.
Mae hi wedi bod yn gwrando ar gerddoriaeth eto ers marwolaeth ei Mam. Doedd ei Mam ddim yn hoffi cerddoriaeth. 'Tro'r sŵn 'na i ffwrdd' roedd hi'n arfer gweiddi. 'Mae'n rhoi cur pen i mi'.
Unwaith, pan oedd Betty yn y tŷ bach ac wedi gadael Radio 2 ymlaen yn y gegin, gafaelodd ei Mam mewn blwch llwch a'i daflu at y radio gyda nerth annisgwyl. Clywodd Betty'r trawiad ac yna sŵn cwpan ar hyd y llawr, a rhuthrodd allan wrth dynnu ei theits i fyny gan feddwl bod ei Mam wedi syrthio. Ond roedd ei Mam yn ei chadair, yn dal ei phen, ac yn crio:
'Allwn i ddim dioddef rhagor, mae fy mhen i am ffrwydro'.
Dyma oedd yr arwydd cyntaf fod ei meddwl yn dirywio hefyd.
Gwelai Betty rywun yn dod tuag at y fflatiau o ochr arall y stad. Y fenyw newydd sy'n byw drws nesaf ond un yw hi a symudodd yno tua thri mis yn ôl. Mae hi'n gwisgo dillad tywyll, o'i phen i'w thraed, fel na allwch weld ei hwyneb. Gwelodd Betty hi yn Londis unwaith, yn talu am ei siopa heb ddweud gair. Ar ôl iddi adael - er ei bod hi’n dal o fewn clyw - dywedodd Terry, y bachgen wrth y til, rywbeth am 'blydi terfysgwyr'. Teimlai Betty gywilydd; roedd hi'n gobeithio nad oedd y fenyw wedi deall. Ac yna gofynnodd Terry,
'Sut 'dach chi'n yfed te gyda'r holl ddillad 'na ymlaen?'
a fedrai Betty ddim peidio â chwerthin.
Nawr mae Betty'n gwylio'r fenyw wrth iddi frysio tuag at y fflatiau, ac mae hi'n gyfarwydd ag osgo ei hysgwyddau, wrth iddi ganolbwyntio’n ofnus ar gyrraedd adref. Bod yn gocyn hitio. Dyna yw ei thynged. Ac yn ddigon siŵr, o'r cysgodion y tu ôl iddi, caiff ei chyfarch â chyfres o floeddiadau hyll. Bydd hi'n deall hynny'n iawn, meddyliai Betty, pa un a yw’n deall yr iaith neu beidio. Roedd Betty’n teimlo’n flin amdani. Ond dyna fel mae.
Tuag at y diwedd, roedd ei Mam yn defnyddio iaith ofnadwy. Bob tro byddai Betty’n mynd yn agos ati - i'w hymolchi, ei newid, ei bwydo, wrth frwydro i gyflawni tasgau'r diwrnod - byddai ei Mam yn gweiddi geiriau nad oedd Betty erioed wedi credu bod ei Mam yn eu harddel. Ond wrth gwrs, meddyliodd Betty, mae pawb yn eu clywed drwy'r amser - ar y stryd, ar y teledu. A hyd yn oed yn y dyddiau cynnar, pan oedd meddwl ei Mam yn iawn, byddai Betty'n defnyddio'r geiriau hynny ei hun. Wrth sefyll yn y gegin i agor tun o rywbeth i swper, byddai'n poeri'r geiriau gan sibrwd yn isel a maleisus, a byddai'n rhwygo'r caead gyda'r agorwr tuniau fel petai'n rhwygo pen rhyw anifail. Wedyn, byddai Mam yn gweiddi:
'Beth ddwedest di?'
A byddai Betty'n ateb,
'Dim, darllen y cyfarwyddiadau ydw i'.
A byddai Mam yn dweud,
'Dim ond tun yw e, alli di ddim agor tun hyd yn oed?'
Roedd Betty’n mynd ar nerfau ei Mam. Roedd hi mor lletchwith, dyna'r drafferth, mor araf. Pan fyddai’n rhaid iddi lenwi ffurflenni budd-daliadau, byddai yn ei dagrau: byddai ei Mam mor rhwystredig am ei bod yn methu dal beiro a byddai’n sgrechian ar gamgymeriadau Betty; byddai Betty’n syllu ar y geiriau nes bod y cyfan yn troi’n siapiau rhyfedd. Yn y diwedd, bu’n rhaid iddynt gael gweithiwr cymdeithasol i'w helpu, a bu Mam bron â marw o gywilydd.
'Beth oedd hi'n feddwl ohonon ni?' oedd ei chri hi drosodd a throsodd. 'A'r lle 'ma mewn ffasiwn gyflwr!'
Mae'n fflat bach iawn, ond roedd ei Mam yn falch iawn o'u cartref. Roedd hi'n giamstar ar y gwaith pan oedd hi’n iach - pob dim yn dwt ac yn daclus yn ei le, a’r cyfan mor hawdd â dawns wedi'i hymarfer yn dda. Roedd hi o’i cho pan aeth i fethu gwneud y gwaith glanhau, a phan oedd rhaid iddi hyfforddi ei merch drwsgl o'i chadair:
'Nid fel 'na, dos i'r corneli! Os na wnei di fe'n iawn, dyw e ddim gwerth ei wneud o gwbl!' Roedd Betty’n dal ei thafod, yn peidio â gwrando a cheisio gwneud yn well. Ond nawr ac yn y man, pan oedd hi'n adeg o'r mis, neu os oedd hi'n fwy blinedig nag arfer, byddai'n ateb yn ôl: ‘Gwna fe dy hun!'
Ac roedd hi'n casáu ei hun am hynny. Nid yn unig am fod yn greulon. Roedd hi'n gwybod y byddai yna oriau o euogrwydd a diflastod o'i blaen tra byddai ei Mam yn osgoi ei llygad gydag osgo merthyraidd.
Mae cwmwl yn cuddio'r haul, ac mae Betty yn edrych tua'r ffenestr eto. Does neb yno. Dim Betty arall, nac ysbryd ei Mam. Dim ond fflat gwag, ac adlewyrchiad ar y ffenestr. Byddai'n well iddi fynd. Bydd hi'n cau’r drws, rhoi'r tegell ymlaen, cael bisged siocled a gwylio’r Weakest Link. Wedyn... Wel, wedyn, bydd hi'n siŵr o eistedd yno am dipyn gan wylio'r ceir ar y drosffordd a meddwl lle maen nhw'n mynd. Ac wedyn gall wylio’r rhaglen newydd yna, y gystadleuaeth i gantorion. Bydd Betty’n canu gyda nhw, achos does neb o gwmpas i gwyno erbyn hyn.
Does dim golwg o fechgyn y stad. Mae Betty’n codi ar ei thraed eto, yn casglu ei bag siopa ac yn mynd i gyfeiriad Bryn Hyfryd. Ar ôl cyrraedd, mae'r fenyw gyda'r gorchudd ar ei hwyneb yn sefyll wrth ddrws y lifft yn pwyso'r botwm. Mae Betty'n ochneidio.
'Lifft ’di torri eto' meddai, yn siarad â’i hun fwy neu lai, ac aiff ati i ddringo'r grisiau. Mae yna ddrewdod ffres ar y llawr cyntaf, a nyth o sbwriel yn y gornel gyda chwistrell yn ei ganol. Mae Betty'n troi i ddringo'r ail gyfres o risiau ac yn clywed sŵn y tu ôl iddi sy'n gwneud iddi oedi. Mae'r fenyw yn ymddangos gan afael yn ei sgert a dangos pâr o esgidiau ymarfer diraen. Mae Betty'n aros iddi fynd heibio. Tri llawr arall i fynd, ac mae pengliniau Betty’n gwegian yn barod. Mae hi'n pwyso yn erbyn y wâl fudr ac yn cau ei llygaid. Wrth eu hagor unwaith eto, mae’n gweld bod y fenyw yno, ychydig gamau o'i blaen. Mae hi'n gofyn rhywbeth nad yw Betty'n ei ddeall.
'Rwy'n iawn' meddai Betty. 'Dim ond cael fy ngwynt yn ôl'.
Mae'r fenyw yn nodio ac yn mynd yn ei blaen, a diflannu rownd y gornel.
Sut 'dach chi'n yfed te gyda'r holl ddillad 'na ymlaen?
Mae'n croesi meddwl Betty y byddai'n gallu gofyn i'r fenyw ddod i mewn am sgwrs. Fyddai dim rhaid iddyn nhw siarad. Byddai'n gallu rhoi’r Weakest Link ymlaen a bydden nhw'n gallu eistedd yno a chael paned o de. Fel yr oedd Betty a Mam yn arfer ei wneud.
Ond, mae'r fenyw wedi mynd, ac wedi cyrraedd drws ei fflat erbyn hyn. O, wel, meddai Betty, dyna ni. Mae hi'n parhau i ddringo’n araf ac yn canolbwyntio ar y cam nesaf, ac ar ôl hwnnw y cam wedyn.