Byth yn Diwrnod Da i Farw

 Rhai blynyddoedd yn ôl wnes i gyfweld a nifer o filwyr hen law’r  Ail Ryfel Byd yn Ne Cymru am gyfres o erthyglau papur newydd i nodi pen-blwydd hanner canfed glaniadau D-Day. Profiad diddorol i ddweud y lleiaf, i heddychwr drwy oes - ond un a wnaeth i mi yn ei dro ail-archwilio fy rhagfarnau fy hun, i roi’r llwyd yn ôl i feddylfryd a ddaeth yn rhy ddu a gwyn. Roedd rhai o’r bobl a gwrddais y pryd hynny’r unigolion mwyaf sensitif a’r praffaf eu meddyliau ac effeithiodd eu storïau arnaf yn fawr iawn. Ymgais yw’r stori ffuglen hon a ysbrydolwyd gan yr hanesion hynny, i edrych heibio’r ffurfwisgoedd yr ydym i gyd yn gwisgo.

Eifion Jenkins

 

Ges i sioc o glywed crecian y tân wrth i’r coed gynnau, yna swn y fflamau gwyllt fel rhaeadr pan ffrwydrodd y goelcerth. Wrth gwrs, noson tân gwyllt. Roedden ni’n gallu gweld y fflamau o ffenest y cartre preswyl. Daeth yr atgofion poenus yn ôl i fi am eiliad neu ddwy.

Mis Mai 1945. Sgubor mewn pentre Luneville yn Ffrainc, ddim yn bell o’r ffin gyda’r Almaen. Roedd haul y gwanwyn wedi cocsio’r cwmwl cynta o glêr diog a suodd o’n cwmpas mewn chwilfrydedd. Roedd golwg afreal ar y lle. Peth da bod rhyfel yn dy gadw di’n fisi. Petai’n rhoi amser i ti gymryd hoe fach a meddwl …

"Dylen nhw ymladd y rhyfel gyda phensiynwyr rili, ynte fe?" Roedd Dick yn siarad â gwelltyn yn ei geg a dim ond ffrwydrad o boer oedd y gair olaf. “Pam uffern maen nhw’n hala ni? Dynion ifanc gyda’n holl fywyd o’n blaenau?”

Hope I die before I get old. Daeth hynny nes ymlaen o lawer, cofia. Llinell mewn cân roedd y mab yn arfer ei chanu. Y chwedegau. Pan roedd hi’n drosedd i fod yn hen a drewdod rhyfel byd a 50 miliwn wedi marw arnoch chi. 1939. Roedd hi’n drosedd i fod yn ifanc yr adeg ’ny. Y gosb oedd … Normandy, 1944. Faset ti byth yn credu’r awyrgylch pan wnaethon ni listio gyda’r fyddin. Faset ti ’di meddwl y bydden ni’n mynd i lan y môr ar ein gwyliau. Ond dyna roedden ni - yn ymladd ein ffordd o stryd i stryd drwy’r adfeilion llosgedig. Nes ymlaen gofynnodd y padre am wirfoddolwyr i fynd nôl i gladdu’r bechgyn: fyddet ti byth yn gorchymyn i neb gerdded drwy faes ffrwydron, hyd yn oed mewn amser rhyfel. Roedd hi’n boeth. Yn ddrewllyd o boeth. Bron nad oedd modd i ti adnabod y cyrff am y cynrhon a’r pryfed. Claddon ni 14 mewn bedd dros dro - bechgyn roedden ni wedi bod gyda nhw trwy’r rhyfel o’r dechrau. Allen ni ddim gwneud dim byd yn rhagor. Torrais i fy nghalon y diwrnod yna.

A dyma fi yn dal ar dir byw i adrodd y stori. Ond dw i ddim yn ei wneud. Pan ddaw’r nyrs draw cyn hir bydd hi’n dweud: “Shwt wyt ti, Howie? Cofio’r hen ddyddiau, wyt ti?” A fydda i’n dweud wrthi’r math o storïau mae pobl moyn eu clywed. Yr un am yr hen dalp o facwn ffeindiais i mewn twll ’mochel y Jeris. Ac meddai’r bechgyn i gyd: “Paid bwyta hwnna, Howie. S’dim syniad ’da ti o ble ddaeth e. Efallai fod y Jeris wedi rhoi gwenwyn ynddo fe.” Y bore wedyn fe’i ffriais ar ’n stôf fach tra roedd y gweddill yn bwyta uwd bisgedi. "Rho damaid i ni, Howie," medden nhw wrth i wynt anhygoel y bacwn gael ei gludo ar yr awel trwy’r ffosydd. "Dim gobaith," medde fi. A gydol yr amser hisiai’r sieliau heibio fel yr hen dramiau yn mynd rownd corneli Abertawe cyn y rhyfel.

Those were the days my friend. Oedden, felly roedden nhw mewn ffordd. Mae dyddiau dy febyd wastad yr un fath. Dim fel ’na ges i’m magu, cofia. Dim ar unrhyw gyfri. Capel ac ysgol Sul yn selog ar ochr fy mam. Undeb llafur a heddychiaeth ar ochr ’nhad - na ladd. O leia wnaethon nhw gytuno ar hynny. Ond, myn uffern i, bywyd real oedd hwn. Llanc deunaw oed yn ymuno er mwyn teithio drwy Ewrob, ac ymladd dros deyrn a gwlad. Breuddwyd Boys' Own, ynte fe? Roedden ni cyn lased â’r cennin.

“Ti’n iawn, Howie? Gweld y goelcerth o fan ’na?” Y nyrs eto. Mae hi’n lico gwybod ’mod i’n iawn. Dywedais I wrthi hi am y ffermwr yn Ffrainc y tro ’na. Roedd e mor grac am ein bod ni wedi damshel ar ei gaeau, wnaeth e wrthod rhoi llaeth i ni er mwyn rhoi yn ein te. Codais i am chwech y bore trannoeth gyda bwced a godro ei dda cyn brecwast. Rhyddhau ei wlad ef roedden ni wedi’r cwbwl.

Ddywedon nhw fawr ddim wrthon ni. Wnaethon nhw ddim dweud ble roedden ni’n mynd na pha bryd; neu a fydden ni byth yn dod nôl. Geson ni ein hyfforddi i neidio mas o fad glanio i ddyfnder dwy droedfedd o ddŵr. Ar D-day, geson ni ein dadlwytho i mewn i bum troedfedd o donnau uchel. Milwyr tir sych, sâl fel ci wedi oriau yn croesi’r Sianel. Ie, mor dost roedden ni bron yn ddiolchgar am y fraint o adael y bad a hyrddio tuag at nythod y drylliau peiriannol ar y traethau.

When will they ever learn. Dyna oedd y llinell, ynte fe? Un o’r canwyr gwerin, ffaelu cofio’r enw. Ond wnaethon ni’r gorau ohono fe. Allen nhw ddim cadw ti rhag gwneud hwnna. Rwy’n cofio’r tanio tanllyd yn strempio awyr y nos wrth i’r awyrennau bomio hedfan uwchben y cymylau. Rwy heb weld sioe tân gwyllt tebyg oddi ar hynny. A ti’n gwybod beth? Roedd y bobl mor falch o’n gweld ni, roedden nhw yn niwsans dan draed. Dyna le roedden ni, yn ymladd ein ffordd o’r naill gornel i’r llall, yn treial osgoi bwledi o’r saethwyr cudd yn perthyn i ôl-fyddin benboeth Urdd Ieuenctid Hitler fyddai’n ymladd hyd yr eitha. A dyna’r Ffrancod - mas ar yr hewl yn chwifio baneri a photeli o win, yn dathlu fel y diawl. Rwy’n cofio dwyn afalau o’r perllannau ar hyd y ffordd. Roedden ni’n llwgu. Allen ni ddim sylwi bob tro a oedden nhw’n aeddfed neu beidio. Roedd cael dolur rhydd yn beryglus - cafodd llawer o’r bechgyn eu lladd gan ffrwydryn ar ôl rhuthro tu ôl i’r clawdd i ateb galwad natur. Hyd yn oed heddi mae’n rhaid i fi checo’r sêt pan af i i’r toiled. Rwy’n codi cyn y wawr hefyd. Rwy’n cofio cipio bryn lle'r oedd yr Almaenwyr yn cuddio mewn caerau o goncrit trwchus, a buon ni mas ar y tir agored. Roedd y wawr ar fin torri a dyna ni, yn ddiamddiffyn, targed hawdd iawn. Pan fod ofn yn cydio yn dynn yn dy berfeddion, ti’n meddwl: “Beth am i fi jyst codi nawr a rhedeg o ’ma?” Does unman i redeg. Mae’r dychryn yn dal i ’mhlagio, gorwedd yn disgwyl y wawr a’r sieliau i bistyllio lawr.

Mae’n dod i ’ngweld i yn aml, y mab, pan fydd e adre ar seibiant. Rwy’n credu ei fod e’n teimlo’n euog amdana i yn byw mewn cartre. Ond doedd dim ots ‘da fi. Pan fuodd y wraig farw doedd neb i edrych ar fy ôl. Rwy ar ’nhraed o hyd, dw i ddim wedi colli arni, dim ’to beth bynnag. Ond dw i ddim am fod yn faich ar neb. Beth sy’n ’nghorddi i yw hyn - dyn nhw ddim moyn gwybod. Maen nhw’n gweld y rhychau, y gwallt gwyn a’r niwl yn gorchuddio’r llygaid, ac maen nhw’n meddwl mai dyna i gyd sydd yno. Doedden ni ddim byd gwahanol yr adeg ’ny chwaith. Ond dyna beth sydd yn ein gwneud yn wahanol i’r anifeiliaid, ynte fe? Y ffaith ein bod ni’n gallu dysgu wrth gamgymeriadau pobl eraill? Ond a ydyn ni? Dim gobaith myn uffern i!

I don't like Mondays. Un arall oedd e’n arfer ei chanu. Roedd rhaid i fi chwerthin. Roedd marw ar un dydd mor hawdd â marw ar unrhyw ddiwrnod arall. Ond dyna ddiwrnod i’w chofio - dydd Llun, Mai 7fed, 1945, y diwrnod geson ni’r newyddion am y cadoediad. Aeth y pentrefwyr yn wallgo’. Llusgon nhw win o’r seleri a bwyd - Duw a ŵyr ble ffeindion nhw’r stwff i gyd. Aeth Dick a fi am dro bach. Roedden ni am gael amser i feddwl mewn lle tawel. Aethon ni â photel o seidr a dod o hyd i sgubor. Buon ni’n gorwedd yn y gwellt gyda’r haul yn hidlo trwy’r to drylliog ac yn siarad am gartre a beth uffern roedden ni’n mynd i wneud pan gyrhaeddon ni yno. A meddylion ni am yr holl fechgyn na fyddai’n mynd adref.

Un tro, wnaethon ni feddiannu wyth o gychod i groesi’r Afon Seine. Cafodd saith eu taro gan eger llanw a dymchwel. Buodd 14 o ddynion farw, wedi’u cymryd i lawr gan bwysau’r gynnau a’r offer. Ffordd ofnadw i fynd. A gallen nhw fod ’di mynd y ffordd ’na ar daith bysgota i Gŵyr. Ond i ddod mor bell trwy’r bwledi, y drewdod, y mwg a marwolaeth. Roedd Dick yn iawn. Dylen nhw recriwtio pensiynwyr i ymladd rhyfel.

Dim ond chwerthin wnaeth y nyrs pan ddywedais i hynny wrthi hi. "Se chi byth yn godde,” meddai hi. “Se chi’n conan nad oedd eich gwely ar yr ongl iawn a bod y bwyd yr un fath â bwyd ddoe. Ac os oedd hi’n oer neu’n llaith, sen nhw byth yn cael dim ymladd mas ohonoch chi." Ie, eithaf reit ’fyd. Ta waeth, pwy sy’n dweud nad ydyn ni’n dygymod â phethau? Mae hi yn oer ac mae’r gwely yn anghyffyrddus. A beth ych chi’n gwybod am gael yr atgofion yma i gyd wedi’u cloi tu fewn i ti? Weithiau faswn i’n lico meddwl bod gyda ti awgrym, yr awgrym lleia hyd yn oed, o sut oedd pethe.
Fues i byth yn mynd i gyfarfodydd hen filwyr nes i’r wraig farw. Nid bod ni’n siarad amdano fe - braidd dim o gwbl mewn gwirionedd. Y peth yw … o leiaf maen nhw yn gwybod sut oedd e. Ti’n gwybod bod nhw ’di gweld shrapnel yn rhwygo wyneb eu ffrind gorau fel nad oedd e’n ddim byd mwy na hances papur. A ti’n gwybod bod nhw ’di codi gwn a saethu dyn arall. Maen nhw wedi torri’r tabŵ eitha. Dyna’r rheswm dros fod yno. Dynion mwyn, rhan fwyaf ohonyn nhw. Dynion hynaws a oedd wedi gweld agwedd ar ddynolryw fase’n well gyda nhw beidio ei weld.

Ac wedyn aeth Dick a minnau o’r sgubor i’r pentre ac ymuno yn y miwsig, y dawnsio a’r canu o ddifri gan ddweud wrth ein gily’ mewn Saesneg a Ffrangeg bratiog ein bod ni ’di maeddu’r bastards! Ein bod ni wedi maeddu’r bastards! Ro’n ni ’di ennill y blydi rhyfel dros ryddid a democratiaeth a doedd na’r un arall yn mynd i fod byth eto. A phetai ’na Jeri ’di crwydro mewn i’r dathliadau fasen ni wedi’i guro ar ei gefn mewn Almaeneg bratiog hefyd. Wel, efallai na.

Rwy wedi cwrdd â llawer ohonyn nhw ers hynny. Y Jeris, y Hyniaid, y Bosh. Mae Abertawe wedi’i gyfeillio â Mannheim - bydden ni’n cwrdd â nhw bob blwyddyn gyda’r côr meibion. Dim byd gwahanol i ni. Dim ond pobl gyffredin yn gwneud eu gorau glas dros y teulu, joio peint, treial dod ’mlaen yn y byd a gwneud beth roedd pobl yn dweud wrthyn nhw.

”Ti’n iawn, Howie? Dwyt ti ddim yn llithro off i’r hen ryfel ’na eto, wyt ti? Beth wyt ti’n meddwl o’r tân gwyllt?”

Y nyrs eto. Beth wna i ddweud wrthi nawr? Fe wna i ddweud am y tro ’na gipion ni’r ysgol i ferched tu fas i Arnhem. Patrôl bach oedden ni, bob un yn amddiffyn dosbarth yn yr ysgol. Roedd hi’n gwmws fel golygfa mas o Beau Geste. Daeth y swyddog i bob stafell fesul un a thanio ei awtomatig i dwyllo Jeri fod llawer mwy ohonon ni. Cropiodd un o’r gelyn o dan y ffenest. Wnes i sylwi arno jyst mewn pryd cyn iddo daflu grenâd i’r stafell. Mae’r nyrs yn gwenu ac yn siglo ei phen. Dyw hi byth yn gofyn, a dw i byth yn dweud. Dw i byth yn dweud wrthi hi sut saethais i fe yn ei dalcen. Yn syth. Mae’r ffordd rhewodd e am eiliad yn graith ar ’nghof. Syllais i i’w lygaid wrth iddo farw. Llygaid glas oedden nhw, glas treiddgar. Ni allai fod yn fwy na 15 neu 16 oed.

Edrychais i i lygaid fel ’na bob dydd o ’mywyd ar ôl i’r mab gael ei eni. Nid oes diwrnod yn mynd heibio heb i fi feddwl am felltith y rhyfel.

Y rhyfel i roi terfyn ar bob rhyfel. Dyna ddoniol. A’r Rhyfel Byd Cyntaf oedden nhw’n siarad amdani'r adeg hynny. Ond fel byddaf yn dweud wrth y mab o hyd, nid rhyfel sy’n rhoi pen ar ryfela, neu yn trechu drwg, neu yn cynnal democratiaeth. Rhywbeth sy’n mynd ymlaen lan fan hyn yw e. Yn dy ben.

Petai ’na ond un peth gallwn ei newid ynghylch ’mywyd i, dyma beth fyddai fe. Petai fodd wedi bod i fi blannu, yn lle bwled yn nhalcen y Jeri ifanc ’na, yr un syniad yma - na fydd lladd yn dod i ben nes i ni roi stop ar yr ymladd.

Ni. Hynny yw, ti a fi, brawd. Ti a fi.

Darllenwch y stori nesaf - Bryn Hyfryd
 

back to top