Creu Prydain Decach
Amser maith yn ôl, roedd yna deigr bach o’r enw Bachaa. Fforestydd tawel a ffrwythlon yr India oedd ei gartref. Hogyn ei fam ydoedd, doedd ganddo’r un brawd na chwaer – ac roedd ei dad wedi eu gadael ers talwm. Er hynny, roedd Bachaa a’i fam yn fodlon eu byd gan fod India deg yn eu caru. Yng ngwres llethol yr haf, byddai’r India yn oeri Bachaa â chawodydd Monsŵn, a’i gynhesu â phelydrau’r haul. Byddai’n ei guddio mewn cysgodion dirgel, yn ymorol amdano ac yn ei ddiddanu â gloÿnnod byw a’i anwesu ag awelon melys.
Byddai mam Bachaa yn sibrwd, "O ’ngwas i, ti yw testun llawenydd dy dad a fi. Mae dy got yn ddisgleiriach na’r diwrnodau brafiaf o haf, a dy streipiau’n dywyllach na’r fagddu. Mae dy ddannedd yn feinach na gwyntoedd y gaeaf, a’th grafangau’n finiocach na chyllell dyn."
Chwaraeai Bachaa ar ganghennau’r coed hynafol, gan ymestyn am y pryfed tân a hedfanai’n ddiog yn yr awyr. Dilynai lwybrau cyfrin y goedwig, gan grwydro’i rhydwelïau, adnabod ei chroen, a chanfod ei chalon. Ar goll yn ei gartref, byddai’n syllu’n dawel ar y lloer, mor fawr â’r wybren, gan ddymuno i’r nos bara am byth.
Un diwrnod, roedd ei fam mor hapus â’r gog unwaith eto.
"O! ’machgen gwyn" meddai, "Am ddiwrnod bendigedig! Mae dy dad wedi dychwelyd, ac eisiau i ni fynd gyda fe – i lannau bae Abertawe. Beth wyt ti’n feddwl, Bachaa bach? Am ddiwrnod bendigedig!"
Gwenodd Bachaa ar ei fam afieithus. ‘Fe fyddwn ni’n byw gyda’r dreigiau, a chawn weld pwy sy’n gryfaf! Rhaid hwylio i Abertawe.' Cwta wythnos yn ddiweddarach, roedd y deigres a’i chenau yn camu ar fwrdd aderyn arian ag adenydd haearn. Y tu mewn, roedd pobl mewn siwt a thei yn chwysu chwartiau yn y gwres. Wrth i’r aderyn ruo fry, edrychodd Bachaa yn ôl ar India fawr. Roedd yr awyr yn goch gan y machlud, a’r bryniau’n dywyll yn y cyfnos. Cofiodd wên ei fam, a ffarweliodd yn dawel â’r India.
Ni edrychodd yn ôl ar ei famwlad wedyn.
Doedd Bachaa ddim yn hoffi hedfan. Roedd gwirfoddoli i gael ei lyncu gan aderyn ysglyfaethus, dros dro neu beidio, yn groes i’w natur. Roedd ei stumog yn troi wrth weld cymylau’r ffurfafen yn troi oddi tano.
Ar ôl glanio, estynnodd ei bawennau ar goncrid dieithr Caerdydd ac arogli’r awyr. Roedd draig goch ar gefndir gwyrdd a gwyn ar faner y maes awyr. Dyna’r unig fflach o liw a welai Bachaa. Roedd hi fel petai awyr y Prydeinwyr o dan len o goncrid a nhw wedi ymdrochi eu croen ynddo er mwyn ymdoddi i’r awyr lwyd, i’w gwneud hi’n haws i hela. Er ei fod yn drawiadol o amlwg yn ei got ffwr, ni sylwodd neb arno yn y ddinas ddieithr.
Roedd yr ychydig ddreigiau a welodd mor llwyd a diflas â’r awyr gymylog. Doedd ganddo ddim awydd profi’i hun yn eu herbyn, ac yntau’n rhy ddigalon i ddim. Roedd y concrid yn brifo’i bawennau, ac yn torri drwy’i grafangau miniog. Roedd yn llwgu ac yn hiraethu am wres yr India.
"Baagh, fy machgen glân i!” meddai tad Bachaa, “Ti wedi tyfu gymaint! Mor fawr a golygus, yn union fel dy dad."
Sylwodd Bachaa fod croen ei dad mor llwydaidd ag awyr Prydain. Roedd cannwyll ei lygaid yn glaerwyn. Gwisgai grys a oedd yn cuddio’r rhan fwyaf o’i farciau; roedd yr ychydig gudynnau o flew a welai o liw llwydfelyn budr. Roedd y ffwr o amgylch ei fochau a’i ddwylo wedi’i gribo a’i docio’n dwt. Roedd ei stumog yn rholio dros ei felt; a’i ên yn bolio dros ei goler ac yn ysgwyd wrth iddo siarad.
"Mae’n siŵr dy fod ti ar dy gythlwng’,” meddai â’i ên yn crynu.
“Ar ôl teithio mor bell. Dwi wedi paratoi hwn i ti."
Rhoddodd lond blât o bysgod a sglodion melyn i Bachaa. Roedd yr arogl yn glynu wrth ei ffwr a chefn ei daflod. Roedd y pysgodyn bach yn llwyd, a’r sglodion yn hongian yn llipa yn ei grafangau.
"Na, fachgen, yn Abertawe ry’n ni nawr” torrodd ei dad ar ei draws, “Rhaid i ti ddefnyddio’r rhain."
Daliodd tad Bachaa gyllell a fforc rhwng ei bawennau. Gwelodd grafangau ei dad. Roedden nhw wedi colli’u min, ac wedi’i ffeilio fel bysedd. Roedd Bachaa yn ei gasáu e. Nid oherwydd y fforc na’r pysgodyn na’r crys. Roedd Bachaa yn ei gasáu am gefnu ar India.
Bob dydd, byddai Bachaa’n crwydro’r ddinas, ac yn canfod rhywbeth newydd i’w gasáu. Yn y goedwig, roedd ganddo gant a mil o guddfannau, cysgodion y coed, ogofau tywyll, ac afonydd i chwarae ynddynt. Ond yma yn Abertawe, doedd dim byd ond concrid, golau a phobl. Roedd dydd a nos bron yn un, ac roedd Bachaa’n gweld eisiau’r sêr. Roedd y bobl i gyd yr un fath, a’r dreigiau hefyd. Hen bethau bregus a gadwai’u hunain i’w hunain, gyda’u pennau i lawr, gan gerdded heibio heb yngan gair.
Roedd yn awchu am gael bwyta gosht cig oen gyda’i fysedd, cyn llyfu’i ffwr yn lân. Gallai deimlo’i grafangau’n torri gyda phob cam ar y concrid, a’i lygaid yn pylu yn y golau gwan. Roedd gan Bachaa gur yn ei ben wrth geisio siarad iaith pobl. Doedd dim byd ar ôl i’w hela. Roedd popeth wedi’i ladd a’i rewi’n gorn mewn bocsys, yn barod i’w fwyta fel bo’r angen.
Doedd ganddo mo’r map i ddatrys y jyngl concrid o bobl, goleuadau, adeiladau a bocys rhewedig. Roedd yn ysu am gael gweld darn o wyrddni nad oedd y tu hwnt i’r mynyddoedd pell. Coedwig nad oedd mewn celloedd. Deffrodd ei synhwyrau a dechreuodd arogli heli yn yr awyr. Wrth droi ei olygon tua’r môr mawr, teimlodd Bachaa yn union fel y gwnaeth yn yr India, ac edrych ar y lleuad anarferol o fawr.
Unodd yr awyr a’r môr yn eu llwydni. Clustfeiniodd Bachaa ar y môr. Roedd sŵn y tonnau’n cosi’r tywod yn tawelu’i feddwl. Suddodd ei grafangau yn y tywod, a thynnodd linellau a chylchoedd arno. Ceisiodd sillafu’i enw yn Saesneg – ond roedd yn methu’n lân â chofio’r symbolau dieithr.
Cerddodd y cenau bach at ymyl y dŵr, a chyrcydodd yn isel fel petai’r dŵr yn ysglyfaeth. Neidiodd o’r neilltu wrth i’r llanw redeg ar ei ôl. Sbeciodd yn syn ar yr hyn a welai. Neidiodd ar yr ychydig greigiau a oedd ar gyrion y traeth, nes canfod pwll o ddŵr llonydd i’w astudio’n iawn.
Yn yr adlewyrchiad, fe welodd dri pheth. Gwelodd ef ei hun, yn ddarlun gwir ohono – teigr ag wyneb oren mawr a marciau du, a gên wen. Hefyd, gwelodd fachgen bach â phantiau du dan ei lygaid, a breichiau main crynedig.
Ond hefyd, gwelodd adlewyrchiad o rywbeth na welodd erioed o’r blaen. Roedd y ffwr ar ei wyneb wedi teneuo’n gennau. Roedd y crafangau ar ei ddwylo wedi’u llyfnu’n deneuach ac yn ddeheuig o finiog. Roedd ei dafod yn hirach fel sarff. Roedd ei ffwr melyngoch bellach wedi’i baentio’n rhuddgoch fel y ddraig ar y faner.
Y Teigr
Y Bachgen
Y Ddraig.
P’un oedd e? Chwythodd yr awel yn oer. Ni chrynodd Bachaa, gan fod gwres yr India’n dân yn ei fol. Bellach, gallai weld y sêr y tu hwnt i’r cymylau, gan fod ganddo yn awr adenydd i hedfan fyny fry. Byddai’n hela berdys y môr, ac adar y nefoedd, a phopeth arall rhyngddynt.
Neidiodd oddi ar y graig, ond yn lle glanio ar dywod, esgynnodd i’r awyr y tu hwnt i’r cymylau. Rhyfeddodd ar liw’r awyr o’i flaen; a chofiodd am air addas a ddysgodd yn ei iaith fenthyg.
Porffor.
Cafodd Bachaa fywyd hapus byth wedyn, rhwng lloer yr India a Phorffor Bae Abertawe.
Darllenwch yr stori nesaf - Byth yn Diwrnod Da i Farw