Creu Prydain Decach
Syllai Sam drwy’r ffenest, gan wylio’r bore’n datblygu fel llun mewn ystafell dywyll. Gallai weld Ysgol Gyfun Maendy yn y pellter, yn swatio rhwng cribau ysgythrog Mynydd Pen Pych. Anadlodd yn ddwfn. Echnos, daeth o hyd i ddilledyn newydd ym mag gwnïo’i fam. Bag bin plastig oedd y bag gwnïo gyda’r gair ‘Gwnïo’ wedi’i ysgrifennu ar label ar ei fola du. Roedd y bag yn llawn dop o hen ffrogiau a thwinsetiau yn disgwyl am edau a nodwydd ei fam, ond fyddai hynny byth yn digwydd. Bag o ryfeddod oedd hwn i Sam. Byddai’n eistedd am oriau dan y distiau gydag ef, yn datod rîl y les glas a’i rowlio drachefn, ac yn byseddu’r sgarff sidan gyda’r print anifeilaidd. Yna, daeth o hyd i’r sgert. Y sgert yr oedd am ei gwisgo i’r ysgol heddiw.
Roedd y sgert liw llechi wedi’i gosod yn ddel ar ei wely yn y gwyll. Gafaelodd ynddi a’i gwisgo’n swanc, gan deimlo’r cotwm yn arw ar ei groen. Edrychodd ar ei lun yn y drych, y sgert bletiog bron â chyrraedd y llawr. Roedd hi’n hir gan mai Susie, ei chwaer hÅ·n, oedd yn arfer ei gwisgo pan oedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Maendy. Roedd hi’n ffeminist gwrth-bornograffi, oedd bob amser yn cwyno am athrawon gwrywaidd pathetig yn gollwng pensiliau o dan y desgiau’n fwriadol er mwyn cael cip ar ddillad isaf y merched. Roedd y merched yn cael gwisgo trowsus bellach beth bynnag, ac roedd Susie’n fyfyrwraig yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn serennu, tra’r oedd Sam yn gorfod brwydro gyda phobl oes yr arth a’r blaidd. Galwodd ei fam arno o’r gegin, ond gweiddi ei ateb a wnaeth, rhywbeth ynglÅ·n â bwyta yn y clwb brecwast, a’i lais yn atsain drwy’r tÅ·. Sleifiodd drwy’r drws ffrynt a cherdded y filltir i’r ysgol yn hytrach na dal y bws hanner awr wedi wyth.
Dechreuodd y trafferthion wrth y gât. Roedd yna griw o’r pumed yn pwyso yn erbyn y golofn goncrid, yn rhannu sigarét. ‘Drycha!’ meddai un ohonyn nhw, yn methu coelio’i lygaid wrth i Sam gerdded heibio yn ei sgert. Clywodd don o chwerthin, fel dŵr yn codi i’r berw. ‘Pyrfyrt,’ galwodd un arall; ei lais yn chwerw o flin. Ciciodd un o’r criw gan Coke gwag i’w gyfeiriad. Tarodd y can gefn ei goes cyn syrthio i’r gwter.
‘Prin fod Eddie Izzard yn gorfod godde’ hyn,’ meddyliodd Sam, wrth iddo gamu tua’r ysgol, i gyfeiriad ystafell y chweched. Roedd wedi disgwyl ymateb o’r fath gan y bechgyn, a gwyddai fod gwaeth i ddod, ond ni allai newid y ffaith ei fod yn drawswisgwr fwy nag y gallai newid y ffaith ei fod wedi’i eni yn y De. Ni wyddai lle tarddodd yr ymddygiad, ai ei fagwraeth neu gynneddf oedd wrth ei wraidd. Roedd wedi’i fagu mewn tÅ· o fenywod heb ddynion. Cyn i Susie roi’r gorau i wisgo minlliw, roedd hi’n arfer lliwio ei wefusau ef byth a hefyd, fel petai’n ddoli fyw. Roedd yna luniau ohono’n fabi yn gwisgo clustdlysau anferth, pâr ar ôl pâr o glustdlysau mawr yn hongian ar ei glustiau bach. A nawr ag yntau’n ddwy ar bymtheg, gwyddai fod yn well ganddo sgidiau sodlau uchel na sgidiau cryf, ffrogiau nid crysau, a geriach gwallt nid gynnau. Gwyddai hefyd mai dewrder pobl gyffredin oedd yn newid barn y byd; meddyliodd am y gwahanu hiliol yn America yn ystod y 1950au ac am Rosa Parks, yn gwrthod ildio ei sedd i deithiwr gwyn ar y bws yn Alabama.
Hanes Cymru gyda Dave ‘the duffer’ Davies oedd gwers gyntaf Sam heddiw. Roedd ganddo wyneb fel hen feipen, yn cyfaddef ei fod yn homoffobig ac yn gwneud môr a mynydd ynglÅ·n â gramadeg. Yn ddiweddar, roedden nhw wedi bod yn astudio goresgyniad 1797, a hanes y fyddin Ffrengig feddw a drodd eu cefnau ar arfordir Sir Benfro ar ôl cael eu dychryn gan fenywod Cymreig yn eu hetiau traddodiadol. Roedd Sam wrth ei fodd â’r hanes, ond cyn iddo gyrraedd ei sedd, roedd Duffer wedi sylwi ar ei sgert.
‘Rhag dy gywilydd di’ meddai gan edrych dros ei hanner sbectol, fel petai Sam wedi’i sarhau ef yn bersonol.
‘Syr?’ meddai Sam, gan sefyll yn ansicr yng nghanol y ’stafell, a phawb yn rhythu ar ei ddillad.
‘Be yfflon ti’n wisgo?’ meddai Duffer, a’i wyneb yn goch gan ddicter.
‘Sgert,’ meddai Sam, fel 'tae angen egluro.
‘Allan!’ gwaeddodd Duffer. Taflodd ddarn o bapur i’r bin i ddangos ei fod o ddifri’. ‘Cer allan o’n stafell i, fachgen!’
Byddai wedi cael ei anfon at gynghorydd yr ysgol ond roedd hi adre’n sâl. Felly, bu’n rhaid i Sam aros yn swyddfa’r ysgol nes i’r wers orffen. Yna dyma Duffer yn cyrraedd, ei bapurau’n swp tynn dan ei fraich, a’i anadl yn drewi o de a baco. Eisteddodd y ddau yn wynebu’i gilydd, gyda’r dirprwy bennaeth yn y gornel; ei dwylo yn gafael yn dynn mewn potel o ddŵr mwynol.
‘Be di’r holl nonsens hyn te Samuel?’ meddai Duffer, gan edrych ar ei oriawr. ‘Mae rheolau’r ysgol yn datgan yn glir nad yw bechgyn yn cael gwisgo sgert. Felly paid dechrau rwdlan am hawliau dynol a rhyw nonsens fel 'na.’ Llithrodd chwerthiniad bach lletchwith o gornel ei geg.
Pesychodd y dirprwy bennaeth yn fwriadol. Roedd disgybl mewn ysgol gyfagos newydd ennill yr hawl i wisgo breichled grefyddol yn y dosbarth ar ôl mynd â’i hachos i’r Uchel Lys. Dyma beth oedd pwnc llosg.
‘Mr Davies, fydde’n well gen i petaech chi’n fy ngalw’n Sam,’ meddai Sam, ‘ac er tegwch i mi, yr hyn sy’n ymddangos yn rheolau’r ysgol yw “Dylai disgyblion o’r ddau ryw wisgo gwisg ysgol briodol.” Cyfeiriodd at y rheol yn y copi o’r rheolau a gafodd gan y dirprwy bennaeth. ‘Mae’r sgert hon yn wisg ysgol briodol. Roedd fy chwaer yn arfer ei gwisgo, ac mae’n briodol i mi ei gwisgo gan fy mod i’n drawswisgwr.’
Chwarddodd Duffer yn uchel. ‘Pwy ti’n feddwl wyt ti? Quentin blydi Crisp?’
‘Ydych chi’n cyfeirio at fy rhywioldeb i nawr?’ meddai Sam. ‘Roedd Quentin Crisp yn hoyw. Dwi ddim yn hoyw. Dwi’n drawswisgwr. A gan ein bod ni’n sôn am hawliau dynol, mae gen i hawl dynol sylfaenol i allu mynegi fy hun.’ Yn y bôn, roedd Sam yn gwybod ei fod yn llygad ei le, ond roedd rhyddid mynegiant yn fater anodd i’w reoli. Roedd yn gwybod mai prin y byddai bechgyn ysgol yn cael caniatâd i wisgo sgert i’r ysgol yn y dyfodol gan y byddai criw cegog y pumed yn ymosod arnyn nhw. Fe fydden nhw’n ei droi yn fater iechyd a diogelwch. Yr hyn yr oedd Sam am ei weld oedd i’r ysgol, a Duffer yn arbennig, gydnabod ei ymddygiad fel gweithred ddiniwed. Doedd dim byd o’i le ar drawswisgo. Roedd merched yn gwisgo fel y mynnent, a Sam hefyd. Ond cododd Duffer ar ei draed gan gipio rheolau’r ysgol o law Sam a’u taflu ar draws y stafell.
‘Pa siâp sy’ ar y byd 'ma?’ meddai gan chwifio’i fys yn wyneb Sam. ‘Ffilmiau cowbois hoyw a phriodasau hoyw. Menywod hoyw a ficeriaid hoyw.’
‘Dwi ddim yn hoyw,’ meddai Sam, ‘dwi’n fwy o lesbiad wrywaidd.’
Anwybyddodd Duffer ef gan ddweud, ‘Be nesa? Blwmin cadi ffan yn y TÅ· Gwyn?’ Cerddodd allan o’r swyddfa a chau’r drws yn glep ar ei ôl. Edrychodd Sam ar y dirprwy bennaeth oedd yn dal i eistedd yn y gornel, yn cnoi ei hewinedd. ‘Rwyt ti wedi dechrau rhywbeth rŵan,’ meddai. Daeth Sam i’r casgliad nad y chwyldro y byddai wedi dymuno ei weld fyddai hynny; iwtopia ryddfrydig wedi’i rheoli gan oddefgarwch yn hytrach nag ofn. Fwy na thebyg byddai Duffer yn derbyn rhybudd am ddefnyddio iaith ansensitif o flaen disgybl. Ond gwyddai Sam hefyd mai fel hyn oedd mynd ati i newid y byd, un cam bach ar y tro.
‘Aros tu allan am funud, os wnei di,’ meddai’r dirprwy. ‘Dwi angen gair â’r pennaeth.’
‘Iawn Miss,’ meddai Sam. Wrth iddo adael trodd yn ôl ac edrych ar yr emrallt cain ar wisg y dirprwy. ‘Miss?’ meddai.
‘Ie Sam?’
‘Dwi’n licio’ch broets chi Miss.’