Creu Prydain Decach
Roedd e’n hollol stiwpid ein bod ni yma. Yn sefyll yn edrych ar bobl Merthyr yn cerdded o gwmpas yn y glaw mân. Am ryw reswm, roedd Mrs Morgan wedi’n hala ni gyd ‘ma. Pob un o ddosbarth 9C. Er bod Merthyr yn fach, doedd neb arall o’r dosbarth i’w gweld erbyn hyn. Dim ond fi a Leanne a’r glaw. O’n i’n gwybod yn iawn fod Greg, Lee a Fat Phil wedi mynd i ryw gornel yn y parc i neud yr atebion lan. Ond roedd Leanne a fi yn ferched rhy dda. Bydden i byth wedi gwneud yr atebion lan. A Duw a wyr lle roedd y gweddill.
Dyma Leanne a fi’n sefyll yno, yn erbyn y wal ar bwys Wetherspoons. Clip-fwrdd coch twp yn fy nwylo a’r cwestiynau yn llosgi ar ein tafodau.
“I don’ want to ask anyone,” medde fi, gan edrych ar wyneb llawn colur Leanne. Roedd y ‘foundation’ yn dew a’i llygaid hi’n edrych yn llachar ac yn cwl. Edrychodd hi arna i. Roedd yn rhaid i ni holi rhywun. Roedd yn rhaid i ni ddechrau holi.
Dyma ni’n cerdded am ychydig a methes i helpu ond sylwi fod llygaid Leanne yn popio mas yn bellach na gweddill ei chorff. Roedd hi’n ferch fach iawn, ond roedd ei llygaid hi’n fawr, yn syllu allan o’n blaenau ni.
Dyma ni’n gweld hen ddyn yn sefyll ar bwys peiriant twll yn y wal. Roedd yr embaras yn ormod i’r ddwy ohonon ni, ond o leia ma’ hen ddyn oedd hwn ac nid ryw foi lysh.
“Esgusodwch fi. Ydych chi’n siarad Cymraeg?”
Syllodd yr hen ddyn yn ôl arnon ni.
“No,” meddai’n swrth a dyma fi’n edrych ar yr holl linellau ar ei wyneb. Roedden nhw’n ddwfn. Yn ddwfn ac yn stond. Ond yn sydyn, dechreuodd y llinellau symud.
“Always wanted to mind. My Mam spoke it, with her Mam. But then, times have changed aven’ they. You don’ know whether they’re still doin’ two for one on gaviscon in Savers do you girls?”
Syllais i lawr ar y clip-fwrdd ac ar y dewis atebion oedd ar gael. Ydy, nac-ydy a weithiau. Dyma dicio’r bocs oedd yn dweud ‘na’. Doedd dim lle ar y papur i egluro teimladau’r boi. Diolch byth.
Aethon ni yn ein blaenau, drwy’r glaw, a’r ddwy ohonon ni’n tynnu ein dwylo dros ein gwallt er mwyn trio cael gwared ar y dwr. Byddai’n gwalltiau ni’n hyll erbyn i ni gyrraedd yn ol i’r ysgol ar y rât hyn.
I mewn â ni wedyn i’r siop losin ar y sgwar. Doedd dim byd ond arian cinio yn fy mhoced i. Daeth poer i ngheg wrth i mi weld holl liwiau’r enfys yn sboncio yn y siop. Llygaid Leanne ddywedodd wrtha i fod problem gyda ni. Edrychais at y cownter yn y siop ac arhogl melys y losin yn rhedeg tuag ata i. Roedd y boi oedd yn sefyll yno’n hollol lysh. Llyncodd fi gyda’i lygaid mawr brown. Doedd e ddim wedi shafio, a dechreuais i feddwl am gael rhyw mewn pwll nofio. Rhywbeth roeddwn i wedi gweld ar y teledu gyda Suzanne y baby sitter ryw nosweth.
Roedd e’n amlwg fod y boi yn ffansio Leanne, ac roeddwn i eisiau ei bwrw hi ar ei phen gyda bric. Doedd dim dewis gen i ond gofyn y cwestiwn fy hunan.
“Don’t speak Welsh anymore,” meddai. “Don’t remember it. Did it in school. You girls want somethin’ or are you just in here arsin’ about?”
Gwenodd Leanne yn dwp gan ddangos ei dannedd newydd sbon. Dannedd oedd newydd eu rhyddhau o’u brace. Dyma geisio peidio edrych ar y ddau yn fflyrtio a rhoi croes yn y bocs cywir. Doedd hwn ddim yn siarad Cymraeg a dyma’r eiliad mwyaf crap ac embarrassing i fi erioed. Doeddwn i ddim yn bothered i fod yma yn gofyn cweistynau mor dwp i foi mor lysh.
Wrth i ni adael, roeddwn i’n dal yn teimlo’n grac wrth Leanne am ryw rheswm. Roedd ryw genfigen wedi dringo i mewn i nghroen i. Bitsh.
“Library?” holodd Leanne gan bwyntio. Edrychai ei gwisg ysgol hi’n cwl o gymharu a fy un i. Doedd y byd ddim yn deg. Dyma ni’n cerdded at y fynedfa a hi’n dweud fod pobl od wastad ar gael yn y llyfrgell. Siawns fydde ‘na rhywun yn fano yn siarad Cymraeg.
I mewn a ni, i fochel rhag y glaw.
Doedd neb i’w weld ar wahan i ddyn canol oed oedd yn sefyll y tu ol i’r cownter. Roedd e ar y ffon, a doedd e’n amlwg ddim yn mynd i siarad gyda ni nes ei fod e’n barod.
“How can I help?” holodd yn sych wedi iddo ddod oddi ar y ffon.
“We’re doin’ a survey?” medde fi, gan wybod fy mod i’n swnio fel mod i’n gofyn cwestiwn. Gwelais i fe’n edrych ar ein gwisg ysgol ni. Darllenodd fathodyn yr ysgol. Ro’n i’n meddwl am eiliad ei fod e’n pyrfio. Yn edrych ar ein tits ni.
“Wyt ti’n siarad Cymraeg?” holodd Leanne gan bwyso ar un goes a swingio’r llall. Roedd hi’n amlwg yn dal i feddwl am y bachgen yn y siop losin.
“Me?” meddai, gan chwerthin a’i geg ar gau. Un arall ar gyfer y bocs ‘na’ felly, meddyliais.
“Completely pointless language,” poerodd.
Trodd Leanne ei phen, troies inne fy un i hefyd. Doedd yr un ohonon ni wedi disgwyl ateb fel ‘na.
“What?” pwysodd ar y cownter ac edrych i lawr arnon ni, “you don’t think it’s pointless?”
Codais fy ysgwyddau. Do’n ddim wedi meddwl am y peth o’r blaen.
“See! You think it’s pointless too and you even know how to speak it!”
Gwenodd. Roedd e am i ni daflu dadl yn ol. Dw i ddim yn gwybod pam ond roedd rywbeth amdano yn mynd ar fy nerfau i.
“And it’s a waste of money too,” ymlaen a fe, gan ddal clip papur coch yn ei law chwith. “We should get rid of all the Welsh schools in the valleys. What’s the point in speakin’ it?”
Erbyn hyn, roedd ei gorff yn agos iawn at y cownter. Dyma’r ffon yn canu. Dw i’n falch iddo wneud. Rhoiodd hyn amser i fi feddwl. Pam fy mod i mor grac gyda fe am ddweud y pethau hyn? Efallai ei fod e’n iawn.
“So?” meddai, ar ol rhoi’r ffon yn ol yn ei grud, “you’ve got ewer answer.”
“Maybe it’s not pointless,” medde fi yn nerfus, “maybe I’d want to ask for somethin’ in Welsh… in a shop or somethin…”
Chwarddodd y boi wedyn, a gwelais linellau bach pert yn casglu o amgylch ei lygaid. Roedd e’n amlwg yn gwenu lot ar ryw adege.
“Where around here is someone goin’ to understand you if you ask for somethin’ in Welsh in a shop? My best mate’s daughter goes to a Welsh school. Never speaks a word with no one. Does her exams in Welsh, and that’s it.”
Roedd golwg o ddim byd ar wyneb Leanne. Doedd hi ddim yn edrych yn grac chwaith. Dw i ddim yn meddwl ei bod hi wed bod yn gwrando arno fe.
“It’s my right to learn Welsh, if I want to,” medde fi.
“Your right!” tuchiodd y boi gan blygu ei freichiau, “rights are things like bein’ able to drink clean water, not bein’ killed by fascists and ‘avin’ treatment for free in hospital. You can’t ‘ave rights to speak Welsh!”
“Of course I have,” medde fi. Ond dw i ddim yn gwybod pam i fi ddweud hyn. Falle taw Dad oedd yn siarad a nid fi.
“Bollocks have you got a right to it! You’re lucky enough to be taught it, then you don’t use it! I’ve got more of a right to it than someone who chooses not to speak it like you!”
Chwyddodd fy llygaid a throdd llygaid Leanne i edrych ar y llyfrau. Roedd e’n mynd yn fwy crac nawr, ond roeddwn i’n teimlo’n grac hefyd. Saethodd ei eiriau tuag ata i, fel milwr iaith.
“I do use it,” medde fi’n araf ond yn gadarn.
“When?”
“I speak it with my Dad. He’s from Llanelli.”
“That’s ‘cause he wants to speak it with you. But not with your mates, you don’t speak it with your mates…”
Gallwn deimlo fy mochau yn goch nawr.
“Sometimes,” meddai Leanne yn dawel. Do’n i ddim yn meddwl ei bod hi wedi bod yn gwrando.
“When?” saethodd y gair o’i geg fel gwn.
Ystyriodd Leanne. “When we want to slag someone off who doesn’t speak it.”
Gwenodd e. Gwenodd Leanne.
“In front of the teachers too”, medde fi, “and in netball when we’re playin’ against an English school.”
Gwenodd eto. Ryw wên rhyfedd iawn. Ac wedyn, dyma fe’n cau drws ei wyneb. Doedd ganddo ddim byd arall i’w ddweud. Roedd e wedi dweud popeth yn barod. Dyma rhoi croes yn y bocs. Doedd y boi hyn yn sicr ddim yn siarad Cymraeg.
Pan aeth Leanne a fi yn ol i’r ysgol roedd gwers Gymraeg gyda ni. Estynais i waelod y bag a ffeindio’r papurau gyda’r holl ganlyniadau arnyn nhw. Roedd banana wedi baeddu’r papur ond roedd e’n dal yn hawdd i’w ddarllen. Ac eniwe, roeddwn i’n cofio’r atebion p’run bynnag.
“Naethon ni ddim ffeindio neb sy’n siarad Cymraeg yn Merthyr miss.”
Doedd dim ots am hynny, medde miss. Faint o bobl oedd yn deall Cymraeg oedd yn bwysig, medde hi. Ond doeddwn i ddim yn meddwl taw dyna oedd y pwynt. Y pwynt oedd, faint o bobl oedd yn ei siarad e. O ddydd i ddydd. Am eiliad, nes i feddwl ei fod e’n rhyfedd iawn fod yr iaith Gymraeg gan rai pobl yn eu pennau ond bod e byth yn dod mas. Yn sownd yng nghefn eu pennau. Ar ol y wers, aeth Leanne a fi i fyny at Miss i ofyn os oedd Clwb Cinio ymlaen amser cinio fory.
“Ti’n joio bod yn athrawes miss?” a dywedodd hi wrtha i am fod yn dawel. Ac roedd hi’n iawn i wneud, doedd gen i ddim hawl gofyn y fath gwestiwn. Ro’n i’n depret i ddweud wrthi ei fod e’n amlwg nad oedd hi’n mwynhau bod yn athrawes. O’n i hefyd moyn dweud wrthi fod yna foi yn y llyfrgell ddylai fod yn athro. Ond wnes i ddim dweud dim byd.
Diflannodd Mrs Morgan am eiliad i holi athrawes arall os oedd yna Glwb Cinio yfory.
“Ti moyn dod i ty fi heno?” gofynais wrth Leanne.
Edrychodd Leanne o’i hamgylch, gan syllu tuag at y drws hefyd.
“Wha’ you speakin’ Welsh for? She’s gone”
Codais fy ysgwyddau.
“Dunno,” medde fi, cyn i ni’n dwy adael y dosbarth er mwyn rhedeg am y bws.