Gwnaeth ein hymchwil ‘Pwy ydych chi’n ei weld? Byw gyda’n gilydd yng Nghymru’ ganfod bod rhagfarnau’n dyfalbarhau tuag at gam-drin domestig a phobl â chyflyrau iechyd meddwl.
Dyma ddau faes y dylai cyflogwyr yng Nghymru ymgymryd â hwy er mwyn mynd i’r afael ag absenoldeb salwch ac i gadw staff medrus a phrofiadol a sicrhau bod staff yn teimlo’n ddiogel ac y bod hwy’n cael cefnogaeth a chymorth yn y gweithle.
I gynorthwyo cyflogwyr, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr o sefydliadau sector gwirfoddol arbenigol i bwyso a mesur yr hyn sy’n gwneud arfer a pholisi effeithiol. Trwy’r partneriaethau hyn rydym wedi cynhyrchu set o becynnau cymorth a chanllawiau ynghylch y ddau faes hyn.